Neidio i'r prif gynnwy

Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru 2019

Cynhelir Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru eleni ddydd Iau 17 a dydd Gwener 18 Hydref yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC), Casnewydd – bydd y cofrestru'n agor yn fuan felly gwnewch nodyn o'r dyddiadau yn eich dyddiadur!

Eleni bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar thema ‘Creu Cymru Iachach’, gan gyd-fynd yn glir â blaenoriaethau strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym am greu lle diddorol ac ysbrydoledig i annog sgyrsiau a gweithredoedd sy'n ceisio sicrhau gwelliannau gwirioneddol i iechyd y cyhoedd yn yr hirdymor. 

Daw dewis lleoliad cynhadledd eleni ar ôl proses gaffael fanwl a ganolbwyntiodd ar ansawdd a chynaliadwyedd, gyda'r ICC yn cael ei dewis.

Mae ICC Cymru, menter sydd wedi eu chefnogi gan Llywodraeth Cymru, yn brosiect £83m wedi'i ysbrydoli gan ganolfannau cynadledda gorau'r byd. Y canlyniad yw lleoliad ysblennydd sydd wedi'i gyfarparu'n ymarferol ac yn ddigidol i gyflwyno cynadleddau o'r radd flaenaf yng Nghymru wrth roi hwb economaidd sylweddol i'r ardal.

Mae gan yr ICC leoedd iach amlbwrpas gyda golau dydd naturiol, ynghyd â mynediad gwych i fannau awyr agored. Mae'r lleoliad yn cefnogi'n gryf y defnydd o gynnyrch lleol, gan gefnogi ffermwyr a chynhyrchwyr rhanbarthol gyda strategaeth gwastraff bwyd gynaliadwy.

Roedd mynediad hygyrch a chynhwysol i bawb yn ffactor pwysig iawn wrth ddewis lleoliad addas, rydym yn falch bod gan yr ICC ddewisiadau trafnidiaeth da. Mae gwasanaeth bws a weithredir gan Gyngor Casnewydd dair gwaith yr awr yn gadael Casnewydd Canolog, i'r rhai ohonoch sy'n teithio ar y trên mae tocynnau trên rhatach ar gael wrth drefnu gyda Great Western ac i'r rhai sy'n gorfod gyrru mae maes parcio mawr ar y safle.

Bydd y lleoliad yn cael effaith economaidd bendant ar y gymuned leol, gan gynnwys creu 150 o swyddi, uwchsgilio myfyrwyr prifysgol lleol a gweithio yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol – gan gwmpasu thema'r gynhadledd ar gyfer 2019, sef Adeiladu Dyfodol Iachach i Gymru.

Mae'r alwad am grynodebau bellach ar agor

Rydym bellach yn chwilio am gyflwyniadau ar grynodebau ar gyfer cynhadledd eleni.

Y dyddiad cau yw 18 Gorffennaf 2019, cyflwynwch nhw'n brydlon oherwydd ni ellir ystyried unrhyw grynodebau a gyflwynir ar ôl y dyddiad hwn. Rhaid i'r holl grynodebau gael eu cyflwyno'n electronig yn www.cicc.cymru

Mae cynrychiolaeth a mewnbwn gan bob sector yn hanfodol er mwyn cyflawni systemau cynaliadwy, gweithio traws-sector a meddwl ar y cyd. Felly rydym yn annog cyflwyno crynodebau gan bob sector.

Rydym yn chwilio am naill ai crynodebau gwyddonol sy'n cael eu hysgogi gan ymchwil neu ddata neu grynodebau ymarferol sy'n rhoi manylion cymhwyso gwybodaeth neu theori bresennol yn ymarferol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn partneriaethau cynaliadwy, syniadau newydd a pherthnasedd Iechyd Cyhoeddus i gynhadledd eleni.

Mae'r themâu ar gyfer Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru 2019 yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Rydym yn gofyn i chi ddewis un yn unig o'r chwe thema isod ar gyfer eich crynodeb:

  1. Dylanwadu ar benderfynyddion ehangach iechyd.
  2. Gwella llesiant meddyliol a chydnerthedd.
  3. Hyrwyddo ymddygiad iach.
  4. Sicrhau dyfodol iach i'r genhedlaeth nesaf.
  5. Diogelu'r cyhoedd rhag heintiau a bygythiadau amgylcheddol i iechyd.
  6. Cefnogi datblygu system iechyd a gofal gynaliadwy sy'n canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar.

Gellir lawrlwytho canllawiau cyflwyno llawn yma, gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru.