Ein nod yw anfon eich llythyr canlyniadau drwy'r post o fewn pythefnos ar ôl i chi gwblhau eich pecyn profi’r coluddyn.
Bydd eich meddyg yn cael copi o’ch canlyniadau hefyd.
Bydd y mwyafrif o unigolion (98 o bob 100) yn derbyn canlyniad na fydd angen profion pellach arnynt.
Os na chanfyddir gwaed yn eich sampl o bŵ, cewch eich gwahodd eto ymhen 2 flynedd nes i chi gyrraedd 74 oed.
Bydd nifer fach o unigolion (2 o bob 100) yn cael eu gwahodd i gael profion pellach gan fod gwaed wedi cael ei ganfod yn eu pŵ. Nid yw hyn yn golygu bod gennych ganser. Gall y canlyniad fod wedi'i achosi drwy waedu o bolypau (tyfiannau bach) neu gyflyrau eraill megis hemoroidau (y peils).
Os byddwn yn canfod gwaed yn eich pŵ, gofynnir i chi wneud apwyntiad dros y ffôn gyda Nyrs Sgrinio a fydd yn eich asesu ac yn trafod profion pellach. Os cewch wahoddiad am brofion pellach mae’n bwysig eich bod yn mynychu.
Ceir rhagor o wybodaeth am apwyntiadau asesu yn y daflen ‘Beth sy’n digwydd nesaf?’.
Bydd y Nyrs Sgrinio yn siarad â chi ynglŷn â chael profion pellach gan gynnwys colonosgopi. Gofynnir cwestiynau i chi i weld a fyddwch yn gallu cael colonosgopi. Bydd hyn yn cynnwys trafod:
Mae colonosgopi yn ffordd o edrych ar leinin eich coluddyn mawr, i weld a oes unrhyw glefyd. Mae tiwb gyda golau bach a chamera ar un pen yn cael ei roi yn eich pen-ôl, i edrych ar leinin eich coluddyn mawr. Gellir gweld y lluniau ar sgrin fel y gellir eu gwirio ar gyfer polypau, clefyd neu llid.
Mae'r prawf hwn yn caniatáu i samplau bach (biopsïau) o'ch coluddyn gael eu cymryd os oes angen.
Os canfyddir polypau gellir eu tynnu i'w hatal rhag datblygu'n ganser.
Bydd y Nyrs Sgrinio yn trafod eich canlyniadau ac unrhyw apwyntiadau pellach y gallai fod eu hangen arnoch.
Os cewch ddiagnosis o ganser y coluddyn, mae dod o hyd iddo'n gynnar yn rhoi'r cyfle gorau o gael triniaeth lwyddiannus. Byddwn yn trafod yr holl opsiynau triniaeth gyda chi er mwyn i chi wneud eich penderfyniad.
Am ragor o wybodaeth a chefnogaeth ewch i Bowel Cancer UK (Saesneg yn unig)
Os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch chi, neu rywun rydych chi'n ei gefnogi ar gyfer yr apwyntiad asesu, cysylltwch â ni i roi gwybod i ni os: