Neidio i'r prif gynnwy

Fentricwlomegali (ventriculomegaly)

Mae'r wybodaeth hon ar eich cyfer chi os yw sgan anomaledd y ffetws yn dangos bod gan y babi fentricwlomegali (ventriculomegaly)

Mae'r wybodaeth yn berthnasol os mai fentricwlomegali yw'r unig ganfyddiad annisgwyl ar y sgan.

 

Cynnwys

― Fentricwlomegali
Beth yw fentricwlomegali?
― Beth fydd yn digwydd nesaf?
― Pa brofion fydd yn cael eu cynnig i mi?
― Mwy o wybodaeth

 

Mae pob menyw yng Nghymru yn cael cynnig sgan anomaledd y ffetws pan fydd rhwng 18 ac 20 wythnos yn feichiog. Mae’r sgan yn ffordd o wirio ei bod yn ymddangos bod eich babi'n datblygu yn ôl y disgwyl. Mae hyn yn golygu y gall ddangos canfyddiadau annisgwyl y byddai angen eu gwirio wedyn gan brofion eraill. 

Fentricwlomegali

Canfyddir fentricwlomegali mewn tuag 1 o bob 1,000 (0.1%) beichiogrwydd yng Nghymru.

Beth yw fentricwlomegali?

Fentriglau yw’r mannau gwag arferol yn ymennydd y babi sydd wedi’u llenwi â hylif (hylif serebroffinol neu CSF) ac sy’n ymddwyn fel ‘clustog’ i’r ymennydd ac sydd hefyd yn darparu maetholion i’r ymennydd.

Mae’r fentriglau fel arfer yn llai na 10.1 milimetr (mm) o led. Pan fyddant yn mesur rhwng 10.1mm a 15.0mm, mae hyn yn cael ei alw’n fentricwlomegali. Gall hyn gael ei achosi gan ormod o hylif yn cael ei gynhyrchu yn yr ymennydd. Pan fydd y fentriglau yn mesur mwy na 15.0mm ar y sgan anomaledd, mae hyn yn cael ei alw’n hydroceffalws.

Yng Nghymru, os mai fentricwlomegali yw’r unig beth y mae’r sgan 18 i 20 wythnos yn ei ganfod, caiff tua 5 o bob 10 babi (50%) ei eni heb unrhyw broblemau eraill.

O'r 5 arall mewn 10: Ar gyfartaledd, bydd gan 4 o bob 10 babi (40%) sy’n dioddef o fentricwlomegali annormaledd ar yr ymennydd a all oedi ei ddatblygiad. Bydd gan tuag 1 o bob 10 beichiogrwydd (10%) lle mae achos o fentricwlomegali annormaleddau cromosomaidd.

Yn gyffredinol, mae’r canlyniadau’n waeth pan fydd y fentriglau’n fwy, os bydd anomaleddau eraill i’w gweld ar y sgan, ac os bydd gan y babi annormaleddau cromosomaidd.

Weithiau, mae heintiau fel sytomegalofeirws (CMV), tocsoplasmosis a rwbela (brech goch yr Almaen) yn gysylltiedig â fentricwlomegali. Roedd pedwar achos o CMV a gofnodwyd yng Nghymru rhwng 2011 a 2018 a oedd yn gysylltiedig â fentricwlomegali, un achos o tocsoplasmosis ac ni wyddys am unrhyw achos o frech goch yr Almaen.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwch yn cael eich gweld gan fydwraig sy’n arbenigo mewn sgrinio cyn-geni neu eich meddyg yn yr ysbyty (obstetregydd) a fydd yn esbonio’r gofal y byddwch yn cael ei gynnig nesaf.

Cewch gynnig apwyntiad gyda meddyg ymgynghorol mewn meddygaeth y ffetws oherwydd y canfyddiadau hyn. Efallai y bydd yr apwyntiad hwn yn yr ysbyty ble y byddwch yn cael eich babi neu yn rhywle arall.

