Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno dadansoddiad o lefelau amddifadedd unigol a nodweddion cymdeithasol-ddemograffig, gan gynnwys ethnigrwydd a llety gorlawn. Am y tro cyntaf, rydym wedi cysylltu data cofrestrfa canser â data o Gyfrifiad 2011 yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn rhoi cipolwg newydd, manwl inni o broffil cymdeithasol-ddemograffig pobl sydd wedi cael diagnosis o ganser yng Nghymru. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer lleihau anghydraddoldebau ac annhegwch, ac wrth gynllunio gwaith atal a gwasanaethau i genedlaethau'r dyfodol yng Nghymru. Yn dilyn y gwaith yn yr adroddiad hwn, argymhellir gwaith pellach i ddeall yn llawn effaith y nodweddion cymdeithasol-ddemograffig hyn ar fynychder canser, yn ogystal â ffactorau posibl eraill.
Fel arfer, dim ond anghydraddoldebau ar gyfer nodweddion pobl yng Nghymru ar sail oedran a rhyw biolegol y gall ein hystadegau canser swyddogol blynyddol eu cyflwyno. Fel arfer, ar dim ond ar sail yr ardal lle maen nhw’n byw y gallwn gysylltu pobl i lefel amddifadedd economaidd-gymdeithasol ar gyfer gwahanol fesurau o amddifadedd, yn hytrach nag edrych ar nodweddion unigol. Efallai na fydd hyn o reidrwydd yn adlewyrchu eu lefel bersonol o anghydraddoldeb neu amddifadedd, sy'n golygu y gall manylion gael eu colli wrth ddadansoddi mynychder canser ar lefel ardal amddifadedd. Mae'r cysylltiad yn y dadansoddiad hwn wedi ein galluogi i edrych ar fesurau anghydraddoldeb unigolion neu aelwydydd.
Mae’r astudiaethau rhyngwladol yn awgrymu y gall cyfraddau mynychder canser amrywio yn ôl nodweddion demograffig unigol pobl (Denny et al., 2019), yn ogystal â mesurau amddifadedd ar sail ardal. Mae ein hadroddiad yn cyflwyno canlyniadau ymchwiliad i anghydraddoldebau ac annhegwch ymhlith pobl â chanser yng Nghymru â gwahanol nodweddion cymdeithasol-ddemograffig unigol gan gynnwys ethnigrwydd, galwedigaeth, deiliadaeth aelwydydd, a gorlenwi mewn aelwydydd.
Mae'n bwysig ymchwilio i nodweddion ar lefel unigol a allai gyfrannu at anghydraddoldebau o ran mynychder canser rhwng pobl â chanser yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi cyfle i ddeall anghydraddoldebau iechyd yn y gymdeithas, ac i lywio polisïau a allai, yn eu tro, eu lleihau. Gellid priodoli bron pedwar o bob deg achos o ganser yn y DU yn 2015 i ffactorau risg hysbys (Brown et al., 2018). Gall gwell dealltwriaeth o ffactorau risg ac anghydraddoldebau o ran mynychder canser helpu i dargedu gwaith atal canser a mentrau iechyd cyhoeddus eraill. Hefyd, gallai mwy o wybodaeth am batrwm anghydraddoldebau posibl helpu i gynllunio gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd. Gan hynny, gallai gwasanaethau ac ymyriadau gwell arwain at ostyngiad ym mynychder canserau y gellir eu hatal, a chanlyniadau gwell i bobl â chanser yng Nghymru.
Cyflawnwyd y gwaith hwn gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (WCISU) o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Defnyddiwyd Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) ym Mhrifysgol Abertawe i gysylltu mynychder y cofrestrfa canser sy'n seiliedig ar y boblogaeth, ac sydd wedi'i sicrhau o ran ansawdd, â data Cyfrifiad 2011 yn ddienw ac yn gyfrinachol. Dadansoddodd y gwaith hwn 'bob canser gyda'i gilydd ac eithrio canser y croen nad yw'n melanoma (NMSC)' a phedwar prif fath o ganser: y fron fenywaidd, y colon a'r rhefr (y coluddyn mawr), y prostad a'r ysgyfaint. Mae 'mathau eraill o ganser' yn cyfeirio at bob math o ganser ac eithrio'r rhai yr adroddir arnynt ar wahân (h.y. canserau'r fron fenywaidd, yr ysgyfaint, y prostad, a'r colon a'r rhefr) ac NMSC. Cafodd y bobl y cynhwyswyd eu data yn y dadansoddiad hwn ddiagnosis rhwng 2011 a 2020, yn gynwysedig.
Rydym yn cyflwyno canlyniadau mynychder canser yn ôl cyfran (%), cyfradd fras a chyfraddau Ewropeaidd wedi'u safoni yn ôl oedran. Mae rhagor o wybodaeth am y data a'r dulliau a ddefnyddiwyd yn y dadansoddiad hwn, gan gynnwys eu cyfyngiadau, ar gael yn y canllaw technegol cysylltiedig.
