Neidio i'r prif gynnwy

Bwlch gwybodaeth ynghylch trosglwyddo a phrofi HIV yng Nghymru

Cyhoeddig: 1 Rhagfyr 2023 

Mae arolwg diweddaraf Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi taflu goleuni ar fylchau o ran dealltwriaeth o drosglwyddo a phrofi HIV.  

Dim ond 50 y cant o ymatebwyr oedd yn ymwybodol na all person ar driniaeth effeithiol sy'n byw gyda HIV drosglwyddo'r feirws. 

Mae hyn er bod ymatebwyr yn nodi ymdeimlad cyffredinol o hyder yn eu gwybodaeth am y feirws, gyda 74 y cant yn dweud eu bod yn weddol (60 y cant) wybodus neu'n wybodus iawn (14 y cant) am HIV.  

Yn galonogol, roedd 84 y cant o gyfranogwyr yn cytuno (25 yn cytuno'n gryf) eu bod yn teimlo y gallent siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol am wneud prawf HIV pe baent eisiau, gan nodi agwedd gadarnhaol tuag at geisio profion a gofal.   

Mae'r canfyddiad hwn yn pwysleisio pwysigrwydd dadstigmateiddio profion HIV a'u hyrwyddo fel agwedd arferol ar ofal iechyd. 

Pan ofynnwyd iddynt am brofi gartref, nid oedd 52 y cant o'r ymatebwyr yn ymwybodol y gall unrhyw un 16 oed a throsodd yng Nghymru gael pecyn prawf HIV yn y cartref am ddim, cyfrinachol. 

Roedd 43 y cant yn gwybod bod meddyginiaeth o'r enw PrEP (proffylacsis cyn-gysylltiad) y gall pobl ei chymryd i'w hatal rhag cael HIV pan gaiff ei gymryd fel y rhagnodir.  Mae PrEP yn effeithiol iawn wrth atal HIV. 

Mae'r canfyddiadau'n tynnu sylw at ddiffyg ymwybyddiaeth ynghylch trosglwyddo a phrofi HIV yng Nghymru.    

Meddai Zoe Couzens, Arweinydd Rhaglen Iechyd Rhywiol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:  

"Er ei bod yn galonogol bod mwyafrif yn cytuno y gallant siarad â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol am brawf HIV, mae'n destun pryder bod rhai camsyniadau am drosglwyddo HIV yn parhau - er bod mwyafrif yr ymatebwyr yn teimlo'n wybodus am y feirws. Mae'r bwlch gwybodaeth hwn yn tynnu sylw at yr angen i barhau ein hymdrechion i sicrhau bod gwybodaeth gywir yn cyrraedd y cyhoedd. 

"Mae profi yn rhan arferol a hanfodol o ofal iechyd. Mae datblygiadau mewn triniaethau HIV yn golygu y gall unrhyw un sydd â HIV fyw mor hir ac mor dda ag unrhyw un arall. Gall profi a thriniaeth amserol chwarae rhan hanfodol wrth reoli lledaeniad y feirws oherwydd bod triniaeth effeithiol yn lleihau faint o feirws sydd yn y gwaed i lefelau na ellir eu canfod, sy'n golygu na ellir trosglwyddo HIV i eraill." 

Mae HIV yn feirws sy'n niweidio'r system imiwnedd ac yn gwanhau gallu person i ymladd heintiau a chlefydau bob dydd. Gellir ei drosglwyddo drwy gyswllt rhywiol neu hylifau'r corff wedi'u heintio.  

I gael rhagor o wybodaeth am brofion HIV a'r adnoddau sydd ar gael yng Nghymru, ewch i https://www.ircymru.online/  

Ymatebodd 1,094 o aelodau panel i'r arolwg Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Hydref 2023 a ofynnodd i drigolion Cymru (16 oed a throsodd) am eu barn ar amrywiaeth o bynciau sy'n gysylltiedig ag iechyd. Oni nodir yn wahanol, caiff data eu pwysoli i adlewyrchu demograffeg poblogaeth cenedlaethol yn ôl oedran, rhyw ac amddifadedd. 

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r sgwrs Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus, gallwch gael rhagor o wybodaeth a chofrestru yma