Neidio i'r prif gynnwy

Ymweliad eich babi â'r clinig clyw

Mae’r daflen hon i chi os bydd angen asesu clyw eich babi
 
Mae’n esbonio:
  • pam mae angen prawf clyw arall ar eich babi;
  • pa mor debygol yw hi bod colled clyw ar eich babi;
  • pryd a ble bydd y prawf yn cael ei wneud;
  • beth fydd yn digwydd ar ôl y prawf.

Cyhoeddedig Hydref 2020, Fersiwn 10.
 

Cynnwys

― Pam mae angen prawf clyw arall fy mabi?
Pa mor debygol yw hi bod colled clyw ar fy mabi?
― Pryd a ble bydd y prawf yn cael ei wneud?
― Sut mae’r prawf yn cael ei wneud?
― Beth sy’n digwydd ar ôl y prawf?
― Profion eraill sy’n cael eu defnyddio
― Defnyddio eich gwybodaeth
 

 


Pam mae angen prawf clyw arall fy mabi?

Nid oedd y profion sgrinio’n dangos ymateb clir o un o glustiau’ch babi, neu o’r ddwy glust. Nid yw hyn o anghenraid yn golygu bod colled clyw ar eich babi. Efallai bod hyn oherwydd:

  • bod y babi’n aflonydd;
  • bod hylif yn y clustiau ar ôl y geni;
  • bod gormod o sŵn o gwmpas y babi pan oedd y prawf yn cael ei wneud.

Gallwch ddewis a fydd eich babi’n cael y prawf yma neu beidio.

Pa mor debygol yw hi bod colled clyw ar fy mabi?

Mae un neu ddau o bob 1000 o fabanod yn cael eu geni â cholled clyw ar y ddwy glust. Mae’r rhan fwyaf o’r babanod yma’n cael eu geni i deuluoedd lle nad oes gan neb arall golled clyw. Mae ychydig yn llai o fabanod yn cael eu geni â cholled clyw mewn un glust. Efallai fod babi a oedd angen gofal arbennig yn fwy tebygol o fod â cholled ar ei glyw.

Drwy ddarganfod hyn yn gynnar byddwch chi a’ch babi’n cael cymorth a gwybodaeth o’r dechrau.

Mae’r bocs isod yn dangos y siawns bod colled clyw ar eich babi os oes angen asesiad clyw arno.

Mae hyn yn golygu y bydd colled clyw parhaol ar un babi o bob 10 sy’n cael prawf clyw diagnostig.

Pryd a ble bydd y prawf yn cael ei wneud?

Bydd y prawf yn cael ei wneud mewn clinig mewn ysbyty. Byddwn yn anfon apwyntiad at y rhan fwyaf o fabanod tua phedair wythnos ar ôl y prawf sgrinio. Bydd babanod a gaiff eu geni’n gynnar iawn yn cael y prawf ar ôl y dyddiad yr oedden nhw i fod i gael eu geni. Mae hyn yn rhoi cyfle i lwybr clywed eich babi ddatblygu.

Sut mae’r prawf yn cael ei wneud?

Awdiolegydd (arbenigwr clyw) fydd yn gwneud y prawf. Mae’n cael ei wneud pan mae’ch babi’n llonydd neu’n cysgu. Mae’r apwyntiad yn cymryd tua dwy awr fel arfer ac mae’n cynnwys cyfle i chi setlo’ch babi er mwyn iddo fynd i gysgu. Gallwch aros gyda’ch babi tra bydd y prawf yn cael ei wneud. Bydd tri o badiau bach gludiog yn cael eu rhoi ar ben eich babi. Bydd clustffonau (earphones) bach yn cael eu rhoi yn ei glustiau a fydd yn gwneud gwahanol synau. Mae cyfrifiadur yn dangos i’r awdiolegydd sut mae clustiau’ch babi’n ymateb i’r synau.

Efallai y bydd clustffon bach meddal yn cael ei roi yn rhan allanol clust eich babi. Bydd hyn yw dangos a oes hylif yng nghlust eich babi.

Beth sy’n digwydd ar ôl y prawf?

Os oes ymateb clir o’r ddwy glust, mae’n debyg nad oes colled clyw ar eich babi. Bydd yr awdiolegydd yn rhoi gwybodaeth i chi am y ffordd y mae babanod yn ymateb i sŵn wrth iddyn nhw dyfu. Bydd yn dweud wrthych beth i’w wneud os ydych yn poeni o gwbl am glyw eich babi.

Efallai na fydd y prawf yn rhoi ymateb clir o un o glustiau’ch babi, neu o’r ddwy glust. Bydd yr awdiolegydd yn esbonio ystyr hyn. Mae gwahanol fathau a gwahanol lefelau o golled clyw. Efallai y bydd angen gwneud rhagor o brofion cyn y byddwch yn gwybod am glyw eich babi. Bydd yr awdiolegydd yn cynllunio gyda chi pryd yw’r adeg orau i’ch babi gael mwy o brofion.

Profion eraill sy’n cael eu defnyddio

Gallai’r awdiolegydd ail-wneud y prawf cyntaf a gafodd eich babi. Efallai y bydd teclyn bach sy’n gwneud synau yn cael ei roi y tu ôl i glust eich babi. Mae’r prawf yma’n dangos i’r awdiolegydd sut mae clust fewnol eich babi’n ymateb i’r sŵn.

Ar ôl y prawf, bydd yr awdiolegydd yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Os oes colled clyw ar eich babi, byddwch yn cael cynnig cymorth a byddwch yn cael mwy o wybodaeth. 

Defnyddio eich gwybodaeth

Er mwyn i ni gysylltu â chi fel rhan o’r rhaglen, bydd angen i ni drin a thrafod gwybodaeth bersonol amdanoch chi a’ch babi. Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch chi am hyn, gallwch:

Rydym hefyd yn cadw manylion personol eich babi i wneud yn siŵr bod safon ein gwasanaeth mor uchel â phosibl. Mae hyn yn cynnwys edrych ar gofnodion eich babi os canfyddir bod colled clyw ar eich babi ar ôl iddo gael canlyniad normal mewn prawf sgrinio.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein gwefan Sgrinio Clyw Babanod Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu os hoffech wneud sylwadau neu awgrymiadau am raglen Sgrinio Clyw Babanod Cymru, anfonwch e-bost drwy ein gwefan neu ffoniwch ni ar un o’r rhifau ffôn sy’n dilyn.

Gogledd Cymru: 03000 848710

De-orllewin Cymru: 01792 343364

De-ddwyrain Cymru: 029 21843568

Gallwch hefyd gysylltu â’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar (NDCS). Mae Llinell Gymorth gan y Gymdeithas i rieni a theuluoedd sy’n chwilio am ragor o wybodaeth am brofion clyw ac am unrhyw fath o golled clyw sy’n effeithio ar blant.

Llinell gymorth rhadffôn NDCS: 0808 800 8880 Gwefan NDCS: www.ndcs.org.uk

Os oes gennych unrhyw bryderon, ysgrifennwch at:

Y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Sgrinio 4ydd Llawr, 2 Capital Quarter

Stryd Tyndall Caerdydd, CF10 4BZ

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg. Byddwn yn ateb yn Gymraeg heb oedi.