Defnyddiwyd ethnigrwydd wedi’i hunan-adrodd yng Nghyfrifiad 2011 (Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2011) a meingefn ethnigrwydd SAIL (Akbari, Torabi, Bedston et al., 2024) i nodi chwe grŵp ethnig bras i'w dadansoddi:
Nodyn: Cyfeirir at y grwpiau ethnig a ddadansoddwyd yn y cyhoeddiad hwn fel 'Asiaidd,' 'Du,' 'Gwyn,' 'Ethnigrwydd cymysg,' ac 'Ethnigrwydd arall' er mwyn crynodeb.
Yn aml, mae cofnodion ethnigrwydd mewn data iechyd yn anghyflawn. Gan hynny, roedd defnyddio data’r Cyfrifiad yn hanfodol er mwyn nodi ethnigrwydd yn gadarn a chael cipolwg ar anghydraddoldebau posibl o ran mynychder canser rhwng grwpiau ethnig yng Nghymru. Mae Cancer Research UK (2022) yn awgrymu bod gwahaniaethau mewn mynychder canser rhwng grwpiau ethnig, ar gyfer rhai mathau o ganser, yn debygol o fod yn cael eu gyrru gan ffactorau risg canser an-enetig megis cyfraddau ysmygu, a chyfraddau gorbwysau a gordewdra. Er hynny, mae ffactorau ehangach sy'n dylanwadu ar iechyd megis yr amgylchedd cymdeithasol, economaidd a ffisegol, a nodweddion unigol person hefyd yn chwarae rhan bwysig. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gallai grwpiau ethnig lleiafrifol brofi cyfraddau uwch o amddifadedd yn Lloegr (Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, 2020). Wrth i grwpiau ethnig lleiafrifol ddod yn fwy sefydledig, mae cyffredinolrwydd eu ffactorau risg, a ac yna eu mynychder canser, wedi symud yn fwyfwy tuag at gyffredinolrwydd y boblogaeth gyfan (Delon et al., 2022).
Ethnigrwydd ac oedran yng Nghymru
Oedran yw'r ffactor risg mwyaf ar gyfer canser, gyda'r rhan fwyaf o ganserau'n digwydd mewn pobl hŷn. Pan edrychwn ar gyfran y canserau sy'n digwydd yn ôl ethnigrwydd ar gyfer pob oedran (Tabl 1), mae gan y grŵp ethnig Gwyn niferoedd sylweddol uwch gan fod ganddo boblogaeth fwy sydd mewn perygl o ganser yn gyffredinol o'i gymharu â grwpiau ethnig eraill Cymru. Y grŵp hwn hefyd sydd â’r gyfran fwyaf o bobl hŷn. Er hynny, gall anghydraddoldebau fodoli o hyd rhwng grwpiau ethnig, a gallai hyn gael ei guddio gan y boblogaeth Wyn hŷn, fwy. Mae modd goresgyn hyn drwy ddadansoddi'r cyfraddau mynychder wedi'u safoni yn ôl oedran ar gyfer pob grŵp ethnig (gweler Ffigur 1).
Tabl 1: Cyfrifon a chyfran (%) mynychder canser ar gyfer pob math o ganser gyda'i gilydd ac eithrio NMSC yn ôl ethnigrwydd ar gyfer pobl o bob oed yng Nghymru, 2011-2020. Data cofrestru canser WCISU; Cyfrifiad 2011 SYG; Banc Data SAIL.
| Ethnigrwydd | Dynion | Menywod | Personau |
|---|---|---|---|
| Gwyn | 97,250 (96.4%) | 89,476 (96.4%) | 186,726 (96.4%) |
| Anhysbys/Heb eu cyfateb | 2,213 (2.2%) | 1,968 (2.1%) | 4,181 (2.2%) |
| Asiaidd | 628 (0.6%) | 692 (0.8%) | 1,320 (0.7%) |
| Cymysg ethnigrwydd | 365 (0.4%) | 329 (0.4%) | 694 (0.4%) |
| Du | 263 (0.3%) | 170 (0.2%) | 433 (0.2%) |
| Arall ethnigrwydd | 194 (0.2%) | 156 (0.2%) | 350 (0.2%) |
Mae'n bwysig edrych ar ddadansoddiadau oedran poblogaethau grwpiau ethnig gwahanol yng Nghymru (Tabl 2). Mae hyn yn ein helpu i benderfynu pa ethnigrwydd sydd â nifer fwy o bobl sy’n wynebu risg o gael canser oherwydd oedran hŷn ac mae'n adlewyrchu strwythur oedran poblogaethau’r grwpiau ethnig gwahanol yng Nghymru (gweler yr Atodiad: Ffigurau 15-19 ar gyfer dadansoddiadau o'r boblogaeth yn ôl grŵp ethnig).
Tabl 2: Mynychder canser yn ôl cyfrifon a chyfran (%) o achosion yn ôl oedran ac ethnigrwydd ar gyfer pob canser gyda'i gilydd ac eithrio NMSC, personau, Cymru, 2011-2020. Data cofrestru canser WCISU; Cyfrifiad 2011 y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG); Banc Data SAIL.
| Grŵp oedran | Asiaidd | Du | Grwpiau cymysg | Grŵp ethnig arall | Gwyn | Ethnigrwydd anhysbys/heb ei gyfateb |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Llai na 35 | 145 (11%) | 29 (7%) | 49 (7%) | 31 (9%) | 4,171 (2%) | 73 (2%) |
| 35-49 | 248 (19%) | 64 (15%) | 105 (15%) | 74 (21%) | 11,434 (6%) | 235 (6%) |
| 50-64 | 422 (32%) | 151 (35%) | 185 (27%) | 121 (35%) | 44,665 (24%) | 904 (22%) |
| 65+ | 505 (38%) | 189 (44%) | 355 (51%) | 124 (35%) | 126,456 (68%) | 2,969 (71%) |
Mynychder yn ôl grŵp ethnig, math a cham y canser
Y grŵp ethnig Gwyn oedd â'r gyfradd uchaf o fynychder canser wedi'u safoni yn ôl oedran yng Nghymru yn 2020 (Ffigur 1); 1.6 gwaith yn uwch na'r gyfradd isaf, a oedd yn y grŵp Asiaidd, ac 1.5 gwaith yn uwch na'r cyfraddau ar gyfer y grwpiau ethnigrwydd Du ac Arall. Nid oedd cyfradd y grŵp ethnig Cymysg yn wahanol yn ystadegol i'r grŵp Gwyn. Canfu astudiaeth yn Lloegr (Delon et al., 2022) hefyd fod cyfraddau mynychder ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ganser yn is mewn grwpiau ethnig lleiafrifol nad ydynt yn Wyn o'i gymharu â'r grŵp ethnig Gwyn. Nid yw'n glir pam roedd y cyfraddau ar eu huchaf yn y boblogaeth Gwyn ar ôl ystyried oedrannau'r boblogaeth ym mhob grŵp ethnig. Mae angen mwy o waith i ymchwilio i ffactorau a allai fod yn effeithio ar hyn megis amddifadedd, geneteg, neu gyffredinolrwydd ffactorau risg megis ysmygu a gordewdra.
Ffigur 1: Mynychder yn ôl ethnigrwydd ar gyfer pob canser gyda'i gilydd ac eithrio NMSC, cyfradd Ewropeaidd wedi'i safoni yn ôl oedran fesul 100,000, personau, pob oedran, Cymru, 2020. Data cofrestru canser WCISU; Cyfrifiad 2011 SYG; Cyfrifiad 2021 (enwadur yn unig, gweler y Canllaw Technegol); Banc Data SAIL.
Gellir gweld gwahaniaethau rhwng y mathau o ganserau a ddiagnosir ym mhob grŵp ethnig yng Nghymru (Ffigur 2). Er enghraifft, roedd gan y grŵp Asiaidd gyfran uwch o ddiagnosisau canser y fron mewn menywod o'i gymharu â mathau eraill o ganser, tra bo gan y grŵp Du gyfran uwch o ddiagnosisau canser y prostad o fewn eu grŵp ethnig. Mae hyn yn ategu tystiolaeth bod dynion Du yn wynebu mwy o risg o ddatblygu canser y prostad (Prostate Cancer UK, 2023). Roedd gan y grŵp Gwyn ledaeniad mwy cyfartal o ddiagnosisau canser ar draws y gwahanol fathau. Gall hyn fod yn rhannol am eu bod yn ffurfio'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yng Nghymru, yn enwedig wrth fynd yn hŷn, felly roedd ganddyn nhw fwy o ddiagnosisau yn gyffredinol. Pe bai proffil oedran pob grŵp ethnig yr un fath, efallai y byddem yn gweld cynnydd mewn canserau sy'n effeithio'n bennaf ar bobl hŷn, a fyddai'n lleihau dominyddiaeth rhai safleoedd canser o fewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.
Ffigur 2: Cyfran (%) o bob math o ganser o fewn pob grŵp ethnig, personau, pob oedran, Cymru, 2011-2020. Data cofrestru canser WCISU; Cyfrifiad 2011 SYG; Banc Data SAIL.
Mae cam y canser yn disgrifio maint y tiwmor a pha mor bell y mae wedi lledaenu. Mae cam cynharach yn y diagnosis yn gysylltiedig â chanlyniadau gwell. Roedd gan y grŵp ethnigrwydd Cymysg gyfran uwch o ddiagnosisau camau hwyr (Cam 3 a 4), tra bo gan y grwpiau ethnigrwydd Asiaidd ac Arall gyfrannau uwch o ddiagnosisau camau cynnar (Cam 1 a 2) (Ffigur 3). Roedd gan y grŵp Du gyfran uwch o ddiagnosisau Cam 2 o'i gymharu â’r camau eraill. Mae’n bosibl bod y canlyniadau hyn yn dangos amrywiad yn y mathau o ganserau a ddiagnosir mewn pobl o wahanol fathau o ethnigrwydd, gwahaniaethau mewn ymddygiad ceisio iechyd neu fynediad at wasanaethau iechyd a phrofiadau ar hyd y llwybr gofal.
Ffigur 3: Y gyfran (%) ym mhob cam adeg diagnosis yn ôl grŵp ethnig, pob canser gyda'i gilydd ac eithrio NMSC, personau, pob oedran, Cymru, 2011-2020. Data cofrestru canser WCISU; Cyfrifiad 2011 SYG; Banc Data SAIL.
