A ydych chi wedi sylwi eich bod yn yfed mwy? Efallai eich bod wedi diflasu, yn unig, yn rhwystredig, yn bryderus neu'n ddig ac yn yfed mwy o alcohol o ganlyniad i hynny.
A ydych chi wedi bod yn prynu mwy o alcohol ers hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol? A ydych yn yfed yr alcohol sydd gennych yn y tŷ yn gyflymach nag arfer? A ydych wedi dechrau yfed yn ystod y dydd neu ar ddiwrnodau nad ydych yn yfed fel arfer?
Po fwyaf o alcohol a yfwn, y mwyaf y mae'n effeithio ar ein gallu i ymladd bacteria a feirysau - gall hyn arwain at risg uwch o haint a salwch. Ar hyn o bryd mae arnom i gyd angen i amddiffynfeydd ein cyrff fod mor gryf â phosibl, wrth i'r Coronafeirws ledaenu yng Nghymru.
Gall yfed hefyd effeithio ar sut y mae meddyginiaethau'n gweithio – gall atal y feddyginiaeth rhag gweithio cystal. Mae arnom angen i'ch meddyginiaeth weithio fel arfer, i'ch helpu chi, a'n GIG yn ystod yr argyfwng hwn.
Sut fyddai yfed llai o alcohol yn llesol i chi? Dyma beth mae pobl eraill wedi'i ddweud:
Os ydych am wybod am effaith alcohol ar eich iechyd a'ch bywyd bob dydd gallwch glicio yma.
Nid oes terfyn diogel ar faint o alcohol y gall pobl ei yfed. Felly rydym yn argymell eich bod yn cadw o fewn y canllawiau presennol. Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru sy'n yfed alcohol, yn gwneud hynny o fewn y canllawiau. Dilynwch y canllawiau hyn er mwyn cadw'ch hun yn iachach ac i ddiogelu'r GIG:
Rydym yn deall y gall fod yn anodd mesur neu wybod faint rydych yn ei yfed, neu sut beth yw uned o alcohol mewn gwirionedd, yn enwedig gartref. Mae apiau ar gael sy'n eich helpu i olrhain faint rydych yn ei yfed, neu gallech gadw dyddiadur, neu ddefnyddio cyfrifiannell unedau ar-lein.
Beth yw eich sgôr? Rhowch gynnig ar ein cwis ‘ystyried eich yfed’ i weld sut beth yw eich cymeriant alcohol.
A allwch chi fod fel y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru sy'n yfed alcohol, a gwneud hynny o fewn y canllawiau?
Dyma rai ffyrdd sydd wedi'u profi y mae pobl o bob rhan o Gymru wedi dweud wrthym sy'n eu helpu i dorri i lawr ar faint o alcohol maent yn ei yfed:
Rydym yn deall nad yw'n hawdd gwneud newidiadau, yn enwedig yn y cyfnod anodd ac ansicr hwn.
Meddyliwch am beth fydd eich her eich hun wrth dorri i lawr ar eich yfed, a sut y byddwch yn dod drwyddi.
Mae asiantaethau ar gael i helpu i'ch cefnogi chi, a gallwch bob amser siarad â'ch meddyg teulu neu eich fferyllydd os ydych yn pryderu am faint rydych yn ei yfed a sut i dorri i lawr.