Neidio i'r prif gynnwy

Rheolau ymgysylltu â'r gymuned: Ildio eich pŵer er mwyn i gymunedau allu cymryd rheolaeth

Mae ymgysylltu â'r gymuned sy'n arwain at rymuso yn dda i iechyd.

Dylai cyflogeion Iechyd Cyhoeddus Cymru fyfyrio ar y pŵer sydd gan unigolion a sefydliadau, cydnabod hyn a'i ildio wrth weithio gyda chymunedau neu ar eu rhan yn ôl canllaw newydd sy'n ceisio llywio arfer unigol a sefydliadol wrth ymgysylltu â chymunedau.

Bydd y canllaw newydd yn helpu gweithwyr proffesiynol i greu amodau lle gall cymunedau gymryd rheolaeth a chael eu grymuso. Cafodd y canllawiau eu llywio gan ganfyddiadau o waith grŵp ffocws gydag aelodau o'r gymuned, sefydliadau sy'n wynebu'r gymuned a staff o bob rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Mae'n diffinio ac yna'n trafod ymgysylltu â'r gymuned er mwyn grymuso, ac mae hefyd yn edrych ar y rhwystrau lluosog i rymuso systematig. Mae'r rhain yn cynnwys arferion ymgysylltu â'r gymuned, diwylliant proffesiynol, pŵer lleoliadol, gorchmynion polisi cenedlaethol ac ethos a diwylliant sefydliadol y sector cyhoeddus.

Mae'r ddogfen yn amlygu'r angen i gydnabod, gwerthfawrogi, a defnyddio pob math o wybodaeth mewn ffordd gyfartal gan mai dim ond drwy wrando ar gymunedau y gallwn ddatblygu ymyriadau a gwasanaethau sy'n briodol i'r cymunedau hynny. 

Meddai Carol Owen, Prif Ymarferydd Iechyd Cyhoeddus, Is-adran Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
 “Mae'n bwysig iawn ein bod ni fel gweithwyr iechyd proffesiynol yn myfyrio ar ein harfer a'n gwaith ein hunain ac yn eirioli dros well ymarfer ymgysylltu â'r gymuned ledled Cymru. Un o themâu amlycaf y canllaw yw bod angen i ni wrando ar gymunedau a chreu amodau lle gallant gymryd pŵer a chymryd rhan wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu cymunedau. 

“Mae'r ddogfen yn cynnig fframwaith rhagorol ar gyfer gweithredu, ac mae canfyddiadau cynnar o un o'r ‘safleoedd profi’ yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi bod y Canllaw wedi bod yn fuddiol drwy herio ymarferwyr i feddwl o ddifrif am ddynameg grym wrth weithio gyda chymunedau.” 

Gan fod cefnogi a galluogi unigolion a chymunedau i gael mwy o ddylanwad dros benderfyniadau sy'n effeithio arnynt a'u hiechyd a'u llesiant yn un o'r themâu craidd sy'n rhedeg drwy'r Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth Iechyd Cyhoeddus, dylai'r canllaw hwn fod o ddiddordeb arbennig i weithwyr proffesiynol iechyd y cyhoedd.

Mae'r canllaw hwn yn amlygu mai canlyniad llwyddiannus ymgysylltu â'r gymuned yw cymunedau wedi'u grymuso a bydd mabwysiadu'r egwyddorion canlynol yn helpu i gyflawni hyn:

  1. Rhaid i ymgysylltu â'r gymuned sy'n arwain at rymuso fod yn systemataidd ac yn hirdymor.
     
  2. Mae ymgysylltu â'r gymuned sy'n ceisio grymuso yn golygu bod angen i ni greu lleoedd cyfranogol sy'n ceisio meithrin deialog ar sail gyfartal a chyfrannu at ddatblygu perthnasoedd sy'n ymddiried yn ei gilydd dros amser. 
     
  3. Mae ymgysylltu â'r gymuned sy'n arwain at rymuso unigolion a chymunedau yn golygu cydnabod yr anghydbwysedd o ran pŵer a bod yn eglur ynghylch ildio pŵer.
     
  4. Mae grymuso cymunedau yn ei gwneud yn ofynnol i ni gydnabod, gwerthfawrogi, a rhyddhau capasiti mewn cymunedau cyn dechrau gweithio i adeiladu asedau pellach.
     
  5. Mae geiriau'n bwysig; gall y ffordd y caiff cymunedau eu disgrifio fod yn stigmateiddio ac yn anrymuso, ac efallai na fydd yn adlewyrchu sut y mae cymuned yn gweld ei hun.
     
  6. Mae ymgysylltu â'r gymuned sy'n ceisio grymuso yn ei gwneud yn ofynnol i ni gydnabod, gwerthfawrogi, a defnyddio pob math o wybodaeth mewn ffordd gyfartal.
     
  7. Cydnabod a gwerthfawrogi'r gweithlu sy'n darparu rhyngwyneb â chymunedau; gellir hwyluso ymgysylltu effeithiol ar gyfer grymuso drwy weithio drwy eraill.
     
  8. Mae grymuso'r gymuned yn galw am weithredu ar draws y system gyfan, nid yn y gymuned yn unig. Rhaid i'r rhai sy'n gweithio gyda chymunedau ac ar eu rhan fod yn ddigon dewr i ddad-ddysgu a mynd i'r afael â'r heriau sydd eu hangen yn eu sefydliadau eu hunain.

Bydd y ddogfen yn cefnogi ein staff i fod yn hyrwyddwyr ar gyfer ymgysylltu â'r gymuned ar gyfer grymuso, drwy eu gweithredoedd eu hunain a thrwy eirioli dros yr Egwyddorion yn eu partneriaeth ar draws y sector cyhoeddus ehangach. 

Gellir dod o hyd i'r canllaw llawn drwy'r ddolen ganlynol :

Canllaw

Egwyddorion Ymgysylltu â’r  Gymuned er mwyn Grymuso

Fideo