Neidio i'r prif gynnwy

Eich canlyniadau

Byddwch yn cael canlyniadau eich sgan ar ddiwedd eich apwyntiad. Bydd eich meddyg yn cael copi o’ch canlyniadau hefyd.

Mae pedwar canlyniad posibl y gallech eu cael ar ôl eich sgan uwchsain.

  1. Ni chanfuwyd ymlediad
    Os yw’ch aorta yn llai na 3cm o led, mae hyn yn golygu nad oes gennych ymlediad.

    Nid oes angen triniaeth na monitro arnoch. Ni fyddwn yn eich gwahodd i gael eich sgrinio am YAA eto.  Mae yna bethau y gallwch eu gwneud i gadw’n iach.

 

  1. YAA bach i ganolig
    Os yw eich aorta abdomenol yn mesur rhwng 3 a 4.4cm o led, mae gennych YAA bach.

    Os yw eich aorta abdomenol yn mesur rhwng 4.5 a 5.4cm o led, mae gennych YAA canolig.

    Mae YAA bach neu ganolig yn golygu bod llai o risg iddo rwygo nag YAA mawr.

    Byddwch yn cael eich gwahodd i gael sgan uwchsain yn rheolaidd i wirio maint eich YAA.  Bydd pa mor aml y bydd angen sgan arnoch chi yn dibynnu ar faint eich YAA. Efallai y bydd angen meddyginiaeth arnoch hefyd, a gaiff ei rhagnodi gan eich meddyg.

    Mae yna bethau y gallwch eu gwneud i gadw’n iach.

    Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn y daflen Ymlediadau aortig abdomenol bach i ganolig.
     
  2. YAA mawr
    Os yw eich aorta abdomenol yn mesur 5.5cm o led neu fwy, mae gennych YAA mawr.

    Byddwn yn eich atgyfeirio i dîm arbenigol mewn ysbyty a fydd yn gallu cynnal rhagor o brofion a thrafod eich opsiynau triniaeth.

    Gallai triniaeth gynnwys cael llawdriniaeth.

    Gall fod risgiau sylweddol o ganlyniad i rai llawdriniaethau YAA ond mae'r tebygolrwydd o wella yn uwch o lawer os yw'r llawdriniaeth wedi'i chynllunio.

    Ar gyfer nifer fach o ddynion, ni fydd llawdriniaeth yn bosibl.

    Siaradwch â'ch tîm arbenigol am y pethau y gallwch eu gwneud i gadw'n iach.

    Gallwch gael rhagor o wybodaeth am reoli YAA mawr yn y daflen Ymlediadau aortig abdomenol mawr.

     
  3. Ni ddaethpwyd o hyd i ddelwedd ohoni (ni ellir gweld yr aorta)
    Mewn achosion prin iawn, efallai na fydd y sgriniwr yn gallu gweld a mesur eich aorta abdomenol.  Nid yw hyn yn unrhyw beth i chi boeni amdano. Gallai hyn ddigwydd oherwydd nifer o resymau a bydd y sgriniwr yn esbonio hyn i chi yn ystod yr apwyntiad sgrinio.  Byddwch yn cael cynnig sganiau pellach.

 

Beth fydd yn digwydd os canfyddir YAA?

 

YAA bach neu ganolig

Bydd nyrs YAA yn cysylltu â chi cyn pen pum niwrnod gwaith i’ch sgan YAA. Bydd y nyrs yn trafod eich canlyniad yn fwy manwl ac yn rhoi cyngor i chi ar eich iechyd cyffredinol a sut y gall cyflyrau eraill effeithio ar eich YAA.

Os oes gennych YAA bach (3 i 4.4cm o led) byddwch yn cael eich gwahodd bob blwyddyn i gael sgan monitro.

Os oes gennych YAA canolig (4.5 i 5.4cm o led) byddwch yn cael eich gwahodd bob tri mis i gael sgan monitro.

Bydd y nyrs YAA yn awgrymu eich bod yn gwneud apwyntiad i weld eich meddyg i wirio’ch pwysedd gwaed a siarad am sut gallwch gadw'n iach.
 

YAA mawr

Os oes gennych YAA mawr (5.5cm o led neu fwy) bydd nyrs YAA yn cysylltu â chi dros y ffôn o fewn pum niwrnod i'ch sgan YAA. Bydd y nyrs yn trafod eich canlyniad yn fwy manwl ac yn rhoi cyngor i chi ar eich iechyd cyffredinol a sut y gall cyflyrau eraill effeithio ar eich YAA. 

Bydd nyrs arbenigol ysbyty yn cysylltu â chi.  Anfonir llythyr atoch sy’n cynnwys apwyntiad i gyfarfod â thîm arbenigol yr ysbyty.  Byddant yn cynnig cyngor ac yn trafod eich opsiynau ar gyfer rheoli eich YAA. Bydd yr apwyntiad fel arfer yn digwydd o fewn pythefnos i'ch sgan. Gwnewch yn siŵr eich bod ar gael yn ystod y cyfnod hwn, os gwelwch yn dda.

Gallai triniaeth gynnwys cael llawdriniaeth.   Gall fod risgiau sylweddol o ganlyniad i rai llawdriniaethau YAA ond mae'r tebygolrwydd o wella yn uwch o lawer os yw'r llawdriniaeth wedi'i chynllunio.

Ar gyfer nifer fach o ddynion, ni fydd llawdriniaeth yn bosibl.