Neidio i'r prif gynnwy

Dioddefodd mwy nag wyth o bob deg dyn yn y carchar drallod yn ystod plentyndod

Trallod yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â mwy o amser yn y carchar, troseddu treisgar a hanes o amser mewn sefydliadau troseddwyr ifanc.

Mae carcharorion gwrywaidd yn llawer mwy tebygol na dynion yn y boblogaeth ehangach o fod wedi dioddef trallod yn ystod plentyndod fel camarfer plant neu fyw mewn cartref gyda thrais domestig, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor.

Awgryma Arolwg ACEs Carcharorion y gallai camau ataliol ac ymyrraeth gynnar i fynd i'r afael â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) atal troseddu a lleihau costau ar gyfer y system cyfiawnder troseddol.

Yn yr arolwg newydd hwn o ddynion yng Ngharchar Ei Mawrhydi (EM) y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, de Cymru, dywedodd mwy nag 8 o bob 10 (84%) eu bod wedi profi o leiaf un Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) o gymharu â chyfartaledd o 46% yng Nghymru.

Nododd bron hanner y carcharorion (46%) iddynt brofi pedwar neu fwy o ACE. Mae hyn yn cymharu ag ychydig dros 1 o bob 10 (12%) yn y boblogaeth ehangach.

Canfu'r adroddiad hefyd fod carcharorion ag ACE lluosog (pedwar neu fwy) bedair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi treulio amser mewn sefydliad troseddwyr ifanc o gymharu â'r rhai heb unrhyw ACE.

Mae ACE yn brofiadau trawmatig sy'n digwydd cyn 18 oed.  Maent yn amrywio o gam-drin plant geiriol, meddyliol, corfforol a rhywiol, i ddod i gysylltiad ag alcoholiaeth, y defnydd o gyffuriau a thrais domestig gartref.

Mae plant sy'n profi ACE yn fwy tebygol o fabwysiadu ymddygiad sy'n niweidiol i iechyd a gwrthgymdeithasol pan fyddant yn oedolion, maent yn wynebu risg uwch o lawer o iechyd gwael drwy gydol eu bywyd, ac efallai y bydd ganddynt fwy o anghenion am gymorth gan wasanaethau gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Meddai Dr Kat Ford, awdur arweiniol yr adroddiad ym Mhrifysgol Bangor:

“Roedd bron hanner y carcharorion wedi profi lefelau uchel o ACE fel cam-drin, esgeulustod a cham-drin domestig yn ystod eu plentyndod – lefelau llawer uwch na'r hyn a nodwyd mewn poblogaethau y tu allan i'r carchar.

“Ymhlith carcharorion, gwelsom fod achosion o dreulio amser mewn sefydliad troseddwyr ifanc a chael hanes o droseddu cyson neu droseddau treisgar i gyd yn gysylltiedig â lefelau hyd yn oed yn uwch o ACE. Mae'r perthnasoedd hyn yn ychwanegu at yr angen i garchardai gynnig gwasanaethau sy'n cael eu llywio gan drawma er mwyn helpu i sicrhau bod y rhai sydd ag ACE yn cael eu cynorthwyo'n briodol ac nad ydynt yn cael ail drawma pan fyddant yn cael eu carcharu.”

Meddai'r Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi a Datblygu Rhyngwladol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Nododd traean o'r holl garcharorion a holwyd mai un o'u profiadau niweidiol yn ystod plentyndod oedd tyfu i fyny mewn aelwyd lle roedd rhywun wedi'i garcharu. Gellir torri'r cylchoedd hyn rhwng y cenedlaethau drwy systemau iechyd a chyfiawnder troseddol yn cydweithio ac yn helpu rhieni i ddarparu amgylchedd diogel a meithringar i bob plentyn.”

Cafodd yr arolwg o ACE ymhlith carcharorion ei gynnal er mwyn helpu gwneuthurwyr polisi a'r rhai sy'n gweithio ym maes cyfiawnder troseddol a sectorau cysylltiedig i ddeall y berthynas rhwng ACE a throseddu.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, plismona, a sefydliadau cyfiawnder troseddol allweddol yng Nghymru wedi ymrwymo i weithio gyda'i gilydd gan ddefnyddio dull iechyd cyhoeddus er mwyn newid y ffordd y mae pobl ag ACE yn cael eu nodi, eu deall a'u cynorthwyo.

Bydd yr arolwg hwn yn helpu i lywio'r gwaith partneriaeth hwn yng Nghymru, sy'n cael ei hwyluso gan y rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd.  Mae Camau Cynnar gyda'n Gilydd eisoes yn cynorthwyo'r sector cyfiawnder troseddol i greu gweithlu sy'n ymwybodol o ACE a datblygu arfer sy'n cael ei lywio gan drawma o fewn carchardai a'r gwasanaeth prawf yng Nghymru.

Gweithiodd Carchar EM y Parc ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i hwyluso'r ymchwil.  Meddai Janet Wallsgrove, Cyfarwyddwr Carchar EM a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc: "Mae taflu goleuni ar effaith negyddol ACE yn ddiweddarach mewn bywyd yn hanfodol am ei fod yn ein galluogi i ddarparu'r cymorth adsefydlu cywir ar gyfer y dynion yn ein gofal.

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru, yn bartner allweddol yn rhaglen Camau Cynnar gyda'n Gilydd ac mae'n gweithio ochr yn ochr â Charchar EM y Parc, i gynorthwyo unigolion y mae ACE wedi effeithio arnynt sy'n dod i mewn i'r system garchardai. 

Meddai Chris Jennings, Cyfarwyddwr Gweithredol, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru: “Drwy wella ein dealltwriaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill ar fentrau fel Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, gallwn barhau i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl a chynorthwyo'r dynion sydd yn ein gofal i greu dyfodol gwell.

Mae canfyddiadau eraill o'r adroddiad yn cynnwys, o gymharu â charcharorion heb ACE, roedd y rhai â phedwar neu fwy o ACE:

  • Bedair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi cael eu collfarnu o ddifrod troseddol
  • Tair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi'u collfarnu o drais yn erbyn y person
  • Tair gwaith yn fwy tebygol o fod wedi'u collfarnu o ladrata
  • Ddwywaith yn fwy tebygol o fod wedi'u collfarnu o droseddau cyffuriau

Casglwyd data rhwng mis Chwefror a mis Mehefin 2018 mewn cyfweliadau wyneb yn wyneb gyda sampl o 468 o garcharorion 18-69 oed yng Ngharchar EM y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr, de Cymru.