Neidio i'r prif gynnwy

Arweiniad ar gyfer Calan Gaeaf 2020

Mae Calan Gaeaf 2020 yn mynd i fod yn wahanol.  Fel yr ydym wedi'i wneud gyda llawer o ddigwyddiadau drwy'r flwyddyn, diolch eto i'r rheini ohonoch sy'n amddiffyn eich hun ac eraill rhag y risg o ddal neu ledaenu Coronafeirws. 

Mae pobl ar draws Cymru yn parhau i addasu i'r sefyllfa sy'n newid a gall dathliadau tymhorol fel Calan Gaeaf helpu i hybu morâl a'n hannog i gysylltu'n ddiogel â ffrindiau, teulu ac anwyliaid. 

Meddai Dr Chris Williams, Cyfarwyddwr Digwyddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Nid yw Coronafeirws wedi diflannu ac unwaith eto rydym yn diolch i chi am y cydnerthedd rydych wedi'i ddangos wrth wneud eich rhan i leihau eich siawns o ddal neu ledaenu'r feirws. 

”Mae Calan Gaeaf yn adeg boblogaidd o'r flwyddyn ar gyfer partïon a dod at ein gilydd gyda theulu a ffrindiau. Yn union fel yr ydym wedi'i wneud ers dechrau'r cyfyngiadau symud, bydd llawer ohonom yn dod o hyd i ffyrdd newydd a chreadigol o fynd i ysbryd yr achlysur. Bydd hyn yn cynnwys meddwl am sut rydym yn ailddychmygu losin neu lanast gartref, dod o hyd i ffyrdd newydd o fwynhau Calan Gaeaf nad yw'n cynnwys cyfarfod yn gorfforol ag eraill, a chynnal mesurau i gadw pellter cymdeithasol os oes rhaid i chi adael y tŷ am reswm hanfodol. 

“Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i amddiffyn ein hunain a'r bobl rydym yn poeni amdanynt, felly gofynnwn eto eich bod yn cadw hyn mewn cof wrth gynllunio eich gweithgareddau.”

Wrth feddwl am eich cynlluniau Calan Gaeaf mae'n bwysig:

Dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod atal byr. 

Cofiwch na chaniateir cynnull yn gorfforol ar gyfer partïon Calan Gaeaf naill ai yn eich cartref neu mewn lleoliad arall wrth i ni geisio atal y feirws rhag lledaenu.

Peidiwch â chymryd rhan mewn gweithgareddau losin neu lanast traddodiadol sy'n gallu rhoi eich hun ac eraill mewn perygl ac sy'n torri'r canllawiau presennol a allai arwain at ddirwy. 

Cynlluniwch weithgareddau diogel, hwyl y gellir eu gwneud yng nghysur eich cartref eich hun a dim ond gydag aelodau o'ch cartref. Defnyddiwch ddulliau eraill o gymdeithasu ar-lein neu dros y ffôn lle na allwch fod yng nghwmni eraill yn gorfforol.

Helpwch i amddiffyn eich hun a'r GIG drwy yfed yn gyfrifol os yw eich cynlluniau'n cynnwys alcohol ac osgoi unrhyw weithgareddau a allai achosi mwy o risg o anaf y gellir ei osgoi. 

Ystyriwch anghenion eraill o'ch cwmpas a'r effaith y gallai eich gweithredoedd chi ei chael arnynt.