Neidio i'r prif gynnwy

Y Sgrin

Mae un neu ddau faban ym mhob 1000 yn cael eu geni â cholled clyw. Bydd y rhan fwyaf o'r babanod hyn yn cael eu geni i deuluoedd lle nad oes neb arall yn byw gyda cholled clyw. Mae canfod colled clyw yn gynnar yn bwysig i ddatblygiad eich baban. Mae hyn yn golygu y gallwch chi gael mwy o gymorth a gwybodaeth i'ch helpu chi a'ch baban.

Mae sgrinio clyw yn ein helpu i adnabod babanod a allai fod â cholled clyw. Mae profion sgrinio yn dangos i ni pa fabanod sydd angen mwy o brofion i benderfynu a oes ganddynt golled clyw. 

Nid yw sgrinio yn canfod pob achos o golled clyw nac yn atal anawsterau clyw yn y dyfodol.

Mae'r animeiddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y prawf sgrinio clyw a fydd yn cael ei gynnig i’ch baban ar ôl iddo gael ei eni.

 

Darganfod mwy