Neidio i'r prif gynnwy

2. Cyflwyniad

2.1 Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ni yw Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) – sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol Cymru. Ein diben yw 'gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach'. Rydym yn helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau hirach ac iachach.

Mae gennym Strategaeth Hirdymor (2023-35) sy'n amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer sicrhau dyfodol iachach i bobl yng Nghymru erbyn 2035 drwy chwe blaenoriaeth strategol. 

Ffigur 1: Chwe blaenoriaeth ICC ar gyfer iechyd y boblogaeth yng Nghymru.

Mae Ymchwil a Datblygu yn un o gylch gorchwyl craidd ICC, wedi’i integreiddio i natur statudol busnes a swyddogaethau. Mae ein Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso yn amlinellu ein hymrwymiad i ddefnyddio dull systematig o ganfod blaenoriaethau Ymchwil a Gwerthuso ar gyfer iechyd y boblogaeth a gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ymchwil a chyllidwyr.

2.2 Diben rhannu’r meysydd Ymchwil a Gwerthuso sydd o Ddiddordeb i Ni

Er mwyn helpu i lywio ein camau gweithredu yn ein chwe maes blaenoriaeth hirdymor, mae ICC yn dibynnu ar dystiolaeth dda i sicrhau ein bod yn cymryd camau lle y gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf. Mae ICC yn rhan o ecosystem Ymchwil a Gwerthuso ehangach ac rydym yn gweithio gydag ystod eang o ymchwilwyr a chydweithredwyr ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol. Rydym am barhau i gryfhau ac ehangu'r perthnasoedd hyn ar draws seilwaith ymchwil helaeth gyda ffocws ar gryfhau ymchwil rhyngddisgyblaethol. Rydym hefyd am weithio gyda chyllidwyr i ddylanwadu ar agenda iechyd y boblogaeth, ei chefnogi a’i chryfhau ar gyfer pobl yng Nghymru

Mae’r gynulleidfa arfaethedig y mae’r ddogfen hon wedi’i hanelu ati yn cynnwys:

✔ y gymuned ymchwil sydd mewn sefyllfa dda i fynd i'r afael â bylchau yn ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth, 

✔ y sector cyhoeddus ehangach a'r sector gwirfoddol er mwyn gweithio mewn meysydd cyffredin o ddiddordeb, 

partneriaid yn y sector masnachol a diwydiant a allai fod yn awyddus i gydweithio â ni mewn meysydd sydd o ddiddordeb i’r ddwy ochr, 

cyllidwyr ymchwil a all fuddsoddi mewn ymchwil sy'n mynd i'r afael â bylchau yn y dystiolaeth sydd ei hangen i lywio camau gweithredu,   

pobl yng Nghymru sy'n cael eu heffeithio gan yr hyn rydym yn ei wneud ac sydd â diddordeb ynddo.

2.3 Datblygu’r Meysydd Ymchwil a Gwerthuso sydd o Ddiddordeb i Ni

Mae’r Meysydd Ymchwil a Gwerthuso o Ddiddordeb wedi cael eu datblygu a'u diffinio drwy ymgysylltu â’r canlynol:

  • Cynghrair James Lind a gynhaliodd waith blaenoriaethu â rhanddeiliaid allanol.

  • Arweinyddion strategaethau hirdymor, Penaethiaid Gwasanaethau, staff ICC a Thîm Gweithredol ICC i ganfod meysydd allweddol lle mae bylchau mewn ymchwil a gwerthuso.

  • Pob Arweinydd Ymchwil a Gwerthuso yn Is-adrannau ICC drwy Grŵp Goruchwylio’r Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso i ddatblygu'r blaenoriaethau ymhellach ar gyfer eu meysydd hwy.

Mae'r ymarferion blaenoriaethu ac ymgysylltu hyn wedi canfod yr hyn y mae gennym ddiddordeb mewn dysgu mwy amdano a lle mae bylchau mewn gwybodaeth. Mae rhai o'r cwestiynau ymchwil y mae gennym ddiddordeb ynddynt yn cwmpasu sawl maes - yn ymarferol mae'n naturiol bod elfennau o'n gwaith a'n diddordebau yn cyfateb â phobl un o'r chwe maes blaenoriaeth hirdymor.

2.4 Pam Cydweithio â Ni?

Er mwyn cefnogi partneriaethau a chydweithrediadau â'r gymuned ymchwil, mae gennym nifer o asedau, rhaglenni a chryfderau ymchwil a amlinellir yn ein Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso, yn ogystal â meysydd trawsbynciol a galluogi sy'n helpu i gyflawni gwaith o fewn ICC. Mae'r rhain yn cynnwys: gwyddor ymddygiadol, iechyd rhyngwladol a data a digidol. 

Rydym yn gwahodd y gymuned ymchwil genedlaethol a rhyngwladol yn barhaus i ymgysylltu’n weithredol â ni – i gryfhau ymchwil rhyngddisgyblaethol ac i alinio eich cwestiynau/rhaglenni ymchwil â’r meysydd blaenoriaeth a amlinellir yn y ddogfen hon.