Neidio i'r prif gynnwy

Uchafbwyntiau Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru 2019

Diolch i bawb a wnaeth y digwyddiad eleni yn llwyddiant mawr 

Daeth dros 800 ohonoch at eich gilydd ar gyfer Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru eleni yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd ar 17 ac 18 Hydref. 

Dros ddeuddydd, roedd cyfranogwyr o bob rhan o amrywiaeth enfawr o broffesiynau a sectorau gwahanol wedi creu awyrgylch gwych a lle i brofi, meddwl, rhwydweithio, trafod, creu a rhannu atebion er mwyn helpu i greu Cymru iachach. 

Roedd thema eleni, ‘Creu Cymru iachach, Trawsnewid cenedl i greu bywydau iachach’ yn gyfle i chi ganolbwyntio ar yr hyn sy'n sbarduno iechyd a llesiant sy'n mynd y tu hwnt i ofal iechyd i gyfrannu at gymuned fyd-eang iachach.

Mae uchafbwyntiau WPHC 2019 yn cynnwys: 
•    Lansiodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething AC, y strategaeth Pwysau Iach. 
•    Lansiodd yr IHCC y Pecyn Cymorth Gweithredu Siarter GIG Cymru.
•    Esboniodd Chris Brown, Sefydliad Iechyd y Byd, bwysigrwydd mynd i'r afael ag anghydraddoldeb mewn iechyd a rhannodd rai ffyrdd penodol o fynd i'r afael â hyn 
•    Cafwyd trafodaeth ragweithiol gyda'n siaradwyr Ann Beynon OBE, yr Athro Laura McAllister, Derek Walker a'r Cynghorydd Huw David yn gofyn a yw Cymru yn ddigon dewr? 
•    Agorodd y Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton yr ail ddiwrnod yn cynnwys ein sesiwn panel gwych gyda Rachel Royall, IBM, Mark Palmer, Google, yr Athro Peter Bradley, Iechyd Cyhoeddus Lloegr a Rebecca Campbell, S3 Advertising. 
•    Arweiniodd Dr Andrew Goodall CBE, ein Dreigiau yn beirniadu'r negeseuon a ddatblygwyd drwy ein sesiynau Meddyliathon a oedd wedi para am ddiwrnod cyfan 
•    Ymunodd disgyblion o Ysgol Uwchradd y Pant â ni unwaith eto eleni, gan sicrhau bod llais pobl ifanc yn cael ei glywed yn glir.
•    Roedd y sesiynau sbotolau yn cynnwys cyfraniadau gan Trafnidiaeth Cymru, ARUP, Prifysgol Caerdydd, Heddlu De Cymru a WYG ymhlith llawer mwy. Roeddem yn falch o glywed bod gennym rywbeth i bawb!
•    Llwyddodd y sgyrsiau sydyn i ennyn diddordeb ac ysbrydoli, gan amrywio o ddydd Gwener Awyr Iach i fynd i'r afael ag Anweithgarwch yn yr Arddegau.
•    Cefnogodd yr Hwb Gwyddorau Bywyd gynhadledd eleni gan gyflwyno sesiwn Sbotolau fel ein partner digwyddiad allweddol.

Edrychwch ar uchafbwyntiau'r ddau ddiwrnod yn y fideo a'r oriel lluniau.

Mae arolwg byr ar ôl y digwyddiad wedi'i anfon drwy e-bost at y cynadleddwyr, mae eich adborth yn werthfawr felly cymerwch yr amser i'w lenwi. 

A oes gennych awgrym ar yr hyn yr hoffech ei weld yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru 2020? Byddem wrth ein bodd yn ei glywed! Anfonwch eich awgrym at y tîm cyfathrebu.