Neidio i'r prif gynnwy

Mwy o bobl yn wynebu risg o ganlyniadau iechyd gwael o Brexit ar ôl i'r pandemig gynyddu natur agored i niwed

Cyhoeddwyd: 22 Medi 2021 

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at natur agored i niwed Cymru o ran unrhyw effeithiau negyddol Brexit ar iechyd a llesiant y genedl yn dilyn pandemig y Coronafeirws.  

Gan adeiladu ar dystiolaeth bod y pandemig wedi cael effaith anghyfartal ar gymdeithas Cymru, mae’r astudiaeth yn nodi sut, nawr yn fwy nag erioed, ei bod yn bwysig deall sut y bydd Brexit a chytundebau masnach yn y dyfodol yn effeithio ar iechyd a llesiant y rhai sy'n byw mewn tlodi neu sy’n wynebu risg o dlodi. 

Ymhlith y ffactorau allweddol a nodwyd mewn perthynas â bod yn agored i niwed roedd:  

  • Erbyn diwedd mis Rhagfyr 2020, roedd 69 y cant o economi’r DU wedi’i effeithio’n negyddol gan Brexit a/neu’r pandemig 
  • Yn 2019, cafodd 61% o'r nwyddau o Gymru eu hallforio i'r UE, sef canran uwch nag ar gyfer y DU yn gyffredinol  
  • Rhwng 2014-2020, roedd cyllid strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd tua phedair gwaith cyfartaledd y DU, fesul person 
  • Yn 2020, roedd tua un o bob deuddeg o staff a gyflogwyd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn wladolion nad oeddent o’r DU, ac roedd y mwyafrif ohonynt o’r UE. 

Mae'r adroddiad hefyd yn dwyn ynghyd dystiolaeth ar sut y mae tlodi wedi effeithio ar bobl yng Nghymru:  

  • mae 180,000 o blant yn byw mewn tlodi yng Nghymru; mae saith o bob deg o blant mewn tlodi incwm cymharol yn byw mewn aelwydydd sy'n gweithio 
  • mae gan Gymru un o’r cyfraddau tlodi mewn gwaith uchaf yn y DU, gydag un o bob saith gweithiwr yn byw mewn tlodi 
  • Cyn y pandemig, roedd un o bob pump o oedolion y DU mewn gorddyled neu’n agored i niwed o ran ergydion ariannol 
  • Ym mis Mawrth 2020, nid oedd gan dros chwarter o aelwydydd Cymru ddigon o gynilion i dalu am eu hincwm rheolaidd am fis yn unig 

Mae ‘Brexit a thlodi yng Nghymru: drwy lens iechyd cyhoeddus’ (Saesneg yn unig) yn nodi er bod effaith Brexit yn parhau’n ansicr, bydd unigolion a theuluoedd sy'n wynebu anfantais luosog ac annhegwch, fel y rhai ar incwm isel, y di-waith neu sy'n wynebu tlodi mewn gwaith, neu sydd â llai o gadernid ariannol, er enghraifft llai o gynilion aelwyd, yn fwy agored i niwed o ran unrhyw effeithiau economaidd negyddol posibl Brexit. 

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar bum maes allweddol lle mae effeithiau Brexit yn debygol o gael eu teimlo gan y rhai sy'n profi tlodi: 

  • Cyflogaeth a sgiliau: gallai Brexit effeithio ar rai sectorau a gweithwyr sydd, hyd yma, wedi’u heffeithio yn llai gan y pandemig. Fodd bynnag, mae cyfleoedd sy'n dod gyda gadael yr UE, fel mwy o swyddi ar gael i weithwyr iau. 
  • Cydnerthedd ariannol: gallai unrhyw effeithiau economaidd negyddol Brexit gael effaith yn ogystal â’r rhai a welwyd eisoes o ganlyniad i’r pandemig – er enghraifft ar aelwydydd ag incwm isel neu ansicr, neu oedolion iau. 
  • Cyllid ar gyfer mynd i'r afael ag anghydraddoldebau: gallai colli cronfeydd strwythurol yr UE effeithio’n sylweddol ar rai cymunedau a grwpiau agored i niwed yng Nghymru. Mae ansicrwydd parhaus ynghylch a fydd Cronfa Codi'r Gwastad y DU neu’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn cyfateb i fuddsoddiad blaenorol mewn rhannau o Gymru. 
  • Gwasanaethau cyhoeddus: mae gwasanaethau cyhoeddus yn ddull cymorth hanfodol i'n cymunedau mwyaf difreintiedig. Gall newidiadau i reolau mewnfudo achosi diffygion staffio mewn rhai gwasanaethau fel gofal cymdeithasol, gyda phryderon am beth mae hyn yn ei olygu yn y tymor hwy.  
  • Diogelu'r cyflenwad bwyd: bydd unrhyw gynnydd ym mhris bwyd yn effeithio fwyaf ar y rhai sy'n profi tlodi, ac yn effeithio ar allu pobl i brynu bwyd maethol.   

Meddai Dr Sumina Azam, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Diben yr adroddiad hwn yw nodi’r risgiau a'r cyfleoedd posibl, a nodi camau gweithredu i helpu Cymru i baratoi ar gyfer Brexit a chytundebau masnach yn y dyfodol ac ymateb i effeithiau hyn. 

“Dylid gweld hyn fel cyfle i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn iechyd a llesiant yng Nghymru a gweithio tuag at greu cymdeithas decach i bawb. Er enghraifft, mae'n bwysig ein bod yn nodi cymunedau y mae colli cyllid yr UE yn effeithio fwyaf arnynt a thargedu cyllid yn y dyfodol at y rhai yr effeithir fwyaf arnynt, a chryfhau ein dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng masnach ac iechyd, fel ein bod yn deall yn well beth fydd effeithiau cytundebau masnach yn y dyfodol ar gyfer ein cymunedau.  

“Gallwn hefyd weithio i wella rôl ein gwasanaethau cyhoeddus, sy’n cefnogi ein cymunedau a’n poblogaethau mwyaf agored i niwed, a chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r gymuned ehangach y maent wedi’u lleoli ynddi, drwy gyflogi staff lleol, neu drwy gyfrannu at yr economi leol.”