Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniadau'r arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae canlyniadau’r arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd diweddaraf, ‘Sut Rydym yn Gwneud yng Nghymru’, wedi cael eu rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.             

Dyma’r canfyddiadau allweddol:

  • Dywedodd 62% o bobl eu bod yn gadarn o blaid cyfyngiadau symud cenedlaethol yng Nghymru i reoli lledaeniad y coronafeirws (25% yn cefnogi rhywfaint, nid oedd 13% yn gefnogol)
  • Dywedodd 21% o bobl eu bod yn poeni'n fawr y gallent gael y coronafeirws (33% yn poeni'n gymedrol, 29% yn poeni ychydig, 17% ddim yn poeni o gwbl)
  • Dywedodd 22% o bobl eu bod wedi bod mewn cysylltiad agos â mwy na 10 o bobl o'r tu allan i'w haelwyd (neu aelwyd estynedig a ganiateir) yn ystod y 7 diwrnod diwethaf
  • Mae 70% o bobl yn gwisgo gorchudd wyneb 'y rhan fwyaf o'r amser' pan fyddant yn mynd allan (24% rywfaint o'r amser, 6% byth/ddim yn berthnasol). Mae 67% yn defnyddio gorchudd wyneb ailddefnyddiadwy ac mae 51% yn defnyddio masgiau wyneb tafladwy*. (*Gallai cyfranogwyr adrodd am ddefnyddio'r ddau fath o orchudd wyneb)
  • Mae 51% o bobl sy'n defnyddio gorchudd ailddefnyddiadwy yn ei olchi ar ôl pob diwrnod o ddefnydd. 32% yn ei olchi ar ôl 2 i 4 diwrnod o ddefnydd; 10% 5 i 10 diwrnod o ddefnydd; 2% mwy na 10 diwrnod ac nid yw 5% erioed wedi'i olchi.
  • Mae 67% o bobl sy'n defnyddio masgiau wyneb tafladwy yn cael gwared arnynt ar ôl pob defnydd, ond nid yw 33% yn gwneud hynny
  • Mae 40% o bobl yn pryderu 'llawer' a 33% 'ychydig' am eu gallu i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau yn ystod y misoedd nesaf, wrth i'r gaeaf ddod
  • Nododd 50% o bobl fod lefel eu hapusrwydd presennol yn uchel (sgoriau o 7 i 0 ar raddfa o 0 i 10). Dyma'r gyfran isaf ers i'r arolwg ddechrau
  • Dywedodd 19% o bobl eu bod wedi teimlo'n 'aml' neu 'bob amser' yn ynysig yn ystod y 7 diwrnod diwethaf, a dywedodd 13% eu bod wedi teimlo'n 'aml' neu 'bob amser' yn unig

Mae adroddiad diweddaraf arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 2 ac 8 Tachwedd, pan arolygwyd 602 o bobl.

Bob pythefnos, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau gyda channoedd o bobl 18 oed neu hŷn ledled Cymru, i ddeall sut mae’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a'r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.

Mae'r arolwg yn rhan o lu o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy’r Coronafeirws.

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w lawrlwytho yma.