Neidio i'r prif gynnwy

Dod â baich profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'r dystiolaeth ar gyfer gweithredu ar draws Ewrop ynghyd am y tro cyntaf

Cyhoeddwyd: 20 Ionawr 2023

Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar y cyd â Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd a Phrifysgol John Moores Lerpwl yn tynnu sylw at y ffaith bod lleihau effeithiau gwenwynig parhaus profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) ar draws Ewrop yn bosibl drwy atal, meithrin cydnerthedd a chymryd rhan mewn arfer sy'n cael ei lywio gan drawma.  

Gall cam-drin plant, amlygiad i drais domestig ac ACE eraill adael pobl gyda phroblemau iechyd, cymdeithasol ac economaidd drwy gydol eu bywydau. Ar draws Ewrop, amcangyfrifir bod 319 miliwn o bobl wedi dioddef o leiaf un math o ACE, ac mae 142 miliwn wedi dioddef sawl math o ACE.  

Am y tro cyntaf, mae'r adroddiad newydd hwn yn dod â thystiolaeth ar ACE ar draws Ewrop ac yn rhyngwladol ynghyd, ac yn tynnu sylw at gamau gweithredu effeithiol i fynd i'r afael â’u baich. 

Meddai Sara Wood, o Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, Iechyd Cyhoeddus Cymru, “gall ACE gael effeithiau niweidiol ar draws y cwrs bywyd, gan effeithio ar gyfleoedd addysg, iechyd, cymdeithasol ac economaidd pobl a rhoi baich mawr ar gymdeithas ac o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus. Drwy ddod â'r hyn sy'n hysbys am ACE a'r dystiolaeth ar gyfer camau gweithredu effeithiol ynghyd, mae'r adroddiad hwn yn cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu cymdeithas sy’n cael ei llywio gan drawma sy'n buddsoddi mewn camau gweithredu i atal ACE a chynorthwyo’r rhai yr effeithir ganddynt yn well.”  

Meddai Mark Bellis, Athro Iechyd Cyhoeddus a Gwyddor Ymddygiad ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl, “Mae’n bleser gennym weithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd ar y mater pwysig hwn. Yn ogystal â gadael mwy o bobl yn agored i salwch, gallu ACE leihau cyrhaeddiad addysgol, gan gyfyngu ar gyfleoedd unigolion i gael gwaith a chynyddu'r siawns y byddan nhw a’u teuluoedd yn dioddef o amddifadedd. Gyda phwysau cystadleuol dwys ar wariant cyhoeddus, mae'n bwysig cofio bod buddsoddi mewn plentyndod diogel a meithringar yn arwain at fanteision gydol oes i iechyd ac yn aml yn sicrhau llawer o bunnau o arbedion am bob punt a gaiff ei gwario ar fynd i'r afael ag ACE. Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu sut y gall rhaglenni, sy'n cefnogi rhianta ac yn dod â sgiliau o sectorau iechyd, cymdeithasol a sectorau eraill ynghyd, leihau nifer y plant sy'n profi ACE a gwella iechyd a chyfleoedd y rhai sy'n parhau i ddioddef camdriniaeth, esgeulustod a mathau eraill o drallod.” 

Meddai, Jonathon Passmore, Swyddog Technegol Rhanbarthol ar gyfer Trais ac Atal Anafiadau yn Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd, “Mae'r adroddiad hwn yn nodi dechrau cyfnod newydd o ymgysylltu Sefydliad Iechyd y Byd ag aelod-wladwriaethau a chymheiriaid is-genedlaethol ar gyfer cynyddu camau gweithredu ar atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a'r ymateb i hyn.  Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn barod i gefnogi aelod-wladwriaethau Ewropeaidd wrth ddatblygu polisïau ac arferion cenedlaethol. 

Mae ‘Mynd i'r afael a phrofiadau niweidiol yn ystod phlentyndod (ACE) - y sefyllfa ddiweddaraf ac opsiynau ar gyfer camau gweithredu’ (Saesneg yn unig) yn adroddiad ar y cyd gan Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Atal Trais ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl a Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd. Mae'n dangos effaith wenwynig barhaus ACE ar draws Ewrop, a sut y gellir atal ACE a’u canlyniadau.