Roedd gan y grŵp ethnig Asiaidd gyfran uwch o ddiagnosisau canser y fron fenywaidd o'i gymharu â mathau eraill o ganser a gafodd ddiagnosis yn y grŵp hwn (Ffigur 3). Er hynny, mae astudiaethau wedi dangos bod rhwystrau yn bodoli yn y DU sy’n atal menywod Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig rhag ymateb i wasanaethau sgrinio’r fron a sgrinio serfigol. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth gwasanaethau iechyd, rhwystrau iaith, a bylchau mewn ymwybyddiaeth neu gefnogaeth (Bolarinwa a Holt, 2023). Er bod rhai o'r astudiaethau hyn yn edrych ar grwpiau ethnig ar wahân, mae eraill yn eu grwpio mewn un grŵp ethnig lleiafrifol cyfun yn unig. Mae gwaith blaenorol yng Nghymru hefyd wedi nodi bod llai o ymateb i wasanaethau sgrinio’r coluddyn ymysg grwpiau lleiafrifoedd ethnig (Bright et al., 2022). Gallai rhagor o waith i ymchwilio i unrhyw rwystrau yng Nghymru a mynd i'r afael â nhw helpu i wella’r canlyniadau i gleifion canser.
Yn yr adroddiad hwn, mae llety gorlawn yn seiliedig ar y dangosydd 'nifer y bobl fesul ystafell wely mewn aelwyd' yng Nghyfrifiad 2011 (ONS). Cafodd y rhai sy'n byw mewn sefydliadau cymunedol fel cartrefi gofal eu hepgor. Gall y dangosydd gorlenwi ddangos lefelau amddifadedd. Mae'r rhai sy'n byw gyda llai o ystafelloedd gwely nag sydd eu hangen yn debycach o fod yn amddifad. Mae amddifadedd yn ffactor risg ar gyfer canser yn rhannol am ei fod yn gysylltiedig â mynychder uwch o ysmygu, gordewdra ac yfed alcohol. Mae amddifadedd hefyd yn cyfrannu at rwystrau rhag cael mynediad at ofal iechyd neu geisio cymorth, a phrofiadau o amserau aros hirach am ofal (Cancer Research UK, 2025).
Roedd cyfradd fras mynychder canser yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely gryn dipyn yn uwch ymysg pobl ag un ystafell wely sbâr, ac yna'r rhai â llai o ystafelloedd gwely nag sy'n angenrheidiol (Ffigur 4). Gallai hyn adlewyrchu rôl oedran ac amddifadedd fel ffactorau risg ar gyfer canser. Pan ystyriwn strwythur oedran pobl sydd ag un ystafell wely sbâr, mae Ffigur 5 yn dangos inni mai dim ond rhan o'r darlun yw'r berthynas rhwng cael ystafell wely sbâr ac oedran, gydag amddifadedd yn cael effaith gref ar gyfraddau mynychder canser. Ar y llaw arall, gall pobl sy'n byw mewn tai sydd â llai o ystafelloedd gwely nag sydd eu hangen fod yn fwy amddifad.
Ffigur 4: Mynychder pob canser gyda'i gilydd ac eithrio NMSC yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely, cyfradd fras fesul 100,000, personau, pob oedran, 2020. Data cofrestru canser WCISU; Cyfrifiad 2011 SYG; Cyfrifiad 2021; Banc Data SAIL.
Roedd cyfradd mynychder canser wedi’i safoni yn ôl oedran 70 y cant yn uwch i'r rhai â llai o ystafelloedd gwely nag sy'n angenrheidiol o'i gymharu â'r gyfradd uchaf nesaf mewn pobl ag un ystafell wely sbâr (Ffigur 5). Er hynny, gallwn weld y gallai gwahanol fathau o amddifadedd fod yn effeithio ar mynychder canser o ran gorlenwi. Pe na bai unrhyw ffactorau heblaw gorlenwi (fel dangosydd o amddifadedd ar lefel unigol) ar waith, byddem yn disgwyl gweld mai pobl â nifer safonol o ystafelloedd gwely fyddai â'r gyfradd uchaf nesaf. Yn lle hynny, pobl ag un ystafell wely sbâr oedd â'r ail gyfradd uchaf o ddiagnosis canser. Gallai hyn fod oherwydd bod pobl sy'n byw mewn tai â llai o ystafelloedd gwely nag sydd eu hangen yn debycach o fod yn profi amddifadedd materol neu ariannol.
Ar y llaw arall, efallai bod y rhai sydd ag ystafelloedd gwely sbâr yn profi mwy o amddifadedd cymdeithasol fel unigrwydd, gan arwain at y cyfraddau uwch a welwn yn y ddau grŵp. Gall pobl hŷn gael eu heffeithio'n fwy gan unigrwydd ac ynysu cymdeithasol a all effeithio ar iechyd ac sy'n gysylltiedig â risg uwch o farwolaeth (Agni Nakou et al., 2025). Efallai y gwelwn fwy o hyn yng Nghymru wrth i'r boblogaeth heneiddio. Byddai'r ffactorau hyn, ac eraill a allai effeithio ar iechyd poblogaeth Cymru, yn elwa o gael eu harchwilio ymhellach.
