Neidio i'r prif gynnwy

Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth ddod o hyd i frechlyn COVID-19 diogel ac effeithiol

Cyhoeddwyd: 30 Rhagfyr 2020

Mae brechlyn COVID-19 Rhydychen/AstraZeneca wedi ei gymeradwyo gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn dilyn treial byd-eang y bu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chyfranogwyr o Gymru ran allweddol ynddo. 

Bu cydweithrediad rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a'r Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn cymryd rhan yng ngham 2/3 y treial brechlyn a noddwyd gan Brifysgol Rhydychen ac a ariannwyd gan CEPI (Coalition for Epidemic Preparedness Innovations) ac UK Research and Innovation. 

Recriwtiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan bron i 450 o gyfranogwyr i dreial brechlyn COVID-19 Grŵp Brechlyn Rhydychen. Gwahoddwyd gwirfoddolwyr 18 oed a hŷn i gymryd rhan yn y treial. Roedd llawer o'r cyfranogwyr o leoliadau iechyd a gofal, gan gynnwys staff mewn ysbytai, practisau meddygon teulu, proffesiynau fferyllol, ffisiotherapi, gofal cymunedol a phroffesiynau anghlinigol eraill mewn gofal eilaidd yr ystyriwyd eu bod mewn perygl o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. 

Dywedodd Dr Chris Williams, Prif Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac arweinydd y treial brechlyn yng Nghymru: "Rwy'n falch iawn bod y brechlyn hwn bellach yn rhan gymeradwy o'r ymateb i atal haint COVID-19. Rydym ni wedi bod yn monitro’r tonnau o heintiau a’r effaith unigol ofnadwy y gall hyn ei chael. Bydd y brechlyn hwn yn gallu atal derbyniadau i ysbytai a marwolaethau, drwy flaenoriaethu'r rhai mwyaf agored i niwed a'r rhai hynny sy'n gweithio i ofalu amdanynt.  

"Mae gweithio gyda Grŵp Brechlyn Rhydychen ar yr astudiaeth hon wedi bod yn anrhydedd mawr iawn, fel y bu gweithio gyda'r timau rhagorol yng Nghymru wrth iddynt gyflawni'r astudiaeth mewn amgylchiadau heriol. Hoffwn ddiolch hefyd i gyfranogwyr y treial am eu hymrwymiad i'r astudiaeth." 

Dywedodd Jeanette Wells, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymchwil a Datblygu Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: "Dyma'r newyddion gorau y gallem ni fod wedi eu cael ar ddiwedd blwyddyn gythryblus iawn.  Mae tîm ymchwil Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ei syfrdanu gan yr holl gymorth a gafwyd gan gynifer o bobl. Heb ein cydweithwyr lleol, hen a newydd, ac wrth gwrs y cyfranogwyr gwirfoddol ni fyddai ein cyfraniad i'r astudiaeth hon wedi bod yn bosibl.  

"Rydym yn arbennig o falch o fod wedi gallu cyfrannu at yr ymdrech genedlaethol yn y modd hwn, ac edrychwn ymlaen yn fawr at weld y brechlyn hwn yn cael ei ddefnyddio. Gobeithio nawr y gallwn ni edrych ymlaen at Flwyddyn Newydd well, hapusach, iachach a mwy llewyrchus." 

Dywedodd Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwr Cefnogi a Chyflawni yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, sydd ar sail cenedlaethol yn cydgysylltu ymchwil a sefydlu astudiaethau yng Nghymru: "Mae ein cymuned ymchwil yn gweithio'n galed i ddarparu'r dystiolaeth sydd ei hangen arnom i ymladd y pandemig hwn ac mae cymeradwyo brechlyn Rhydychen/AstraZeneca yn gam pwysig ymlaen.  

"Mae gennym ddau frechlyn arall yn cael eu profi yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae mwy o dreialon i'w sefydlu yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Bydd yr ymchwil hwn, ynghyd â'r astudiaethau COVID-19 eraill sy'n cael eu cynnal, yn ein helpu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed a hefyd i ddarparu'r gofal gorau posibl i'r rhai sy'n mynd yn sâl. 

"Rwy'n falch o'r swyddogaeth a gyflawnwyd gan ein hymchwilwyr yng Nghymru yn yr ymdrech hon a gynhaliwyd ledled y DU a hoffwn ddiolch hefyd i'r cyfranogwyr sydd wedi gwirfoddoli. Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol." 

Dywedodd Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Rwyf mor falch bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gallu cefnogi datblygiad y brechlyn hwn. Mae gwybod bod ein sefydliad wedi gallu chwarae rhan yn y gwaith o ddarparu'r adnodd gwerthfawr hwn i ddiogelu cymunedau yng Nghymru a thu hwnt, yn anrhydedd aruthrol ac rwy’n talu teyrnged i'm cydweithwyr sydd wedi gweithio mor galed i weithredu’r gwaith hanfodol hwn mor gyflym. Mae eu hymroddiad a'u gwaith caled yn wirioneddol ysbrydoledig ac rwy'n diolch i bob un ohonynt."  

Dywedodd yr Athro Kerry Hood, Cyfarwyddwr y Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae cymeradwyo'r brechlyn hwn yn cynrychioli'r gwaith enfawr a wnaed gan nifer o bobl ac mae'n rhoi gobaith i lawer drwy i ni allu brechu cymaint o bobl â phosibl wrth i ni symud ymlaen yn 2021."