Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymchwil newydd yn atgyfnerthu pwysigrwydd negeseuon clir am fanteision brechlynnau i annog mwy o staff y GIG i fanteisio arnynt.

Cyhoeddwyd: 27 Hydref 2021

Mae astudiaeth newydd, wedi'i chyllido gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, wedi dangos y gallai negeseuon clir a llawn gwybodaeth am fanteision brechu annog mwy o staff y GIG i fanteisio arnynt. 

Wrth i'r rhaglen brechu ffliw flynyddol a'r pigiadau atgyfnerthu Coronafeirws gael eu cyflwyno, mae astudiaeth newydd, wedi'i chyllido gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, wedi dangos y gallai negeseuon clir a llawn gwybodaeth am fanteision brechu annog mwy o staff y GIG i fanteisio arnynt.  

Cynhaliodd gwyddonwyr ymddygiad o Brifysgol Sheffield Hallam yr astudiaeth ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi mwy o ddefnydd o'r brechlyn ffliw blynyddol.  

Cynhaliodd ymchwilwyr o Ganolfan Gwyddor Ymddygiad a Seicoleg Gymhwysol y Brifysgol (CeBSAP) gyfweliadau â 36 o weithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTMUHB) i archwilio ffactorau sy'n dylanwadu ar nifer y rhai sy'n manteisio ar y brechlynnau ffliw a Covid-19. 

Canfuwyd nifer o ffactorau sy'n dylanwadu'n gadarnhaol ar nifer y rhai sy'n cael eu brechu gan gynnwys cael y brechlyn i amddiffyn eu hunain, eraill, a'r GIG yn ogystal â chael cymorth gan y gweithle i gymryd amser o'r gwaith i gael y brechlyn.   

Datgelodd yr astudiaeth hefyd fod pandemig Covid-19 wedi cynyddu eu dealltwriaeth o'r angen am y brechlyn ffliw.   

Gwnaeth yr ymchwilwyr hefyd gynnal gweithdai gyda rhai gweithwyr i drafod ymyriadau i fynd i'r afael â'r rhwystrau rhag brechu. Ymhlith awgrymiadau'r cyfranogwyr roedd:  

  • Pwysleisio gwerth a budd y brechlynnau ffliw (e.e. amddiffyn eich hun, amddiffyn anwyliaid, amddiffyn cleifion, amddiffyn cydweithwyr ac amddiffyn y GIG) 
  • Sicrhau bod negeseuon yn cynnwys delweddau a negeseuon sy'n cynrychioli gwahanol grwpiau staff sy'n derbyn brechlynnau (e.e. staff clinigol ac anghlinigol)  
  • Sicrhau bod negeseuon yn cynnwys gwybodaeth ynghylch sut, ble a phryd y gallant gael eu brechlynnau, yn ogystal â dolenni i ragor o wybodaeth a chymorth  
  • Sicrhau bod negeseuon yn atgyfnerthu bod brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol  
  • Sicrhau bod negeseuon yn defnyddio iaith hygyrch.  

Gwnaeth cyfranogwyr yr astudiaeth hefyd awgrymu y gallai hyfforddi cymheiriaid i gael sgyrsiau cefnogol i hyrwyddo nifer y rhai sy'n cael brechiadau fod yn arbennig o werthfawr.  

Meddai Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Datblygu yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'n hanfodol bod gweithwyr y GIG yn teimlo'n hyderus am ddiogelwch brechlynnau a phwysigrwydd eu cael pan gânt eu cynnig.” 

“Mae'r ymchwil hanfodol hon wedi ein galluogi i nodi rhwystrau, er mwyn i ni allu mynd i'r afael â'r materion hyn yn uniongyrchol ac annog mwy o weithwyr i gael eu brechiadau, gan helpu i amddiffyn eu hunain ac eraill.”   

Dr Rachael Thorneloe, Uwch-gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan ar gyfer Gwyddor Ymddygiad a Seicoleg Gymhwysol, arweiniodd yr astudiaeth.  

Meddai Dr Thorneloe: “Mae'r prosiect hwn wedi ein galluogi i nodi rhwystrau a hwyluswyr allweddol o ran nifer y rhai sy'n cael brechiadau'r ffliw a brechiadau COVID-19 ymhlith grŵp o weithwyr y GIG. 

“Drwy nodi a chydgynhyrchu rhai ymyriadau allweddol gyda gweithwyr bydd y negeseuon yn adlewyrchu eu hanghenion a'u blaenoriaethau yn ogystal â helpu i sicrhau'r bod y nifer uchaf posibl yn cael eu brechu yn y rhaglenni brechu presennol ac yn y dyfodol.” 

Ariannwyd yr ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Gellir darllen crynodeb gweithredol, a'r adroddiad ei hun, yma:

 
I gael rhagor o wybodaeth gweler gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer brechiadau'r ffliw a COVID-19: