Mae'n anarferol iawn i ni i gyd gael cais i aros gartref ac osgoi cysylltiad â'n ffrindiau a'n teulu. Gall rhai pobl fod yn teimlo'n arbennig o unig neu'n ynysig, hyd yn oed os nad yw hwn yn deimlad rydych chi wedi'i brofi o'r blaen.
Ar adegau o straen, mae'n bwysig defnyddio'ch rhwydwaith cymorth – gallai hyn fod yn deulu, ffrindiau, cymdogion, cydweithwyr neu eich cymuned ehangach. Mae hyn hyd yn oed yn fwy pwysig os oes angen i chi hunanynysu. Dyma rai syniadau a allai eich helpu i wneud hyn:
Yn ein hamgylchedd cartref arferol o ddydd i ddydd, rydym fel arfer yn gallu rhoi lle i'n gilydd, er enghraifft drwy fynd i'r ysgol, i'r gwaith neu gymryd rhan mewn hobïau. Mae aros gartref yn golygu bod tarfu ar ein harferion bob dydd a byddwn yn gweld eraill yn ein cartref yn llawer amlach. Gallai cytuno ar drefn, y mae pawb yn cael lleisio barn amdani, a pharchu preifatrwydd eich gilydd, eich helpu i ailadeiladu eich trefn ddyddiol, yn ogystal â rhoi rhywfaint o'r lle i chi yr ydych wedi arfer ag ef yn ôl i chi.
Os yw cysylltu'n rhithwir yn beth newydd i chi, gallech ddefnyddio cyrsiau am ddim Learn My Way i wella'ch sgiliau digidol. Mae gan y cwrs adran benodol yma wedi'i chynllunio i sicrhau eich bod yn hyderus gyda phopeth y gallai fod angen i chi ei wneud ar y rhyngrwyd, gan gynnwys siopa ar-lein a chyfryngau cymdeithasol.
Gallwch hefyd ddod o hyd i ganllaw cam wrth gam ar sut i gynnal galwad fideo â'ch teulu yma.
Mae llawer o ffyrdd i wirfoddoli o hyd pan fyddwch yn aros gartref, er enghraifft drwy gyfeillio â phobl dros y ffôn. Gallwch ddod o hyd i ragor o ffyrdd i helpu yn Gwirfoddoli Cymru.