Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos 62: Canlyniadau arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd 'Sut ydym ni yng Nghymru?'

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dyma'r canfyddiadau allweddol:

  • dywedodd 15 y cant o bobl eu bod wedi bod yn poeni ‘llawer’ am eu hiechyd meddwl a'u llesiant yn ystod y saith diwrnod diwethaf; i lawr o 20 y cant yn wythnos 58
  • roedd 35 y cant o bobl wedi bod allan i fwyta, naill ai mewn caffi, tafarn neu fwyty yn ystod y saith diwrnod diwethaf. 
  • dywedodd 88 y cant o bobl eu bod yn deall y cyfyngiadau presennol sydd ar waith yng Nghymru naill ai'n eithaf da (45 y cant) neu'n dda iawn (43 y cant)
  • roedd 77 y cant yn cytuno bod y cyfyngiadau presennol ‘yn iawn fwy neu lai’
  • roedd 50 y cant o bobl yn anghytuno â'r datganiad bod y rhan fwyaf o bobl yn dilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol (roedd 39 y cant yn cytuno)
  • dywedodd 35 y cant o bobl eu bod wedi dod i gysylltiad agos (sy'n golygu o fewn un metr) â mwy na 10 o bobl o'r tu allan i'w haelwyd yn y saith diwrnod diwethaf. 

Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod 7 i 13 Mehefin 2021, pan gafodd 600 o bobl eu holi

Bob pythefnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.

Arolwg

Arolwg Ymgysulltu â’r Cyhoedd am Iechyd a Llesiant yn ystod Mesurau Coronafeirws: Wythnos 62 (7fed i’r 13eg o Fehefin 2021)