Neidio i'r prif gynnwy

Addysg a sgiliau da

Mae addysg dda yn gonglfaen ar gyfer iechyd a lles a gall gynyddu ein siawns o fyw bywyd hir ac iach. Yn ei dro, gall ein hiechyd a’n lles effeithio ar ein gallu i ddysgu. Mae addysg yn dylanwadu ar ein hiechyd a lles trwy nifer o lwybrau cyd-gysylltiedig. Mae’r llwybrau hyn yn cynnwys cyfleoedd cyflogaeth ac amodau gwaith, llythrennedd iechyd ac ymddygiad yn gysylltiedig ag iechyd, gan gynnwys defnyddio gwasanaethau iechyd, a’n hymdeimlad o reolaeth a lefel ein cymorth cymdeithasol. Heb gyfle i gael addysg dda, gall anghydraddoldebau iechyd gynyddu trwy gylchoedd anghydraddoldeb sy’n pontio’r cenedlaethau.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru nifer o raglenni sydd â’r nod o wella iechyd a lles plant a phobl ifanc, sy’n effeithio ar eu gallu i ddysgu. Mae ein gwaith yn yr Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd yn canolbwyntio ar addysg fel llwybr i iechyd gwell a lleihau anghydraddoldeb yn y gymdeithas.

Rydym wedi datblygu map systemau o’r ffactorau sy’n effeithio ar gyflawniad addysgol yng Nghymru. Mae’r map yn dangos nifer o ffactorau cyd-gysylltiedig, y mae llawer ohonynt y tu hwnt i’r ysgol yn effeithio ar ddeilliannau addysgol. Rydym yn defnyddio’r map gyda phartneriaid i gynyddu effaith ymdrechion i leihau’r bwlch cyrhaeddiad addysgol yng Nghymru.

Ar y dudalen hon, byddwch yn dod o hyd i’n map systemau cyflawniad addysgol, sydd ar gael fel fideo sy’n eich arwain trwy’r map systemau a dogfen PDF, ynghyd ag adolygiad llenyddiaeth o’r llwybrau a’r cysylltiadau rhwng addysg ac iechyd a briff cryno o’r adolygiad llenyddiaeth.

 

Ffactorau sy’n effeithio ar gyflawniad addysgol yng Nghymru - mapio systemau cyfranogol

 

 

Adnoddau