Neidio i'r prif gynnwy

Cynhadledd Genedlaethol Gofal Sylfaenol 2019

Daeth mwy na 400 o weithwyr gofal sylfaenol proffesiynol o bob rhan o Gymru ynghyd yn y bedwaredd Gynhadledd Genedlaethol Gofal Sylfaenol flynyddol a gynhaliwyd yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd ddydd Iau 7 Tachwedd, 2019. 

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru ac a drefnwyd gan Ganolfan Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn canolbwyntio eleni ar y thema ‘Clystyrau: Gorffennol, Presennol a Dyfodol’. 

Mwynhaodd y cynadleddwyr gyfres o sgyrsiau, trafodaethau panel a gweithdai yn edrych ar arfer presennol o ran gweithio mewn clystyrau ar draws y sector gofal sylfaenol, yn ogystal â thrafod syniadau a dulliau ar gyfer ei ddatblygiad parhaus. 

Cafwyd prif araith gyntaf y dydd gan Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a ddiolchodd i'r rhai a oedd yn bresennol am eu hymrwymiad parhaus i weithio mewn clystyrau, gan eu herio hefyd i fod yn fwy beiddgar, gyda mwy o egni ac arloesedd nag erioed o'r blaen wrth iddynt sbarduno newid mewn gofal sylfaenol. 

Amlinellodd ail siaradwr gwadd y dydd, yr Athro Helen Stokes-Lampard, Cadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol ymarfer cyffredinol yn benodol, cyn cymeradwyo ymarferwyr o bob rhan o'r sector am sicrhau bod Cymru'n parhau i arwain y ffordd yn y DU o ran gweithio mewn clystyrau.

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys Pentref Gofal Sylfaenol, gan gynnig y cyfle i gynadleddwyr gyfarfod â'r bobl y tu ôl i wasanaethau gofal a chymorth lleol, yn ogystal â'r cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn amrywio o wehyddu basgedi i freg-ddawnsio ac arsylwi'r rhain. 

Roedd côr cymunedol, a ffurfiwyd fel rhan o fenter Singing from the Brain Cymdeithas Alzheimer’s wrth law i ddarparu trac sain i'r diwrnod.

Eleni, cefnogodd y gynhadledd ddwy elusen leol, gyda'r cynadleddwyr yn cael eu gwahodd i ddod â rhoddion i The Olive Branch, sefydliad sy'n rhoi cymorth i bobl yng Nghasnewydd sy'n ddigartref neu mewn cartref bregus, a banc bwyd Casnewydd.

Bydd adnoddau o'r gynhadledd ar gael ar-lein ar wefan PCOne yn fuan – a chaiff manylion cynhadledd 2020 eu datgelu maes o law.