Neidio i'r prif gynnwy

Mae trawma y gellir ei atal mewn plentyndod yn costio $1.3 triliwn y flwyddyn i Ogledd America ac Ewrop

Ar draws Ewrop a Gogledd America mae effaith hirdymor Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) ar iechyd a chynhyrchiant yn cyfateb i 1.3 triliwn doler y flwyddyn, yn ôl papur newydd a gyhoeddwyd yn Lancet Public Health.

Mae'r gost yn cyfateb i dri y cant enfawr Gynnyrch Mewnwladol Crynswth cyfunol y ddau ranbarth - neu 1,000 doler y flwyddyn am bob person yng Ngogledd America ac Ewrop.
Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) yn cynnwys dioddef camarfer plant a dod i gysylltiad â thrais domestig, alcoholiaeth rhieni a mathau difrifol eraill o straen wrth dyfu i fyny. 
Yn ôl y papur, mae cynifer â 319 miliwn o bobl 15 oed neu'n hŷn yn Ewrop a 172 miliwn yng Ngogledd America yn byw gydag etifeddiaeth ACE, a allai fod yn niweidiol i'w hiechyd.

Yn y dadansoddiad economaidd cyntaf o ACE ar draws Gogledd America ac Ewrop mae'r astudiaeth hon yn trafod sut y byddai atal ACE ar draws y ddau ranbarth yn lleihau pwysau ar wasanaethau iechyd oherwydd cyflyrau sy'n cynnwys clefyd y galon a chanser, yn ogystal â lleihau'r niwed cymdeithasol ehangach sy'n codi o ACE sy'n gysylltiedig ag alcohol, defnyddio cyffuriau, gorbryder ac iselder.
Mae'r papur, a ysgrifennwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd, Swyddfa Ranbarthol Ewrop, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Phrifysgol Bangor, yn canfod bod ACE yn cael eu priodoli i:

  • 18.2 y cant o unigolion yn smygu yn Ewrop, a 23.7 y cant yng Ngogledd America - ar gost amcangyfrifedig o $165 biliwn yn Ewrop a $160 biliwn yng Ngogledd America
  • Tua 30 y cant o achosion o orbryder a 40 y cant o achosion o iselder yng Ngogledd America, a mwy na chwarter o'r ddau gyflwr yn Ewrop – ar gost flynyddol gyfunol o tua $51 biliwn yn Ewrop a $82 biliwn yng Ngogledd America
  • Mwy na chwarter o achosion o glefydau anadlol yng Ngogledd America a thua un rhan o bump o achosion yn Ewrop – ar gost amcangyfrifedig o $99 biliwn yng Ngogledd America a $47 biliwn yn Ewrop
  • Tua 1 o bob 10 o ganserau yng Ngogledd America ac Ewrop - ar gost amcangyfrifedig o $95 biliwn yng Ngogledd America a $117 biliwn yn Ewrop

Meddai awdur arweiniol y papur, yr Athro Mark Bellis yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae unigolion sy'n dioddef ACE fel camarfer plant neu drais domestig yn gallu talu pris uchel drwy effeithiau gydol oes ar eu hiechyd a'u rhagolygon economaidd. Fel cymdeithas, serch hynny, rydym i gyd yn talu am fethu mynd i'r afael â thrallod yn ystod plentyndod drwy ei effeithiau ar ein gwasanaethau iechyd, systemau cymdeithasol a'n gweithlu. 

“Mae pob plentyn yn haeddu plentyndod diogel a meithringar, ac mae ein canfyddiadau yn rhoi cefnogaeth economaidd i hyn, gan awgrymu y gallai hyd yn oed ostyngiad cymedrol o 10 y cant yn y niferoedd sy'n dioddef ACE fod yn gyfwerth ag arbedion blynyddol o $105 biliwn y flwyddyn. 
“Rydym yn gwybod beth sydd angen ei wneud. Mae rhaglenni ar gael i atal profiadau ACE ac i feithrin cydnerthedd i leihau eu heffaith ar y rhai sy'n dal i ddod i gysylltiad â'r profiadau hyn.  Mae lleihau'r risgiau o drallod yn ystod plentyndod yn ei gwneud yn ofynnol buddsoddi mewn cefnogi teuluoedd a phlant yn eu blynyddol cynnar hanfodol yn lle gwario llawer mwy yn ddiweddarach mewn bywyd pan fydd llawer o ganlyniadau mwyaf costus trallod plentyndod yn dod i'r amlwg.”

Meddai Jonathon Passmore, Sefydliad Iechyd y Byd, Swyddfa Ranbarthol Ewrop, Rheolwr y Rhaglen dros Drais ac Atal Anafiadau:

“Mae ymgysylltu ag aelod-wladwriaethau ar Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn parhau i fod yn un o amcanion allweddol Sefydliad Iechyd y Byd yn Rhanbarth Ewrop.  Mae meintioli ACE a'u canlyniadau yn allweddol i atal sylfaenol o ran y profiadau hyn a, thrwy amrywiaeth o wahanol ymyriadau a amlinellir yn y pecyn technegol INSPIRE, maent yn cael eu blaenoriaethu yn y rhanbarth.”
Mae'r papur yn synthesis o astudiaethau rhyngwladol lluosog ar ACE a dadansoddiad economaidd o'u heffaith hirdymor ar iechyd a chynhyrchiant dioddefwyr ac oedolion ar draws Ewrop (Rhanbarth Sefydliad Iechyd y Byd) a Gogledd America. Mae'r 23 o astudiaethau cyfunol yn defnyddio data o 1.6 miliwn o unigolion.