Neidio i'r prif gynnwy

Rhybudd i'r cyhoedd bod risgiau iechyd difrifol yn gysylltiedig â thawelyddion 'presgripsiwn' sy'n cael eu gwerthu ar-lein

Mae Adroddiad Blynyddol WEDINOS ar gyfer 2020-21, a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi nodi bod amnewidion yng ngwerthiannau anghyfreithlon Diazepam yn parhau'n frawychus o uchel, gyda 57.3 y cant o samplau a gyflwynwyd heb gynnwys unrhyw diazepam o gwbl.

Mae arbenigwyr iechyd yn rhybuddio bod y cyffuriau hyn, sy'n aml yn cael eu prynu'n hawdd ar-lein, â goblygiadau difrifol i iechyd pobl gan nad oes ganddynt syniad beth maent yn ei gymryd mewn gwirionedd, ac ar ba ddos.  

Meddai Josie Smith, Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Arweinydd Rhaglen WEDINOS: “Mae'r pryderon i iechyd cyhoeddus yn parhau gan nad yw'r cynhyrchion hyn o safon fferyllol ac, er gwaethaf eu hedrychiad, maent yn ffug. Gall cynhyrchion ffug, fel y tystia WEDINOS, gynnwys sylweddau gwahanol ac ystodau dos.  

“Mae hyn yn golygu nad yw unigolion sy'n cymryd y cynhyrchion hyn yn ymwybodol o'r dos, amser dechrau effeithiau, hyd effeithiau neu wrtharwyddion â sylweddau neu feddyginiaethau eraill ac o ganlyniad maent yn wynebu risg uwch o niwed posibl i iechyd a niwed arall. 

“Byddem yn annog unrhyw un y mae angen y feddyginiaeth hon arnynt i siarad â gweithiwr iechyd proffesiynol a'i gael drwy bresgripsiwn.” 

Yn dilyn llacio cyfyngiadau Coronafeirws, mae WEDINOS wedi gweld cynnydd sylweddol mewn gweithgarwch dros y deuddeg mis diwethaf, gyda chynnydd o 92.6 y cant yn y samplau a gyflwynwyd.  

Ynghyd ag ailagor lleoliadau economi nos a dychweliad gwyliau cerddoriaeth, cynyddodd cyflwyniadau cymunedol dros 60 y cant, sy’n dystiolaeth o ymwybyddiaeth uwch o wasanaeth WEDINOS a'i fuddiannau o ran lleihau niwed.  

Gyda'r nifer cynyddol hwn o samplau, mae WEDINOS hefyd wedi gweld cynnydd o 14.6 y cant o ran nifer y sylweddau a nodwyd. Mae bensodiasepinau wedi parhau i fod y grŵp cemegol o sylweddau seicoweithredol a nodwyd amlaf am hanner degawd. Yn ystod 2021-22, cafodd cyfanswm o 20 o bensodiasepinau eu proffilio, a diazepam oedd y sylwedd a gyflwynwyd yn fwyaf cyffredin yn ôl bwriad prynu. 

Eleni 2021/22: 

  • derbyniwyd 7,457 o samplau, sef cynnydd o 92.6 y cant ers 2020/21.  
  • dadansoddwyd 6,345, sef 85.7 y cant. 
  • Cynyddodd y samplau cymunedol 59.5 y cant i 4,684. 
  • Nodwyd 181 o sylweddau, sef 14.6 y cant. 
  • 90 o wahanol sefydliadau, gwasanaethau a lleoliadau economi nos 73.1 y cant. 
  • Oedran canolrif y rhai a roddodd samplau oedd 32 oed (ystod oedran 14 i 80 oed). 
  • Cocên oedd y sylwedd a nodwyd amlaf. 
  • Y sylwedd a nodwyd amlaf yn y gymuned oedd cocên, ac yna diazepam. 
  • Lleoliadau cyfiawnder troseddol – Mirtazapine oedd y sylwedd a nodwyd amlaf. Fodd bynnag, cafodd mwy o samplau eu proffilio fel “dim cyfansoddyn gweithredol”. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn paratoi adroddiadau a gwybodaeth i ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol a rhyngwladol i sicrhau ei fod yn seiliedig ar y dystiolaeth orau i ddiogelu a gwella iechyd. 

Gellir lawrlwytho'r adroddiad llawn yn:

Gall y rhai sy'n ceisio cymorth ar gyfer pryderon sy'n ymwneud â chyffuriau neu alcohol gysylltu â Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru ar radffon 0808 808 2234, drwy decstio DAN i: 81066 neu drwy fynd i dan247.org.uk 

Ceir rhagor o wybodaeth am WEDINOS yn www.wedinos.org 

Mae rhagor o wybodaeth am gamddefnyddio sylweddau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael yn: