Eich dewis chi yw cael profion sgrinio cyn geni ar gyfer cyflyrau cromosomaidd fel syndrom Down (a elwir hefyd yn drisomedd 21 neu T21), syndrom Edwards (a elwir hefyd yn drisomedd 18 neu T18) a syndrom Patau (a elwir hefyd yn drisomedd 13 neu T13). Gall prawf sgrinio roi gwybodaeth i chi a allai eich helpu i baratoi ar gyfer baban â chyflwr penodol a gwneud yn siŵr eich bod yn cael y gofal cywir yn ystod eich beichiogrwydd, wrth i chi roi genedigaeth ac yn syth ar ei hôl. Fel prawf sgrinio cychwynnol, mae NIPT yn fwy cywir na'r profion cyfunol neu bedwarplyg (gweler Profion Sgrinio isod). Rydym yn deall y gall mynd trwy brawf sgrinio cyn geni ar ôl cael diagnosis blaenorol fod yn gyfnod pryderus i chi. Mae sefydliadau cymorth ar gael i ferched beichiog a’u teuluoedd. Gallwch ddod o hyd i fanylion yn icc.gig.cymru/cyngenidolennidefnyddiol
Os byddwch wedi cael baban â syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau cyn hyn, rydym yn deall y gallai fod angen gwybodaeth wahanol arnoch ar gyfer eich beichiogrwydd presennol. Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn amlinellu'r opsiynau sgrinio a’r profion mewnwthiol sydd ar gael i chi.
Mae’n bosibl eich bod wedi cael gwybodaeth am y cyflyrau hyn yn ystod beichiogrwydd blaenorol. Neu efallai eich bod wedi colli baban gyda syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau, neu fod gennych blentyn neu aelod o'r teulu sy’n byw gydag un o’r syndromau hyn. Mae'n bwysig bod gennych wybodaeth gywir am bob un o'r tri chyflwr hyn wrth i chi wneud dewisiadau am brofion sgrinio neu brofion mewnwthiol yn ystod eich beichiogrwydd.
Bydd eich bydwraig neu gynghorydd genetig yn eich cefnogi gyda’r hyn y byddwch yn ei benderfynu.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am syndrom Down a byw gyda syndrom Down yn:
Adran 2 - Beth yw syndrom Down a byw gyda syndrom Down? - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gallwch wylio straeon gan deuluoedd sy’n byw gyda syndrom Down yn www.downs-syndrome.org.uk/about-downs-syndrome/pregnancy-and-baby/new-parent-stories
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am syndrom Edwards a syndrom Patau a byw gyda'r cyflyrau hyn yn:
Adran 3 – Beth yw syndrom Edwards a byw gyda syndrom Edwards? - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Adran 4 – Beth yw syndrom Patau a byw gyda syndrom Patau? - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gallwch wylio straeon teuluoedd sy’n byw gyda syndrom Edwards a syndrom Patau yn www.soft.org.uk/living-with-trisomy
Bydd pob merch feichiog a fydd yn ymweld â'i bydwraig yn gynnar yn ystod ei beichiogrwydd yn cael cynnig dewis profion sgrinio i ddarganfod pa mor debygol y bydd ei phlentyn o gael syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y profion sgrinio, syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau, a phrofion sgrinio eraill a gynigir i chi yn ystod beichiogrwydd, yn: Profion Sgrinio Cyn Geni - Gwybodaeth am y profion sgrinio a gynigir i chi yn ystod eich beichiogrwydd
Gall eich bydwraig roi'r wybodaeth hon i chi hefyd.
Mae penderfynu pa brofion y byddwch yn eu cael yn ystod eich beichiogrwydd yn ddewis personol a bydd eich bydwraig yn eich cefnogi ni waeth pa ddewis a wnewch. Efallai y byddwch am ddod â rhywun gyda chi i'ch cefnogi yn ystod y profion a phan fyddwch yn cael eich canlyniadau.
1. Dim prawf: Os byddwch yn penderfynu peidio â chael yr un o’r profion hyn, byddwch yn dal i gael cynnig pob rhan arall o'ch gofal cyn geni arferol. Bydd eich bydwraig yn esbonio’r hyn y bydd hyn yn ei olygu i chi.
2. Profi cynenedigol heb lawdriniaeth (NIPT): Mae NIPT yn brawf sgrinio sy'n fwy cywir na'r prawf cyfunol neu’r prawf pedwarplyg. Gellir ei wneud o 10fed wythnos y beichiogrwydd. Bydd eich bydwraig neu gynghorydd genetig yn trafod hyn yn fanylach gyda chi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:
Adran 8 – Beth yw prawf cyn geni anfewnwthiol (NIPT)? - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Os na fyddwch yn cael canlyniad o’ch NIPT cyntaf, byddwch yn cael cynnig NIPT pellach neu brawf mewnwthiol (gweler isod) i roi canlyniad i chi. Ni fydd tua 0.3% (1 mewn 300) o’r profion a wneir yn rhoi canlyniad i chi. Bydd hyn fel arfer yn digwydd os nad oes digon o gelloedd y babi yn eich gwaed. Bydd eich bydwraig yn gallu siarad â chi am hyn.
3. Profion mewnwthiol: Mae profion mewnwthiol yn cynnwys cymryd sampl o'r brych (a elwir yn samplu filws corionig neu CVS) neu hylif amniotig (triniaeth a elwir yn amniosentesis). Mae’r tebygolrwydd y bydd unigolyn yn camesgor o’r naill brawf neu’r llall tua 0.5% (1 mewn 200). Fel arfer, bydd angen aros dau neu dri diwrnod i gael canlyniad a all ddweud wrthych a oes syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau ar eich babi.
Bydd eich bydwraig yn trafod y profion hyn gyda chi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:
Adran 9 – Beth yw samplu filws corionig (CVS)? - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Adran 10 – Beth yw amniosentesis? - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gelwir y prawf a wneir ar eich sampl CVS neu’ch amniosentesis yn brawf meintiol adwaith cadwynol fflworoleuedd-polymesarau (QF-PCR). Gallwch ddysgu mwy am y prawf hwn yn:
Gwybodaeth gyffredinol yw hon ac efallai na fydd yr opsiynau profi hyn yn addas ar gyfer pob rhiant sydd wedi cael beichiogrwydd blaenorol â syndrom Down, syndrom Edwards neu syndrom Patau. Dylech bob tro drafod yr opsiynau sydd ar gael i chi gyda'ch bydwraig neu'ch cynghorydd genetig.