Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi agenda a phapurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd a gynhelir Ddydd Iau 28 Tachwedd 2019

Mae Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd y mae croeso i'r cyhoedd, gan gynnwys aelodau o'r staff, eu mynychu.  

Cynhelir Cyfarfod Cyhoeddus o Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Iau 28 Tachwedd am 9.00am, yng ystafell 3.7, 2 Capital Quarter, Stryd Tyndall, Caerdydd.

Bydd Jan Williams, OBE yn cadeirio'r cyfarfod, a fydd yn cael ei ffrydio'n fyw drwy gyfryngau cymdeithasol.  Mae'r agenda yn dangos yr hyn a fydd yn cael ei drafod a phryd.  Mae'r papurau ar gael ymlaen llaw a gallwch eu gweld yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â mynychu'r cyfarfod, neu os ydych yn bwriadu mynychu a bod gennych unrhyw ofynion arbennig y dylid eu hystyried, cysylltwch â Helen Bushell, Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd, Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 02920 104283.

Mae rhagor o fanylion am Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael ar y wefan ganlynol: https://icc.gig.cymru/amdanom-ni/y-bwrdd-ar-tim-gweithredol/papuraur-bwrdd/