Neidio i'r prif gynnwy

Mawrth 2022: Canlyniadau arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd 'Sut ydym ni yng Nghymru?'

Cyhoeddwyd: 11 Ebrill 2022

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru:

Yn ystod mis Mawrth, dywedodd y rhan fwyaf o bobl eu bod yn parhau i ddefnyddio mesurau amddiffynnol i leihau eu risg o ddal neu ledaenu coronafeirws. Er enghraifft:  

  • dywedodd 92 y cant y byddent yn hunanynysu pe bai ganddynt symptomau coronafeirws.  
  • dywedodd 68 y cant eu bod yn osgoi mannau poblog.  
  • dywedodd 66 y cant eu bod yn cadw nifer y bobl y maent yn cyfarfod â nhw i leiafswm.  
  • dewisodd 40 y cant o bobl restrau aros y GIG fel eu prif flaenoriaeth polisi ar gyfer y 12 mis nesaf. 

Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu 7 – 31 Mawrth 2022, pan gafodd 1000 o bobl eu holi. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal cyfweliadau â miloedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae dros 26,000 o drigolion Cymru wedi cymryd rhan yn yr arolwg. 

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.