Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth os ydych yn feichiog a grŵp gwaed D negatif

Mae'r wybodaeth hon i chi os ydych yn feichiog ac wedi cael prawf gwaed sy'n dangos eich bod yn D negatif. Byddwch yn cael cynnig sgrinio ar gyfer DNA di-gell y ffetws sy'n gallu rhagweld grŵp gwaed D eich babi. Bydd gwybod grŵp gwaed eich babi yn ffurfio rhan o'ch gofal neu driniaeth a argymhellir i chi a'ch babi.
 

 

Mae'r wybodaeth hon am:

― Ystyr canlyniadau eich prawf gwaed
Pam ei bod yn bwysig gwybod eich bod yn D negatif?
― Ynglŷn â'ch gwaed
― Ynglŷn â'ch prawf DNA di-gell y ffetws (cffDNA)
― Beth fydd y prawf DNA di-gell y ffetws yn ei ddweud wrthyf?
― Beth os canfyddir bod fy mabi yn D positif?
― Beth yw pigiadau gwrth-D?
― Sut y mae gwrth-D yn gweithio?
― A yw gwrth-D yn ddiogel?
― Rhesymau eraill pam y gallai fod angen pigiad(au) gwrth-D arnaf
― Beth os canfyddir bod fy mabi yn D negatif ar y prawf DNA di-gell y ffetws?
― Pa mor gywir yw'r prawf cffDNA?
― A ddylwn gael y prawf sgrinio DNA di-gell y ffetws?
― Beth os nad yw'r canlyniadau'n glir?
― Beth os ydw i'n feichiog gyda mwy nag un babi?
― Beth fydd yn digwydd pan fydd fy mabi'n cael ei eni?
― Beth sy'n digwydd os oes gan fy mabi grŵp gwaed gwahanol i'r hyn a ragwelwyd?
― Beth os byddaf yn mynd i ysbyty gwahanol?
― Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth?
 

Ystyr canlyniadau eich prawf gwaed

Bydd eich grŵp gwaed (math o waed) yn un o'r pedwar prif grŵp canlynol:

  • Grŵp O
  • Grŵp A
  • Grŵp B
  • Grŵp AB

Yn eich grŵp gwaed, byddwch naill ai'n D positif neu'n D negatif. Mae eich prawf gwaed yn dangos eich bod yn D negatif.

Pam ei bod yn bwysig gwybod eich bod yn D negatif?

KMae gwybod eich bod yn D negatif yn golygu y gallwn gynnig prawf sgrinio pellach i ddarganfod statws D eich babi. Os canfyddir bod eich babi yn D positif a bod ei waed yn mynd i mewn i'ch llif gwaed, efallai y bydd eich corff yn creu gwrthgyrff. Gallai'r gwrthgyrff wneud eich babi'n sâl.

Ynglŷn â'ch gwaed

Mae eich gwaed yn cynnwys:

  • Celloedd coch y gwaed
  • Celloedd gwyn y gwaed
  • Platennau.

Mae gan gelloedd coch y gwaed antigen o'r enw antigen D. Mae antigenau yn foleciwlau protein a geir ar wyneb celloedd coch y gwaed. Os yw hwn yn bresennol, gelwir eich grŵp gwaed yn D positif. Os nad yw'n bresennol, gelwir eich grŵp gwaed yn D negatif. Mae tua 15% (15 mewn 100) o bobl yn D negatif.


Os yw eich grŵp gwaed yn D negatif a grŵp gwaed eich babi yn D positif efallai y byddwch yn datblygu gwrthgyrff gwrth-D. Mae gwrthgyrff yn rhan o amddiffyniad naturiol eich corff ac maent yn ymladd yn erbyn unrhyw beth y mae'r corff yn credu sy'n estron. Gallant basio o'ch llif gwaed i mewn i waed eich babi a niweidio gwaed eich babi sy'n gallu gwneud eich babi'n sâl ac angen triniaeth arno yn yr ysbyty. Cael gwrthgyrff gwrth-D yw achos mwyaf cyffredin Clefyd Haemolytig y Ffetws a'r Babi Newydd-anedig. Mae hwn yn gyflwr prin. 


