Ble y byddaf yn cael fy sgrinio?
Cynhelir sgrinio YAA mewn clinigau cymunedol a lleoliadau eraill. Anfonir llythyr apwyntiad a map atoch, a fydd yn dweud wrthych ble y cewch eich sgrinio.
Newid fy apwyntiad
Mae apwyntiadau sgrinio YAA yn brin. Cysylltwch â ni os:
- Na allwch ddod i’ch apwyntiad, oherwydd efallai y gallwn gynnig amser, dyddiad a lleoliad mwy addas i chi.
- Nad ydych yn bwriadu dod; gallwn gynnig eich apwyntiad i rywun arall.
- Oes gennych anabledd neu os oes arnoch angen cymorth, oherwydd gallwch ofyn am apwyntiad hirach.
- Ydych wedi methu eich apwyntiad sgrinio YAA fel y gallwn drefnu apwyntiad newydd.
Paratoi ar gyfer fy apwyntiad
Cyn eich apwyntiad:
- Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen a deall yr wybodaeth a anfonwyd atoch.
- Cysylltwch â ni os bydd arnoch angen cymorth yn eich apwyntiad.
- Sicrhewch eich bod yn gwybod ymhle mae eich apwyntiad.
- Cynlluniwch sut y byddwch yn cyrraedd, dylech ganiatáu digon o amser i deithio.
- Byddwch yn ymwybodol efallai y bydd angen i chi dalu i barcio yn rhai o’r lleoliadau sgrinio.
- Dylech ganiatáu o leiaf 30 munud ar gyfer eich apwyntiad.
Cyrraedd eich apwyntiad
Gofynnwn i chi ddod i'ch apwyntiad yn brydlon ac ar eich pen eich hun os oes modd.
Os bydd arnoch angen cymorth yn ystod eich apwyntiad, cysylltwch â ni cyn dod.