Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wybodaeth hon ar eich cyfer chi os ydych yn feichiog ac yn cael prawf positif ar gyfer HIV

 


 

Cynnwys

― Beth mae canlyniad eich prawf gwaed yn ei olygu
Beth yw HIV?
― Sut ydw i'n HIV positif?
― Monitro’r haint HIV
― Triniaeth i chi
― Beth allaf ei wneud i ddiogelu fy mabi yn erbyn HIV?
― Profion a thriniaeth HIV i’ch babi
― Pwy sydd angen gwybod bod gen i HIV?
― Ble gallaf i gael mwy o wybodaeth?

 

 Mae'r wybodaeth hon am:

  • fod yn HIV-positif yn ystod eich beichiogrwydd ac ar ôl i chi gael eich babi;
  • ffyrdd o leihau’r risg o drosglwyddo HIV i’ch babi; a
  • y monitro a’r driniaeth sydd ar gael i chi.

 

Beth mae canlyniad eich prawf gwaed yn ei olygu

Mae’ch canlyniad HIV-positif yn golygu eich bod chi ar ryw adeg wedi cael y feirws HIV (hynny yw, cafodd y feirws ei drosglwyddo i chi).

 

Beth yw HIV?

Mae HIV yn feirws sy'n ymosod ar y system imiwnedd (system amddiffyn y corff). Heb driniaeth, dros amser (fel arfer llawer o flynyddoedd), mae'r system imiwnedd yn mynd yn wannach, sy'n golygu bod y corff yn methu amddiffyn ei hun cystal yn erbyn salwch difrifol.

Mae triniaeth effeithiol iawn ar gael sy’n golygu y gallwch chi ddisgwyl byw mor hir ag unrhyw un arall.

Mae gwybod bod gennych yr haint yn golygu y gallwch gael eich monitro a'ch cefnogi gan dîm arbenigol a chael triniaeth pan fydd ei hangen arnoch. Mae hyn yn gallu gwella’ch iechyd. 

Heb driniaeth mae mam yn gallu trosglwyddo HIV i'w phlentyn. Gall hyn ddigwydd yn ystod beichiogrwydd, wrth roi genedigaeth neu wrth fwydo ar y fron.

Drwy wybod eich bod yn HIV-positif a thrwy gymryd y camau a restrir yn y ddogfen hon, mae'r siawns o HIV yn trosglwyddo i'ch babi yn llai na 0.3% (un mewn 300)

 

Sut ydw i'n HIV positif?

Gellir trosglwyddo HIV yn y ffyrdd canlynol:

  • Gall mam sydd â HIV drosglwyddo’r haint i’w babi yn ystod y beichiogrwydd neu wrth roi genedigaeth, neu wrth fwydo ar y fron. Os oes plant eraill gennych, bydd eich arbenigwr HIV yn siarad â chi ynghylch a ddylid cynnig profion iddynt.
  • Cael rhyw heb gondom (rhyw heb gondom allanol wedi'i wisgo ar y pidyn neu gondom mewnol wedi'i wisgo yn y wain) gyda rhywun sydd â HIV.
  • Cael trallwysiad gwaed neu gynnyrch gwaed sy’n cynnwys HIV. Yn y Deyrnas Unedig, mae profion HIV wedi bod yn cael eu gwneud ar waed a chynnyrch gwaed ers 1985. Mae’n bosibl nad yw gwledydd eraill y byd yn gwneud yr un profion.
  • Rhannu nodwyddau neu offer chwistrellu cyffuriau â rhywun sydd â HIV.
  • Defnyddio nodwyddau brwnt wrth wneud tyllau neu datŵs ar y corff, neu am resymau meddygol y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
  • Cael eich crafu gan nodwyddau sydd wedi cael eu defnyddio ac eitemau miniog eraill a allai fod â gwaed arnynt (a elwir weithiau yn ‘anaf nodwydd’).