Os byddwch yn dewis cael prawf sgrinio cffDNA, bydd eich sampl gwaed yn cael ei storio yn ystod eich beichiogrwydd ac efallai’n cael ei ddefnyddio i wirio'r canlyniad ar ôl genedigaeth eich babi. Gellir ei ddefnyddio hefyd at ddibenion sicrhau ansawdd.

Ynglŷn â'ch prawf DNA di-gell y ffetws (cffDNA)

Gan eich bod yn D negatif, byddwch yn cael cynnig prawf gwaed sgrinio pellach o'r enw DNA di-gell y ffetws. Bydd y prawf hwn yn edrych ar symiau bach o DNA eich babi yn eich gwaed. DNA yw'r wybodaeth genetig y tu mewn i gelloedd y corff. Os canfyddir bod eich babi'n D positif, byddwch yn cael cynnig pigiadau imiwnoglobwlin gwrth-D. Cyfeirir at hyn fel gwrth-D yn y wybodaeth hon. Bydd hyn yn lleihau'r siawns y bydd clefyd haemolytig y ffetws a'r babi newydd-anedig yn digwydd.

Beth fydd y prawf DNA di-gell y ffetws yn ei ddweud wrthyf?

Bydd eich prawf yn dweud wrthych un o'r canlynol:

  • Mae eich babi yn D positif, a byddwch yn cael cynnig pigiadau gwrth-D (O'r enw gwrth-D yn y wybodaeth hon) neu,
  • Mae eich babi yn D negatif. Ni fydd pigiadau gwrth-D yn cael eu hargymell neu,
  • Mae canlyniad y prawf yn aneglur. Yn yr achos hwn, byddwch yn cael cynnig pigiadau gwrth-D.

Bydd eich bydwraig yn trafod pryd y cewch gynnig y prawf, a phryd y cewch eich canlyniadau.

Beth os canfyddir bod fy mabi yn D positif?

You will have an appointment with your midwife at around the 28th week of pregnancy. At this appointment, you will have a blood test to check for antibodies and will be offered an anti-D injection. Anti-D will help to stop antibodies being made if any of your baby’s blood has entered your bloodstream, and this will reduce the risk of haemolytic disease of the fetus and newborn.

Beth yw pigiadau gwrth-D?

Mae pigiadau gwrth-D wedi'u gwneud o blasma, sef rhan hylif y gwaed sy'n cludo ocsigen a chelloedd coch o amgylch eich corff. Mae'r plasma a ddefnyddir i wneud gwrth-D yn cael ei gasglu gan roddwyr gwaed. Nid yw pigiadau gwrth-D yn cynnig amddiffyniad gydol oes i chi. Efallai y bydd angen i chi gael cynnig pigiadau gwrth-D mewn beichiogrwydd yn y dyfodol.

Sut y mae gwrth-D yn gweithio?

Mae gwrth-D yn gweithio drwy ddileu unrhyw rai o gelloedd gwaed eich babi a allai fod wedi mynd i mewn i'ch gwaed. Mae hyn yn atal eich corff rhag creu ei wrthgyrff gwrth-D ei hun.

A yw gwrth-D yn ddiogel?

Ydy. Gall pigiadau gwrth-D achosi rhywfaint o boen ysgafn pan gaiff ei chwistrellu i'r cyhyr. Weithiau gall pigiadau gwrth-D achosi adweithiau alergaidd. Mae sut y mae'n cael ei gynhyrchu'n cael ei reoli'n llym, felly mae'r risg o feirws hysbys yn cael ei drosglwyddo i chi o roddwr yn isel iawn.

Rhesymau eraill pam y gallai fod angen pigiad(au) gwrth-D arnaf

Bydd angen i chi gysylltu â'ch bydwraig neu'ch meddyg ysbyty (obstetregydd) cyn gynted â phosibl os oes gennych waedlif neu os ydych yn dioddef anaf i'ch abdomen fel anaf o wregys diogelwch neu gwymp. Efallai y bydd angen i chi gael cynnig pigiad gwrth-D oherwydd bod siawns y gallai celloedd coch y gwaed eich babi fynd i mewn i'ch llif gwaed.

Beth os canfyddir bod fy mabi yn D negatif ar y prawf DNA di-gell y ffetws?

Byddai hyn yn nodi bod gan y babi yr un grŵp D â chi, ac ni fyddai pigiadau gwrth-D yn cael eu hargymell.

Pa mor gywir yw'r prawf cffDNA?

Mae'r prawf yn 99.9% (999 mewn 1000) yn gywir o ran rhagweld grŵp D y babi.

A ddylwn gael y prawf sgrinio DNA di-gell y ffetws?

Eich dewis chi yw cymryd rhan mewn sgrinio. Os byddwch yn dewis peidio â chael y prawf sgrinio DNA di-gell y ffetws, rydym yn argymell eich bod yn cael pigiadau gwrth-D oherwydd bydd 60% (60 mewn 100) o fabanod yn D positif. I'ch helpu i ddeall y wybodaeth hon, siaradwch â'ch bydwraig neu feddyg yr ysbyty (obstetregydd) sy’n gyfrifol am eich gofal.

Beth os nad yw'r canlyniadau'n glir?

Weithiau ni all y prawf nodi grŵp D eich babi. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn cynnig y pigiadau gwrth-D i chi er mwyn bod yn ddiogel. Bydd hyn yn lleihau'r siawns y bydd gwrthgyrff yn datblygu ac yn gwneud eich babi'n sâl.

Beth os ydw i'n feichiog gyda mwy nag un babi?

Gallwch gael y prawf os ydych yn feichiog gyda gefeilliaid. Mae'r prawf yr un mor gywir ag y mae ar gyfer menywod sy'n cael un babi. Os canfyddir bod un neu'r ddau o'ch babanod yn D positif, byddwch yn cael cynnig pigiadau gwrth-D. Os yw'r ddau fabi yn D negatif, yr un peth â chi, nid argymhellir pigiadau gwrth-D. Os ydych yn feichiog gyda mwy na dau fabi, hynny yw tripledi neu fwy, ni fyddwch yn cael cynnig y prawf ac rydym yn argymell eich bod yn cael pigiadau gwrth-D gan na fyddwn yn gallu dweud beth yw grŵp D y babanod.

Beth fydd yn digwydd pan fydd fy mabi'n cael ei eni?

Pan fydd eich babi'n cael ei eni, bydd y fydwraig yn cymryd prawf gwaed gennych chi a bydd yn cymryd rhywfaint o waed o'r llinyn bogail. Bydd hyn yn cadarnhau a yw grŵp gwaed eich babi yn D positif neu'n D negatif.

Beth sy'n digwydd os oes gan fy mabi grŵp gwaed gwahanol i'r hyn a ragwelwyd?

Mewn 0.1% (1 mewn 1000) o achosion, bydd y prawf yn ystod beichiogrwydd yn rhagweld eich bod yn cael babi sy'n D negatif ond wrth brofi grŵp gwaed D eich babi pan gaiff ei eni, canfyddir bod eich babi yn D positif. Gall rhai menywod sy'n D negatif ac yn cael babi D positif ac nad ydynt wedi cael gwrth-D yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd fel amddiffyniad i atal gwrthgyrff rhag datblygu gael eu ‘sensiteiddio’ (cymysgu celloedd coch y gwaed eich babi â'ch gwaed chi gan greu gwrthgyrff gwrth-D). Os bydd hyn yn digwydd, byddwch yn cael cynnig gwrth-D ar ôl i'ch babi gael ei eni. Yn eich beichiogrwydd nesaf, os bydd gwrthgyrff yn bresennol yn eich gwaed, bydd eich beichiogrwydd yn cael ei fonitro'n agos ac efallai y bydd angen gofal arbenigol arnoch.

Beth os byddaf yn mynd i ysbyty gwahanol?

Efallai y bydd polisi ysbyty y tu allan i Gymru yn wahanol, efallai y byddwch yn cael cynnig pigiadau gwrth-D, hyd yn oed os yw eich babi yn D negatif. Dangoswch eich canlyniadau profion i staff yr ysbyty, a fydd wedi'u cofnodi yn eich Cofnod Mamolaeth Cymru Gyfan.

Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth?

https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/sgrinio/sgrinio-cyn-geni-cymru/

111.wales.nhs.uk/Rhesusdisease/