Ffigur 5: Mynychder pob canser gyda'i gilydd ac eithrio NMSC yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely, cyfradd Ewropeaidd wedi'i safoni yn ôl oedran fesul 100,000, personau, pob oedran, 2020. Data cofrestru canser WCISU; Cyfrifiad 2011 SYG; Cyfrifiad 2021; Banc Data SAIL.
Roedd gan y categorïau 'un ystafell wely sbâr' a 'dwy ystafell wely sbâr neu fwy' gyfrannau uwch o bobl dros 65 oed (Ffigur 6). Er hynny, gallwn weld bod cyfran fawr o bobl â chanser a gafodd ddiagnosis rhwng 2011 a 2020 oedd â llai o ystafelloedd gwely nag sy'n angenrheidiol hefyd yn 65 oed neu'n hŷn. Mae hyn yn adlewyrchu effaith oedran fel ffactor risg mawr ar gyfer canser a'r boblogaeth sy'n heneiddio yng Nghymru. Mae hyn hefyd yn dystiolaeth bod ffactorau heblaw oedran yn cyfrannu at gyfradd uwch o mynychder canser mewn pobl sydd ag un ystafell wely sbâr. Roedd y cyfraddau'n uwch yn y categori hwn (Ffigur 4 a Ffigur 5) er bod yna gyfran lai o bobl hŷn o'i gymharu â'r rhai â dwy ystafell wely sbâr neu fwy.
Ffigur 6: Cyfran (%) o oedran adeg diagnosis ar gyfer cyfrifiadau mynychder pob canser gyda'i gilydd ac eithrio NMSC yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely, personau, Cymru, 2011-2020. Data cofrestru canser WCISU; Cyfrifiad 2011 SYG; Banc Data SAIL.
Wrth edrych ar y mathau mwyaf cyffredin o ganser, roedd cyfran uwch o ddiagnosisau canser y fron fenywaidd mewn pobl â nifer safonol o ystafelloedd gwely o'i gymharu â'r grwpiau eraill (Ffigur 7). Gall hyn gyfrannu at y patrwm gwahanol a welir yn Ffigur 6 yn achos y rhai sy'n byw gyda nifer safonol o ystafelloedd gwely. Mae menywod yn cael eu galw ar gyfer sgrinio’r fron o 50 oed ymlaen yng Nghymru ac mae cyfraddau canser y fron fenywaidd yn dechrau cynyddu ar odran iau nag yn achos y mathau eraill o ganser a archwiliwyd, gan gyfrannu o bosibl at y patrwm gwahanol a welir yma.
Ffigur 7: Cyfran (%) o fathau o ganser yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely, personau, Cymru, 2011-2020. Data cofrestru canser WCISU; Cyfrifiad 2011 SYG; Banc Data SAIL.
Dosbarthiad yw deiliadaeth yr aelwyd sy’n dangos a yw’r tŷ yn cael ei rentu ynteu'n perthyn i rywun. Dadansoddwyd chwe chategori a'u grwpio gyda'i gilydd ar gyfer rhai o'r siartiau:
Cafodd y rhai sy'n byw mewn sefydliadau cymunedol fel cartrefi gofal eu hepgor. Mae tai rhent cymdeithasol yn cyfeirio at dai rhent a ddarperir gan gynghorau lleol neu gymdeithasau tai, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i ymgeiswyr os ydynt yn ddigartref, yn byw mewn amgylchiadau gorlawn neu os oes ganddynt angen meddygol. Gall y nodwedd hon ddangos lefelau o amddifadedd, gyda'r rhai sy'n berchen ar eu heiddo eu hunain yn llai tebygol o fod yn amddifad o'u cymharu â'r rhai nad ydynt yn berchen ar eu cartref eu hunain. Tai o ansawdd is yw un o brif ffactorau anghydraddoldebau iechyd a thlodi yn y DU a gall effeithio'n fawr ar iechyd a lles pobl (Cyfadran Iechyd y Cyhoedd, 2024).
Digwyddodd y cyfraddau crai uchaf o mynychder canser ymhlith y rhai sy'n byw mewn tai rhent cymdeithasol a'r rhai sy'n berchen ar eu heiddo'n llwyr (Ffigur 8). Gan fod pobl sy'n berchen ar eu cartref yn llwyr yn debygol o fod yn hŷn ac yn llai amddifad, mae hyn yn dangos dylanwad oedran hŷn ar mynychder canser. Ar y llaw arall, mae'n bosibl bod y rhai sy'n byw mewn tai cymdeithasol yn debycach o fod yn profi amddifadedd mewn rhyw ffordd, gan adlewyrchu dylanwad amddifadedd ar mynychder canser.
Ffigur 8: Mynychder pob canser gyda'i gilydd ac eithrio NMSC yn ôl deiliadaeth yr aelwyd, cyfradd fras fesul 100,000, personau, pob oedran, Cymru, 2020. Data cofrestru canser WCISU; Cyfrifiad 2011 SYG; Cyfrifiad 2021; Banc Data SAIL.
Roedd cyfradd mynychder canser wedi'i safoni yn ôl oedran ar gyfer y rhai oedd yn byw mewn tai rhent cymdeithasol 3 gwaith yn uwch nag ar gyfer y rhai oedd yn berchen ar eu cartref yn llwyr (Ffigur 9). Gwelwyd y gyfradd isaf ymhlith y rhai oedd yn berchen ar eu cartref yn llwyr. Er hynny, nid oedd gwahaniaeth arwyddocaol yn y gyfradd rhwng tai rhent cymdeithasol a'r rhai sy'n berchen ar eu cartref gyda morgais/benthyciad/perchnogaeth a rennir.
