Neidio i'r prif gynnwy

Achosion o amrywiolyn Delta yn cynyddu ledled Cymru

Cyhoeddwyd: 1 Gorffennaf 2021

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau bod amrywiolyn Delta (VOC-21APR-02) wedi disodli mathau eraill o'r Coronafeirws fel yr amrywiolyn amlycaf ym mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru.

Mewn ffigurau a ryddhawyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw, cyfanswm nifer yr achosion o'r amrywiolyn Delta yng Nghymru yw 1749, sef cynnydd o 961 ers y diweddariad diwethaf ddydd Iau 24 Mehefin.

Meddai Dr Giri Shankar, un o'r Cyfarwyddwyr Digwyddiad, “Mae hwn yn ddarlun cyson ledled Cymru, er ein bod yn parhau i weld cyfraddau uchel yng Ngogledd Cymru gyda Gwynedd yn dangos cynnydd sylweddol mewn achosion. 

“Rydym yn gweld nifer yr achosion yn cynyddu ledled Cymru ond yn enwedig yng Ngogledd Cymru lle mae teithio i Loegr ac oddi yno at ddibenion gwaith a hamdden yn gyffredin.

“Rydym yn cynghori pobl, yn enwedig yng Ngogledd Cymru, i gadw pellter cymdeithasol, manteisio ar y cynnig i gael brechlyn, a hunanynysu a chael prawf os byddant yn cael symptomau Coronafeirws.

“Mae'n hysbys mai amrywiolyn Delta yw'r amrywiolyn mwyaf cyffredin ym mhob achos newydd yng Nghymru a dangosir ei fod yn cael ei drosglwyddo'n haws o un person i'r llall na'r amrywion amlycaf blaenorol, sef Alffa.  Mae hyn yn golygu bod angen i bob un ohonom gymryd camau i gadw ein hunain yn ddiogel a lleihau'r risg o drosglwyddo.

“Mae ein cyngor yn arbennig o berthnasol i bobl sy'n teithio i ardaloedd lle mae clystyrau hysbys o'r Coronafeirws gan fod trosglwyddo'r amrywiolyn yn y gymuned yn amlwg.

“Byddwch yn ymwybodol o Covid pan fyddwch yn teithio.  Rydym i gyd yn gyfarwydd iawn â chadw pellter cymdeithasol erbyn hyn, ond, drwy gadw o leiaf dau fetr i ffwrdd oddi wrth bawb arall, golchi ein dwylo'n rheolaidd, a gwisgo gorchudd wyneb gallwn gadw ein hunain a'n ffrindiau a'n teulu'n ddiogel.

“Manteisiwch ar eich cynnig i gael brechiad pan fyddwch yn ei gael oherwydd bod y dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos bod brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn effeithiol yn erbyn amrywiolyn Delta ar ôl dau ddos.

“Mae awyru mannau dan do yn ffordd effeithiol arall o leihau lledaeniad heintiau, felly drwy agor ffenestri a drysau, gallwn amddiffyn ein hunain ymhellach.

“Os byddwch yn datblygu unrhyw symptomau, rhaid i chi hunanynysu a chael prawf os ydych chi neu unrhyw un arall yn eich aelwyd yn datblygu symptomau.