Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos 48: Canlyniadau arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd 'Sut ydym ni yng Nghymru?'

Cyhoeddwyd: 12 Mawrth 2021

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dyma'r canfyddiadau allweddol:
 
•    roedd 59 y cant o bobl yn teimlo eu bod yn deall ‘yn dda iawn’ y cyfyngiadau presennol sydd ar waith yng Nghymru i leihau lledaeniad coronafeirws.  
•    roedd 42 y cant o bobl o'r farn y dylid caniatáu i bob siop agor o fewn y tair wythnos nesaf.
•    roedd 74 y cant o bobl yn cytuno â'r datganiad ‘dylai fod yn orfodol i bob oedolyn gael ei frechu rhag coronafeirws’.
•    dywedodd 87 y cant o bobl eu bod o'r farn y dylai pobl orfod profi eu bod wedi cael eu brechu er mwyn teithio dramor.
•    dywedodd 84 y cant o bobl eu bod o'r farn y dylai pobl orfod profi eu bod wedi cael eu brechu er mwyn gweithio mewn lleoliad fel cartref gofal neu ysbyty.
•    dywedodd 13 y cant o bobl eu bod yn ‘bryderus iawn’ y gallent gael coronafeirws; gostyngiad pellach o 18% yn wythnos ddiwethaf yr arolwg. 
Bob pythefnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.