Neidio i'r prif gynnwy

Offeryn ar-lein newydd yn anelu at sicrhau bod y rhai sydd â'r angen mwyaf yn cael cefnogaeth yn ystod y pandemig

Mae Map Ymateb i COVID-19 Cymru yn tynnu sylw at ardaloedd lle mae nifer uwch o bobl sy'n agored i COVID-19, yn ogystal ag ardaloedd lle gallai fod llai o gefnogaeth gymunedol ar gael.

Fe'i cynlluniwyd i helpu asiantaethau, sefydliadau cyhoeddus a’r trydydd sector i nodi'n well lle y gallai fod angen rhagor o gefnogaeth.

Datblygwyd y map rhyngweithiol ar y cyd gan Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru, Uned Epidemioleg Integreiddiol MRC ym Mhrifysgol Bryste a Sefydliad Alan Turing. 

Mae'n gweithio trwy fapio gwybodaeth am fregusrwydd, megis data ar yr achosion o COVID-19 sy’n cylchredeg a nifer y bobl sydd â risg uchel, yn erbyn lefelau cefnogaeth gymunedol a arweinir gan ddinasyddion ledled Cymru, fel y nodwyd trwy ffynonellau cyfryngau cymdeithasol, cymunedau sy’n hunan-drefnu a sefydliadau’r trydydd sector.

Mae'n tynnu sylw at y meysydd lle mae anghydbwysedd posibl rhwng cefnogaeth ac angen, lle gallent elwa ar gymorth ychwanegol.

Dywedodd Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Ers dechrau’r pandemig, bu cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy’n gwirfoddoli i helpu yn eu cymunedau lleol, o siopa ar gyfer cymdogion oedrannus, i gynnig wyneb cyfeillgar neu gefnogaeth arall.

“Gall dod â data sydd ar gael yn agored ynghylch anghenion a chefnogaeth ynghyd drwy’r offeryn gweledol hwn helpu i lywio trafodaethau ochr yn ochr â deallusrwydd lleol i gyfeirio cefnogaeth i’r grwpiau a’r cymunedau bregus sydd ei hangen fwyaf.

“Er na all unrhyw offeryn unigol roi darlun cynhwysfawr o ymateb cymunedau lleol, efallai na fydd llawer ohono ar-lein, mae'r map hwn yn dangos y posibilrwydd o ddod â gwahanol ffynonellau data ynghyd i helpu i lywio gwybodaeth leol am ymateb gweithredol y gymuned mewn amser real."

Dywedodd Dr Oliver Davis, Athro Cysylltiol a Chymrawd Turing yn Ysgol Feddygol Bryste a Sefydliad Alan Turing:

“Roedd ein grŵp ymchwil yn falch iawn o ddefnyddio ei arbenigedd mewn gwyddor data iechyd i gefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac fe’n calonogwyd i weld bod y data’n dangos bod cymunedau yn helpu ei gilydd yn ystod yr adeg heriol hon. Rydym yn arbennig o falch ein bod wedi gallu cymhwyso egwyddorion gwyddoniaeth agored i helpu pobl eraill sy'n gweithio ar reoli'r achosion o COVID-19."

Gan roi mewnwelediad pellach i'r nifer cynyddol o bobl ledled Cymru sy'n gwirfoddoli, dywedodd Ruth Marks, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA): “Rydyn ni wedi gweld ymateb rhyfeddol gan wirfoddolwyr yn ystod yr argyfwng, ac mae dros 33,000 o wirfoddolwyr bellach wedi cofrestru gyda Gwirfoddoli Cymru.

“Mae pobl wedi bod yn gwirfoddoli mewn llawer o ffyrdd. Mae enghreifftiau anhygoel o wirfoddoli anffurfiol ar lefel leol, a hybiau cymorth cymunedol yn cael eu sefydlu a’u cydgysylltu gyda chymorth arbenigol Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CVC’s) yn ogystal â rolau gwirfoddoli mwy ffurfiol a gydlynir trwy volunteering-wales.net.

“Bydd yr offeryn map ymateb i COVID-19 nawr yn helpu i sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu i’r rhai sydd angen cefnogaeth gwirfoddolwyr wrth i gamau nesaf y pandemig esblygu.”

Gallwch weld Map Ymateb i COVID-19 Cymru ar-lein yma.