Nid yw HIV yn cael ei drosglwyddo i bobl eraill drwy gysylltiadau cymdeithasol arferol fel mynd i siopa, bod yng nghwmni eich ffrindiau a’ch teulu, bwyta prydau bwyd gyda’ch gilydd neu gusanu.

 

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Byddwch yn cael cynnig apwyntiad mewn clinig arbenigol i gael archwiliad llawn o’ch iechyd ac asesiad (neu adolygiad) o’r cam yn eich haint HIV rydych chi wedi’i gyrraedd. Bydd yr arbenigwr yn dal i’ch gweld yn rheolaidd, yn ystod eich beichiogrwydd ac ar ôl i’ch babi gael ei eni.

Bydd eich bydwraig yn eich helpu hefyd i gynllunio’ch gofal, a bydd yn trafod eich dewisiadau gyda chi.

 

Monitro’r haint HIV

Mae nifer o brofion gwaed yn cael eu defnyddio i wirio’r haint HIV. Y ddau brawf yw:

  • cyfri CD4 – mesur o'ch system imiwnedd; a
  • llwyth firaol – lefel yr HIV yn eich gwaed.

 

Triniaeth i chi

Argymhellir triniaeth i chi yn ystod eich beichiogrwydd a phan fyddwch yn rhoi genedigaeth. Mae hyn er mwyn:

  • helpu i’ch cadw mor iach â phosibl; a
  • helpu i atal yr haint rhag cael ei drosglwyddo i'r babi yn ystod beichiogrwydd a'r enedigaeth.

Mae triniaeth HIV yn atal y feirws rhag tyfu felly mae'n lleihau'r swm yn eich llif gwaed (y llwyth firaol).  Gyda thriniaeth, gall pobl sy'n byw gyda HIV fyw mor hir ag unrhyw un arall. Maent hefyd yn osgoi trosglwyddo'r feirws i unrhyw un arall.

Byddwch yn cael cynnig triniaeth yn ystod eich beichiogrwydd. Argymhellir eich bod yn parhau â'r driniaeth hon ar ôl i'ch babi gael ei eni.

Os ydych yn poeni, mae’n bwysig eich bod yn trafod eich pryderon gyda’r tîm arbenigol HIV. Cofiwch fod help a chefnogaeth ar gael i chi bob amser.

 

Beth allaf ei wneud i ddiogelu fy mabi yn erbyn HIV?

Heb gymryd camau, bydd gan tua 25% i 40% o fabanod (25 i 40 mewn 100) sy'n cael eu geni i fam sydd â HIV yr haint.

Drwy wneud y pethau sy'n cael eu rhestru isod, mae’r siawns y bydd gan eich babi HIV yn llai nag un mewn 300.

1. Triniaeth â chyffuriau yn ystod y beichiogrwydd a’r enedigaeth

Argymhellir triniaeth i chi yn ystod eich beichiogrwydd a phan fyddwch yn rhoi genedigaeth.

2. Rhoi genedigaeth

Os yw eich HIV yn cael ei reoli'n dda ac os oes gennych feichiogrwydd syml, ni fydd HIV yn effeithio ar eich dewisiadau o ran rhoi genedigaeth.

3. Bwydo’ch babi

Nid yw bwydo ar y fron yn cael ei argymell i fenywod sy'n HIV positif oherwydd gellir trosglwyddo HIV i'ch babi yn llaeth y fron. Cyn i'ch babi gael ei eni, bydd eich tîm arbenigol HIV yn siarad â chi am fwydo eich babi. 

Argymhellir darparu llaeth fformiwla am ddim i fenywod sy’n HIV positif yng Nghymru. Dylech roi llaeth fformiwla i’ch babi hyd nes y bydd tua 12 mis oed.

4.Triniaeth i’ch babi

Gall eich babi gael meddyginiaeth gwrth-HIV ar bresgripsiwn hyd at y pedair wythnos gyntaf ar ôl y geni. Bydd y feddyginiaeth hon yn helpu i amddiffyn eich babi yn erbyn haint HIV. Mae’n bosibl y bydd gwrthfiotigau’n cael eu cynnig ar bresgripsiwn hefyd.