Ffigur 9: Mynychder pob canser gyda'i gilydd ac eithrio NMSC yn ôl deiliadaeth yr aelwyd, cyfradd Ewropeaidd wedi'i safoni yn ôl oedran fesul 100,000, personau, pob oedran, Cymru, 2020. Data cofrestru canser WCISU; Cyfrifiad 2011 SYG; Cyfrifiad 2021; Banc Data SAIL.
Roedd mwyafrif mawr o'r rhai oedd yn berchen ar eu cartref yn llwyr neu'n byw heb rent dros 65 oed (Ffigur 10). Roedd cyfran uchel o ganser ymhlith y rhai 50-64 oed oedd yn berchen ar eu cartref gyda morgais neu fenthyciad. Yn debyg i'r patrwm a welwyd wrth edrych ar nifer yr ystafelloedd gwely (Adran 3), roedd cyfran uwch o ganser y fron fenywaidd ymysg pobl 50-64 oed oedd yn berchen ar eu cartref gyda morgais o'i gymharu â mathau eraill o ddaliadaeth aelwydydd. Yn ôl yr SYG (2020), cynyddodd perchnogaeth tai ymysg pobl hŷn yn y blynyddoedd diwethaf, gyda nifer cynyddol hefyd wedi talu eu morgais erbyn 65 oed yn Lloegr. Er hynny, mae cenedlaethau iau bellach yn llai tebygol o fod yn berchen ar eu cartref eu hunain, a allai gael goblygiadau i'w hiechyd a'u lles yn y dyfodol gan y bydd mwy o bobl yn dal i fyw mewn tai cymdeithasol neu dai rhentu preifat (SYG, 2020).
Ffigur 10: Cyfran (%) yr oedrannau ar gyfer pob canser gyda'i gilydd ac eithrio NMSC yn ôl deiliadaeth yr aelwyd, personau, Cymru, 2011-2020. Data cofrestru canser WCISU; Cyfrifiad 2011 SYG; Banc Data SAIL.
O ran galwedigaeth, dadansoddwyd dau grŵp o bobl: y rhai oedd wedi ymddeol o alwedigaeth flaenorol a'r rhai oedd yn economaidd weithredol adeg Cyfrifiad 2011 (SYG), ac eithrio myfyrwyr.
Roedd mynychder canser gryn dipyn yn uwch ymhlith pobl wedi ymddeol yr oedd eu rolau blaenorol o fewn gweithredu peiriannau, crefftau medrus neu swyddi elfennol, fel gweithwyr ffatri, crefftwyr, gweithwyr manwerthu, glanhawyr a llafurwyr, o'i gymharu â grwpiau galwedigaethol eraill (Ffigur 11). Mae'n debyg bod y patrwm hwn yn cael ei sbarduno gan gyfraddau uwch o mynychder canser sydd fel arfer yn digwydd mewn dynion yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2024), ynghyd ag unrhyw wahaniaethau strwythur oedran rhwng y grwpiau galwedigaethol wedi ymddeol.
Yn y galwedigaethau technegol a phroffesiynol y cafwyd y cyfraddau isaf. Gall hyn fod oherwydd cyffredinolrwydd gwahanol y ffactorau risg rhwng pobl mewn galwedigaethau gwahanol, megis cyffredinolrwydd ysmygu neu beryglon galwedigaethol. Mae rhai astudiaethau wedi canfod cysylltiad rhwng incwm, lefel addysg, man preswylio neu alwedigaeth a mynediad at sgrinio a thriniaeth yn ogystal â lefelau llythrennedd iechyd. (Li et al, 2024). Gall yr holl ffactorau hyn fod ar waith yn y grwpiau galwedigaethol hyn.
Ffigur 11: Mynychder pob canser gyda'i gilydd, ac eithrio NMSC, yn ôl galwedigaeth wedi ymddeol, cyfradd fras fesul 100,000, pobl 16+ oed, 2020. Data cofrestru canser WCISU; Cyfrifiad 2011 SYG; Cyfrifiad 2021; Banc Data SAIL.
Roedd llai o wahaniaeth rhwng cyfraddau uchaf ac isaf mynychder canser mewn pobl mewn galwedigaeth weithredol (Ffigur 12) o'i gymharu ag mewn pobl wedi ymddeol. Roedd cyfradd uchaf mynychder canser ar gyfer y rhai mewn galwedigaeth weithredol hefyd yn llai na'r gyfradd isaf a welwyd ar gyfer rhai wedi ymddeol, gan adlewyrchu effaith oedran ar mynychder canser unwaith eto.
Gwelir patrwm gwahanol ymysg pobl mewn galwedigaethau gweithredol o'i gymharu â phobl wedi ymddeol (Ffigur 12), gyda rolau gweinyddol bellach â'r ail gyfradd uchaf. Roedd mwy na 3 gwaith yn fwy o fenywod na dynion yn y grŵp galwedigaeth hwn, felly mae'n debyg bod y gyfradd hon yn cael ei gyrru gan ganser y fron mewn menywod. Canser y fron fenywaidd yw un o'r mathau mwyaf cyffredin o ganser sy'n cael ei ddiagnosio yng Nghymru ac mae cyfraddau canser y fron fenywaidd yn dechrau codi cyn oedran ymddeol (Iechyd Cyhoeddus Cymru, 2024).
