Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn cymryd y cam nesaf ymlaen

Cyhoeddwyd: 13 Ionawr 2021

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP), sy'n cael ei harwain gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Bydd y rhaglen genedlaethol hon, a fydd yn cyfrannu at weithredu'r Cynllun Cyflawni Pwysau Iach, Cymru Iach, yn gweld ymarferwyr gofal iechyd yn cyflwyno ymyriad byr i bobl y nodwyd eu bod mewn perygl uwch o ddiabetes math 2. Bydd yr AWDPP yn cael ei gyflwyno'n raddol gyda gwerthusiad integredig i gefnogi datblygiad rhaglen sy'n seiliedig ar dystiolaeth. 

Mae ein hadroddiad, 'Datblygu'r Ymyriad ar gyfer Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan', a gyhoeddwyd heddiw, yn amlinellu dyluniad ymyriad AWDPP, elfennau allweddol y gwaith sy'n sail iddo, a thrylwyredd y broses a wnaed i gyrraedd y dyluniad hwn. Mae'r AWDPP yn adeiladu ar ddulliau a gafodd eu treialu a'u gwerthuso mewn dau glwstwr gofal sylfaenol ar wahân, sef Cwm Afan a Gogledd Ceredigion.

Dywedodd Dr Amrita Jesurasa, Ymgynghorydd Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Hoffwn ddiolch i'r gweithwyr proffesiynol o bob disgyblaeth yng Nghymru sydd wedi gweithio gyda ni i adolygu a mireinio pob elfen o'r cynllun ymyriad. Mae'r gwaith hwn wedi ein galluogi i gysoni'r AWDPP â chanllawiau NICE, Llwybr Rheoli Pwysau Cymru Gyfan, egwyddorion gofal iechyd darbodus a gwyddor ymddygiad, er mwyn gwneud y mwyaf o'i effeithiolrwydd.”

Dywedodd Zoe Wallace, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae datblygu'r AWDPP yn gyfle cyffrous i ofal sylfaenol, dieteg ac iechyd y cyhoedd weithio ar y cyd i leihau baich clefydau a achosir gan ddiabetes math 2 ac i gefnogi mwy o bobl yng Nghymru i fyw'n dda am gyfnod hirach.”

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â PHW.AWDPP@wales.nhs.uk

Adroddiad