 

Profion a thriniaeth HIV i’ch babi

Bydd eich babi fel arfer yn cael cyfle i gael apwyntiad mewn clinig paediatreg (clinig plant) sydd â sgiliau arbennig wrth reoli HIV. Bydd y nyrs neu'r meddyg arbenigol yn trafod y profion a’r driniaeth sydd ar gael i’ch babi gyda chi.

Os yw canlyniadau'r profion gwaed a gafodd eich babi yn fuan ar ôl geni, yn chwe wythnos oed ac yn 12 wythnos oed yn negyddol ac nid ydych yn bwydo ar y fron, ni ddylai fod gan eich babi HIV. Os yw eich babi yn dal i gael canlyniad prawf negyddol pan fydd yn 18 mis oed, mae'n sicr nad oes ganddo HIV. Mae hyn oherwydd y gall eich babi gario'ch gwrthgyrff HIV nes ei fod yr oedran hwn. Nid yw’r prawf HIV yn gallu dweud y gwahaniaeth rhwng eich gwrthgyrff chi (a gafodd eu trosglwyddo i’r babi cyn y geni) a’r gwrthgyrff y mae’ch plentyn yn eu creu oherwydd bod ganddo haint HIV.

 

Pwy sydd angen gwybod bod gen i HIV?

Er mwyn i chi a’ch babi gael y gofal gorau, mae’n angenrheidiol eich bod chi’n cael gofal gan nifer o arbenigwyr–er enghraifft, tîm y clinig HIV, obstetregydd (meddyg yn yr ysbyty) a phaediatregydd (meddyg babanod a phlant).

Bydd eich meddyg teulu’n gwybod am y problemau iechyd eraill sydd gennych efallai, ac am y meddyginiaethau rydych yn eu cymryd. Os yw’r meddyg yn gwybod am eich haint HIV, bydd yn ei helpu i rwystro unrhyw ryngweithio rhwng eich meddyginiaeth HIV ac unrhyw gyffuriau eraill y gallant eu rhoi i chi ar bresgripsiwn.

Ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu ag unrhyw un arall heb eich caniatâd.

Efallai y byddwch am ofyn i'ch arbenigwr HIV am sut i esbonio eich canlyniadau profion positif i'ch partner. Os nad yw’ch partner yn gwybod a oes ganddo HIV, dylech ddefnyddio condomau er mwyn osgoi trosglwyddo’r feirws i’ch partner. Dylai’ch partner ystyried mynd i gael prawf HIV.

 

Ble gallaf i gael mwy o wybodaeth?

  • Oddi wrth fydwraig yr ysbyty sy’n arbenigo ar sgrinio cyn-geni, neu gan y meddyg yn yr ysbyty (yr obstetregydd).
  • O glinig iechyd rhywiol agosaf y GIG – gallwch chi ffonio’ch ysbyty lleol a gofyn am y clinig iechyd rhywiol;
  •  Efallai y byddwch am siarad â menywod eraill sydd â HIV. Gall Ymddiriedolaeth Terrence Higgins helpu i drefnu hynny.

Ymddiriedolaeth Terrence Higgins

Ffôn: 0845 12 21 200 (llinell gymorth genedlaethol)

Gwefan: www.tht.org.uk

Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru

Ffôn: 02920 666 465

E-Bost: cymru-wales@tht.org.uk

Llinell Gymorth Iechyd Rhywiol Genedlaethol

Radffôn: 0300 1237123

Mae'r llinell gymorth Iechyd Rhywiol ar agor o 9am i 8pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Positively UK

Ffôn: 020 7713 0222 (10am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener)

E-bost: info@positivelywomen.org.uk

Gwefan: www.positivelyuk.org

AVERT

Ffôn: 01403 210202

E-bost: info@avert.org

Gwefan: www.avert.org