Ffigur 12: Mynychder pob canser gyda'i gilydd ac eithrio NMSC yn ôl galwedigaeth weithredol, cyfradd fras fesul 100,000, pobl 16+ oed, 2020. Data cofrestru canser WCISU; Cyfrifiad 2011 SYG; Cyfrifiad 2021; Banc Data SAIL.
Yn aml, roedd canser y fron fenywaidd yn cael ei ddiagnosio mewn swyddi lle byddai menywod yn dominyddu a chanser y prostad yn cael ei ddiagnosio mewn swyddi lle byddai dynion yn dominyddu wrth edrych ar grwpiau galwedigaethau gweithredol (Ffigur 13). Mae hyn yn cydberthyn â'r cyfraddau a welir yn Ffigur 12 ar gyfer rhai o'r galwedigaethau hyn, megis crefftau medrus a rolau gweinyddol. Dangosodd yr adroddiad ‘Adult smoking habits in the UK: '2023' (SYG, 2024) fod cyffredinolrwydd ysmygu gryn dipyn yn is ymhlith y rhai sy'n gweithio mewn galwedigaethau rheoli a phroffesiynol a chryn dipyn yn uwch ymhlith y rhai sy'n gweithio mewn galwedigaethau rhigolaidd a galwedigaethau gwaith llaw. Er nad yw'r categorïau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwnnw'n cyfateb yn uniongyrchol i'n categorïau ni, gallwn weld y gallai cyffredinolrwydd ysmygu chwarae rhan yn y cyfraddau canser yr ysgyfaint is a welwn mewn galwedigaethau proffesiynol o'i gymharu â gweithredwyr prosesau, cyfarpar a pheiriannau neu alwedigaethau elfennol fel gweithwyr ffatri neu lafurwyr.
Ffigur 13: Cyfran (%) o bob math o ganser yn ôl galwedigaeth weithredol, pobl 16+ oed, Cymru, 2011-2020. Data cofrestru canser WCISU; Cyfrifiad 2011 SYG; Banc Data SAIL.
Ymhlith y rhai sydd wedi ymddeol, roedd gan rai o'r diwydiannau lle mae dynion yn dominyddu, yn enwedig gweithredwyr prosesau, cyfarpar a pheiriannau, gyfrannau uwch o bobl a gafodd ddiagnosis yn ddiweddarach (Ffigur 14). Yn y cyfamser, roedd gan rai rolau lle mae menywod yn dominyddu fel galwedigaethau gweinyddol ac ysgrifenyddol gyfrannau uwch o bobl wedi cael diagnosis yn gynnar, a all eto adlewyrchu nifer uchel o ddiagnosisau canser y fron mewn menywod hŷn. Gallai hyn hefyd fod oherwydd ymddygiadau gwahanol rhwng y rhywiau, gyda dynion yn debycach o oedi cyn chwilio am wasanaethau gofal iechyd na menywod (Banks, 2001). Byddai angen rhagor o waith i archwilio rhesymau posibl eraill.
Roedd gan y rhai mewn galwedigaethau proffesiynol gyfran uwch o ddiagnosisau camau cynnar na'r rhai oedd yn gweithio mewn galwedigaethau elfennol, fel glanhawyr neu lafurwyr, oedd â chyfran uwch o ddiagnosisau camau hwyr. Gall hyn fod oherwydd gwahaniaeth yn y mathau o ganser a ddiagnosir rhwng y grwpiau hyn, fel y gwelsom ar gyfer y rhai mewn galwedigaeth weithredol (Ffigur 13). Er hynny, gall hefyd awgrymu rhwystrau posibl sy’n atal mynediad at ofal iechyd neu wahaniaethau o ran ymddygiadau chwilio am ofal iechyd. Mae ymchwil arall yn awgrymu y gallai pobl sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig neu bobl sydd â'r cyrhaeddiad addysgol isaf brofi mwy o rwystrau rhag gofal iechyd ac ymddangos yn ddiweddarach â symptomau canser (McCutchan et al., 2016). Mae'r ymchwilwyr hyn yn awgrymu y gallai hyn fod oherwydd ffactorau fel ymwybyddiaeth wael o symptomau canser, amrywiol rwystrau sy’n eu hatal rhag cael mynediad at apwyntiadau neu fynd i’w hapwyntiadau neu gredoau ofnus ynghylch canser.
Ffigur 14: Cyfran (%) y diagnosisau canser yn ôl diagnosisau camau cynnar a hwyr, galwedigaeth wedi ymddeol, pob canser gyda'i gilydd ac eithrio NMSC, pobl 16+ oed, Cymru, 2011-2020. Data cofrestru canser WCISU; Cyfrifiad 2011 SYG; Banc Data SAIL. Gweler yr Atodiad: Ffigur 20 i gael dadansoddiad manylach o'r cam wrth gael diagnosis ar gyfer pobl wedi ymddeol.
