Uned Gwybodaeth ac Arolygiaeth Canser Cymru (WCISU) yw Cofrestrfa Genedlaethol Canser Cymru a’i phrif rôl yw cofnodi, cadw ac adrodd ar fynychder canser ar gyfer y boblogaeth sy’n preswylio yng Nghymru ble bynnag y cânt eu trin. Dechreuwyd gofrestru canser yng Nghymru bron bum degawd yn ôl ac mae’r gronfa ddata electronig heddiw, sy’n cadw cofnodion sy’n deillio’n ôl i 1972, yn cynnwys tua 686,000 o gofnodion.
Nid yw data lle mae cleifion yn hysbys byth yn cael ei ryddhau o’r gofrestrfa heb gymeradwyaeth foesegol briodol ac ni fydd y gofrestrfa byth yn cysylltu â chelfion unigol na’u perthnasau.
Mae gwybodaeth i gleifion ar gael o'r daflen canlynol: Ynglŷn â Chofrestru Canser: Taflen ar gyfer cleifion
Mae WCISU yn aelod llawn o Gymdeithas Cofrestrfeydd Canser y Deyrnas Unedig ac Iwerddon (UKIACR) sydd yn cydweithio i sicrhau bod safonau Cenedlaethol a Rhyngwladol ar gyfer cofrestru canser yn cael eu cynnal.
Mae WCISU yn gallu darparu gwybodaeth amserol, o ansawdd uchel am fynychder canser, goroesi a marwolaethau.
Casglu, dadansoddi a chadw data cywir, amserol a chynhwysfawr am ganser.
Cynnal cyfrinachedd cleifion.
Darparu gwybodaeth am fynychder canser, goroesi a marwolaethau dros amser.
Monitro tueddiadau canser.
Cyfrannu at bwysigrwydd prosiectau a rhaglenni ymchwil ar draws y DU ac yn rhyngwladol.
Darparu gwybodaeth briodol am ganser ar gyfer ymholiadau untro.
Cyhoeddi adroddiadau a phapurau gwyddonol yn ymwneud â chanser
Hwyluso cynllunio gwasanaethau canser ar gyfer ataliaeth, diagnosis, gwellhad a gofal.
Adolygu gweithgareddau a rhaglenni’r Gofrestrfa yn rheolaidd er mwyn sicrhau darparu data o ansawdd uchel ar ganser.
Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru
Llawr 5
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Rhif 2 Capital Quarter
Tyndall Street
Caerdydd
CF10 4BZ
Ffôn: 02920 104278