Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol Sgrinio Cyn Geni 2022 - 2024

Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu'r gwaith a wnaed gan Sgrinio Cyn Geni Cymru rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2024. Mae'r adroddiad cryno hwn yn amlygu cyflawniadau'r tîm ac yn gyfle i fyfyrio. Mae'n dangos yr amrywiaeth eang o waith a wnaed ar gyfer yr wyth rhaglen sgrinio cyn geni ac mae'n dangos cydweithio â chydweithwyr ledled Cymru.

Sefydlwyd Sgrinio Cyn Geni Cymru yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru i sefydlu polisïau, safonau a fframwaith rheoli perfformiad ar gyfer sgrinio cyn geni a ddarperir gan wasanaethau mamolaeth yng Nghymru. Mae byrddau iechyd yn gyfrifol am ddarparu sgrinio yn unol â'r polisïau, y safonau a'r protocolau fel rhan o ofal cyn geni arferol.

Mae'r adroddiad yn trafod y ffrydiau gwaith a gynhaliwyd gan y Tîm yn unol â Chynllun Gweithredol Sgrinio Cyn Geni Cymru.

Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru wedi mabwysiadu polisïau, safonau a phrotocolau Sgrinio Cyn Geni Cymru. Mae hyn yn galluogi menywod yng Nghymru i gael gafael ar wasanaethau sy'n gweithio yn ôl arferion gorau ac mae'n sicrhau gwasanaeth sgrinio cyn geni teg. Yn dilyn yr adolygiad blwyddyn o hyd o'r Polisi, Safonau a Phrotocolau, cyhoeddwyd y fersiwn wedi'i diweddaru ar 14 Awst 2023. Diweddarwyd adnoddau atodol yn unol â'r adolygiad o'r safonau a'r protocolau. Mae’r rhain yn cynnwys gwybodaeth ysgrifenedig cyn ac ar ôl prawf ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau, Llawlyfr Bydwragedd, gwybodaeth i fenywod lle mae gefell wedi marw (gefell sydd wedi diflannu) a phecynnau e-ddysgu presennol.

Mae'n rhoi manylion y gwaith i bennu cwmpas a datblygu'r gwaith o gyflwyno sgrinio DNA di-gell y ffetws i'r Rhaglen Grŵp Gwaed a Gwrthgyrff ar gyfer y boblogaeth feichiog gymwys. Roedd hwn yn brosiect mawr yn cynnwys gweithio amlddisgyblaethol gan gydweithwyr ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. Mae'r adnoddau a ddatblygwyd neu a ddiwygiwyd ar gyfer y gweithredu yn cynnwys:

  • Diwygiadau i Bolisi, Safonau a Phrotocolau
  • Paratoi pecyn e-ddysgu ar gyfer Grŵp Gwaed a Gwrthgyrff
  • Hyfforddiant rhaeadru ar gyfer cynnig DNA di-gell y ffetws (cffDNA)
  • Llwybr ar gyfer y prawf sgrinio a rheoli canlyniadau anghyson
  • Diwygiadau i adnoddau gweithwyr iechyd proffesiynol-Llawlyfr Bydwragedd, cwblhau'r cardiau cais am brawf yn gywir
  • Diwygiadau i wybodaeth ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau-gwybodaeth cyn prawf, gwybodaeth i fenywod sy'n RhD negatif ac sy'n cael cynnig sgrinio, menywod sy'n cael cynnig profion mewnwthiol (e.e. amniosentesis, profion filws corionig (CVS).

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i weithredu profi cynenedigol heb lawdriniaeth (NIPT) fel cyflwyniad gwerthusol tair blynedd. Cyhoeddwyd canfyddiadau'r gwerthusiad o fewn y cyfnod adrodd hwn. Mae argymhellion o'r cyflwyniad gwerthusol bellach yn cael eu hymgorffori mewn ‘busnes fel arfer’.

Datblygwyd nifer o adnoddau e-ddysgu i gynorthwyo gweithwyr iechyd proffesiynol, sy'n darparu'r rhaglen sgrinio cyn geni yng Nghymru. Ymhlith yr adnoddau a ddatblygwyd roedd –

  • Clefydau Trosglwyddadwy
  • Grŵp Gwaed a Gwrthgyrff

Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru wedi parhau i fonitro perfformiad y rhaglenni drwy archwilio:

  • adrodd Dangosydd Perfformiad ddwywaith y flwyddyn
  • monitro perfformiad llwybr sgrinio syndrom Down (T21), syndrom Edwards (T18) a syndrom Patau (T18) yng Nghymru gyda chymorth Gwasanaeth Cymorth Sicrwydd Ansawdd syndrom Down (DQASS)
  • coluddyn ecogenig a ganfyddir yn y sgan anomaledd
  • heoli siffilis yn ystod beichiogrwydd, ac
  • ailarchwilio rheoli hepatitis B yn ystod beichiogrwydd.

Mae gwaith datblygu yn mynd rhagddo i bennu cwmpas cyflwyno mesur cylch yr abdomen yn ystod y sgan anomaledd ar gyfer pob bwrdd iechyd yng Nghymru ac awgrymir gweithredu hyn ym mis Hydref 2024.

Cyflwynwyd a gweithredwyd gwyliadwriaeth achosion o HIV a siffilis ym mis Ionawr 2024. Bydd casglu data canlyniadau sgrinio ac adrodd arnynt ar gyfer y ddau gyflwr yn ystod beichiogrwydd yn asesu effaith y cyflyrau yng Nghymru. Bydd hyn yn arwain at wneud argymhellion yn lleol ac yn genedlaethol, cryfhau polisi ac ymarfer, a gwella gofal i famau a'u plant yng Nghymru.

Gweithiodd Sgrinio Cyn Geni Cymru mewn partneriaeth gyda byrddau iechyd i weithredu ‘Digidol yn Gyntaf’ ar gyfer darparu gwybodaeth i'r cyhoedd am sgrinio cyn geni, gyda phontio ffurfiol ledled Cymru ers mis Medi 2022. Gweithredwyd Digidol yn Gyntaf yn llwyddiannus. Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru yn parhau i wella gwybodaeth ddigidol ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau a gweithwyr iechyd proffesiynol.


Gan weithio ar draws ffiniau sefydliadol a chydag ymrwymiad a chymorth rhanddeiliaid, darparwyr gwasanaethau gan gynnwys pob bwrdd iechyd yng Nghymru, mae Sgrinio Cyn Geni Cymru wedi parhau i sicrhau cysondeb a sefydlogrwydd y rhaglen sgrinio cyn geni yn aml mewn amgylchedd heriol lle ceir llawer o flaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd.

 

Adroddiad llawn