Diolch i'r gallu i gysylltu data o ansawdd uchel o’r gofrestrfa canser y boblogaeth gyfan a data Cyfrifiad 2011 drwy gronfa ddata SAIL, rydyn ni wedi llwyddo i gyflawni dadansoddiad nad yw'n bosibl gyda'n data cofrestrfeydd canser yn unig. Mae'r cysylltiad hwn wedi’n galluogi i ddechrau edrych ar effeithiau gwahanol nodweddion cymdeithasol-ddemograffig ar mynychder canser ar lefel unigol yn hytrach na'n dadansoddiadau amddifadedd arferol ar sail ardal.
Er ein bod wedi llwyddo i roi cipolwg ar ble mae gwahaniaethau ac anghydraddoldebau posibl i'w cael o fewn y dangosyddion hyn, mae angen rhagor o waith i ddeall gwir effaith ethnigrwydd, gorlenwi, galwedigaeth a ffactorau eraill ar mynychder canser yng Nghymru. Roedd y dadansoddiad yn yr adroddiad hwn yn gyfyngedig mewn rhai meysydd oherwydd y niferoedd bach o gleifion mewn rhai grwpiau ac argaeledd data. Mae rhagor o fanylion am y dadansoddiad i'w gweld yn y Canllaw Technegol. Er hynny, mae'r gwaith hwn yn darparu llinell sylfaen gref ar gyfer rhagor o ddadansoddi sydd wedi'i gynllunio ar anghydraddoldebau a mynychder canser ac mae’n tynnu sylw at ragor o gwestiynau i'w harchwilio.
Lawrlwythwch y data yn yr erthygl hon – Excel
Mae'r gwaith hwn yn defnyddio data a ddarparwyd gan gleifion ac a gasglwyd gan y GIG fel rhan o'u gofal a'u cefnogaeth. Rydyn ni hefyd eisiau cydnabod pob darparwr data sy'n darparu data dienw ar gyfer ymchwil.
Hoffem gydnabod y bartneriaeth gydweithredol a fu’n fodd inni sicrhau a gweld y data dienw a arweiniodd at yr allbwn hwn. Arweiniwyd y cydweithrediad gan grŵp Gwyddor Data Poblogaeth Prifysgol Abertawe, dan gyfarwyddyd Cell Cyngor Technegol (TAC) Llywodraeth Cymru ac mae'n cynnwys y grwpiau a'r sefydliadau canlynol: Banc Data SAIL, Ymchwil Data Iechyd y DU (HDR UK), Ymchwil Data Gweinyddol (ADR) Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW, a elwid gynt yn Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS)), Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cydwasanaethau’r GIG ac Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST). Mae'r holl ymchwil wedi'i chwblhau o dan ganiatâd a chymeradwyaeth Panel Adolygu Llywodraethu Gwybodaeth (IGRP) annibynnol SAIL, rhif prosiect 0911.
Hoffem ddiolch hefyd i aelodau’r grŵp ymchwil DATA-CAN-CCC am eu cefnogaeth a’u mewnbwn i’r prosiect ymchwil hwn.
Mae'r astudiaeth hon yn defnyddio data dienw a gedwir ym Manc Data SAIL. Hoffem gydnabod yr holl ddarparwyr data sy'n darparu data dienw ar gyfer ymchwil.
Cefnogwyd y gwaith hwn gan dîm Con-COV a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol (rhif grant: MR/V028367/1).
Cefnogwyd y gwaith hwn gan Health Data Research UK, sy'n derbyn ei gyllid gan HDR UK Ltd (HDR-9006) a ariennir gan Gyngor Ymchwil Feddygol y DU, y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Lloegr), Swyddfa Prif Wyddonydd Cyfarwyddiaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth yr Alban, Is-adran Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Llywodraeth Cymru), Asiantaeth Iechyd y Cyhoedd (Gogledd Iwerddon), Sefydliad Prydeinig y Galon (BHF) ac Ymddiriedolaeth Wellcome.
Cefnogwyd y gwaith hwn gan raglen waith ADR Cymru. Mae ADR Cymru, rhan o fuddsoddiad ADR UK, yn uno arbenigedd ymchwil o Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe a WISERD (Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru) ym Mhrifysgol Caerdydd gyda dadansoddwyr o Lywodraeth Cymru. Mae ADR UK yn cael ei ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), rhan o Ymchwil ac Arloesi'r DU. Cefnogwyd yr ymchwil hon gan gyllid ESRC, gan gynnwys Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (ES/W012227/1).
Cefnogwyd y gwaith hwn gan Ganolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Ffigurau 15-19: Dadansoddiadau poblogaeth ar gyfer pob grŵp ethnig wedi'u dadansoddi yn ôl rhyw a grŵp oedran yng Nghymru, 2021. WCISU; Cyfrifiad 2021; SYG.
Ffigur 20: Cyfran (%) y digwyddedd canser yn ôl cam adeg y diagnosis, galwedigaeth wedi ymddeol, pob canser gyda'i gilydd ac eithrio NMSC, pobl 16+ oed, Cymru, 2011-2020. Data cofrestru canser WCISU; Cyfrifiad 2001 SYG; Cyfrifiad 2021; Banc Data SAIL.