Yn yr apwyntiad hwn bydd y fydwraig a’r meddyg yn esbonio mwy am y cyflyrau ac am y profion y gallwch eu cael a sut y byddan nhw’n cael eu cynnal. Bydd rhai menywod yn penderfynu peidio â chael y profion hyn. Bydd y fydwraig a’r meddyg yn eich cefnogi beth bynnag fydd eich dewis. Efallai y bydd gennych gwestiynau i’r fydwraig neu’r meddyg ac efallai yr hoffech gael apwyntiad arall. Efallai y byddwch am i’ch partner neu ffrind ddod gyda chi, ac efallai yr hoffech gael mwy o amser i feddwl cyn penderfynu beth i’w wneud nesaf.

Efallai yr hoffech ystyried beth i’w wneud os bydd canlyniad y prawf yn dangos bod gan eich babi un o’r cyflyrau. Bydd rhai menywod am baratoi eu hunain ar gyfer yr enedigaeth drwy gael gwybod beth yw’r broblem. Efallai y bydd menywod eraill yn penderfynu terfynu’r beichiogrwydd os disgwylir canlyniad gwael.

Pa brofion fydd yn cael eu cynnig i mi?

  • Prawf Gwaed

Byddwch yn cael cynnig prawf gwaed i ganfod a ydych wedi cael CMV, tocsoplasmosis neu rwbela (brech goch yr Almaen) yn ddiweddar. Os bydd y prawf gwaed yn dangos eich bod wedi cael un o’r heintiau hyn, mae posibilrwydd bach y bydd yr haint yn cael ei drosglwyddo i’r brych ac yn heintio eich babi. Os caiff eich babi ei heintio ag unrhyw un o’r uchod gall achosi problemau fel pwysau geni isel, clefyd melyn, colli clyw, colli golwg ac annormaleddau’r galon.

  • Amniosentesis

Byddwch yn cael cynnig amniosentesis os hoffech gael gwybod cyn geni eich babi ai annormaleddau cromosomaidd yw achos y fentricwlomegali.

Mae amniosentesis yn ddull cywir iawn o gael gwybod a oes gan eich babi un o’r cyflyrau hyn ai peidio.

Os byddwch yn cael amniosentesis, mae posibilrwydd o 0.5% y gallech gam-esgor (mae hyn yn golygu y gall un o bob 200 menyw golli ei babi o ganlyniad i amniosentesis). Gellir colli babi sydd wedi’i effeithio neu heb ei effeithio gan y cyflyrau.

Os bydd eich prawf gwaed yn dangos eich bod wedi cael haint yn ddiweddar bydd yr amniosentesis hefyd yn rhoi gwybod i chi a yw eich babi wedi’i heintio â CMV, tocsoplasmosis neu rwbela (brech goch yr Almaen).

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am amniosentesis yn llyfryn Sgrinio Cyn-geni Cymru ‘Mae’r wybodaeth hon i chi os ydych wedi cael cynnig mwy o brofion ar gyfer cyflyrau cromosaidd posibl’

  • Sgan MRI o ymennydd eich babi

Byddwch yn cael cynnig sgan MRI o ymennydd eich babi. Bydd hyn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am ddatblygiad ymennydd eich babi.

Mwy o wybodaeth

Gallwch gael mwy o wybodaeth gan fydwraig yr ysbyty sy’n arbenigo mewn sgrinio cyn-geni neu feddyg yr ysbyty (obstetregydd).

Antenatal Results and Choices (ARC)

Llinell gymorth: 0845 077 2290 neu  0207 713 7486 o ffôn symudol

E-bost: info@arc-uk.org

Gwefan:www.arc-uk.org

CMV Action

Ffôn: 0808 802 0030

E-bost: info@cmvaction.org.uk

Gwefan: cmvaction.org.uk

Sense

Ffôn:0300 330 9250

E-bost: info@sense.org.uk

Gwefan: www.sense.org.uk