Mae Sgrinio Mamau a Phlant (MAC) yn symud i ddigidol yn gyntaf ar gyfer darparu gwybodaeth sgrinio cyn geni a babanod newydd-anedig erbyn diwedd mis Medi 2022. Byddwn yn lleihau ein dibyniaeth ar daflenni/llyfrynnau printiedig ac yn symud tuag at ddulliau digidol o ddarparu gwybodaeth am sgrinio.
Er mwyn galluogi’r newid hwn, mae’r rhaglenni cyn geni a babanod newydd-anedig wedi creu “pecyn cymorth” o adnoddau i weithwyr iechyd proffesiynol eu defnyddio. Mae'r dogfennau hyn yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r rhain yn cynnwys:
• Swyddogaethau hygyrchedd (canllaw byr)
• Posteri babanod newydd-anedig (i'w defnyddio mewn clinigau cyn geni / wardiau / ac ati)
• Codau QR