Neidio i'r prif gynnwy

Ymweliad eich babi â'r clinig awdioleg

 
Mae’r daflen hon i chi os oes angenprawf clyw arall ar eich babi.

 

Cynnwys

― Pam mae angen prawf clyw arall fy mabi?
Pa mor debygol ydyw bod gan fy mabi golled clyw?
― Ynglŷn â’r prawf
― Canlyniadau
― Rhagor o brofion 
― Rhagor o wybodaeth 
 


Pam mae angen prawf clyw arall fy mabi?

Nid oedd y prawf sgrinio clyw wedi dangos ymateb clir o un neu ddwy o glustiau eich babi. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu bod eich babi wedi colli ei glyw. Gall hyn fod oherwydd:

  • nid oedd eich babi wedi setlo;
  • hylif yn y glust (o’r enedigaeth);
  • roedd gormod o sŵn ger eich babi pan gafodd y   prawf ei wneud; neu
  • mae gan eich babi golled clyw.

Argymhellir yn gryf bod eich babi yn cael prawf clyw pellach. Gallwch ddewis p’un a yw eich babi yn cael y prawf hwn ai peidio.

Pa mor debygol ydyw bod gan fy mabi golled clyw?

Allan o 1,000 o fabanod sy'n cael eu geni, bydd gan 1 neu 2 golled clyw yn y ddwy glust.

Mae nifer bach yn cael eu geni â cholled clyw mewn un glust.

Bydd y rhan fwyaf o’r babanod hyn yn cael eu geni i deuluoedd lle nad oes unrhyw un arall wedi colli clyw.

Efallai y bydd babi yr oedd angen gofal arbennig arno yn fwy tebygol o golli clyw.

Am bob 10 babi sy’n cael prawf clyw awdioleg ar ôl sgrinio clyw babanod, bydd gan un golled clyw parhaol.

Mae cael gwybod am golled clyw yn gynnar yn bwysig ar gyfer datblygiad eich babi. Mae hyn yn golygu y gallwch gael rhagor o gymorth a gwybodaeth i’ch helpu chi a’ch babi.

 

Ynglŷn â’r prawf?

Bydd y prawf hwn yn cael ei wneud mewn clinig ysbyty.

Byddwch yn cael apwyntiad o fewn pedair wythnos i brawf sgrinio clyw diwethaf eich babi.

Os treuliodd eich babi amser yn yr uned gofal arbennig babanod (SCBU), bydd yr apwyntiad hwn yn cael ei anfon o fewn wyth wythnos.

Bydd babanod sy’n cael eu geni’n gynnar  yn cael eu prof ar ôl y dyddiad yr oeddent i fod i gael eu geni.

Bydd awdiolegydd (arbenigwr clyw) yn gwneud y prawf. Mae profion gahanol y gellir eu defnyddio. Ni fyddant yn brifo nac yn niweidio eich babi. Gall y prawf gymryd hyd at ddwy awr, sy’n cynnwys amser i setlo eich babi. Efallai y bydd angen mwy nag un apwyntiad. Gallwch aros gyda’ch babi tra bydd y prawf yn cael ei wneud.

Efallai y bydd yr awdiolegydd yn defnyddio prawf lle rhoddir teclyn clust â blaen meddal yn rhan allanol clust eich babi. Mae hyn yn gwneud sŵn clicio. Gelwir y prawf hwn yn Allyriad Otoacwstig Awtomataidd (AOE).

 

 

 

 

Efallai y byddant yn gwneud prawf lle rhoddir padiau gludiog bach ar ben eich babi a thu ôl i’r clustiau. Rhoddir clustfonau i mewn i glustiau eich babi neu dros ei glustiau, a fydd yn gwneud synau gwahanol. Gelwir y prawf hwn yn Ymateb Clywedol Coesyn yr Ymennydd (AABR).

Mae’r profion yn dangos i’r adiolegydd sut mae clustiau eich babi yn ymateb i’r sŵn.

 

Canlyniadau

Ymateb clir

Os bydd dwy glust eich babi’n dangos ymateb clir, mae hyn yn golygu ei bod yn annhebygol bod eich babi wedi colli clyw.

Bydd yr awdiolegydd yn rhoi gwybodaeth i chi am sut mae babanod yn ymateb i sŵn wrth iddynt dyfu. Byddant yn dweud wrthych beth i’w wneud os byddwch byth yn poeni am glyw eich babi.

Efallai na fydd y prawf yn dangos ymateb clir

Os na fydd un neu ddwy o glustiau eich babi yn dangos ymateb clir, bydd yr awdiolegydd yn esbonio beth mae hyn yn ei olygu.

Mae mathau a lefelau gwahanol o golled clyw. Efallai y bydd angen rhagor o brofion cyn i chi wybod am glyweich babi. Efallai y bydd y profion yn yn cael eu gwneud yn ystod eich apwyntiad cyntaf neu efallai y bydd angen apwyntiadau pellach. Bydd yr awdiolegydd yn cynllunio gyda chi’r amser gorau i’ch babi gael rhagor o brofion.

 

Rhagor o brofion 

Mae profion eaill y gall yr awdiolegydd eu gwneud i gael rhagor o wybodaeth am glustiau a chlyw eich babi. Mae un o’r rhain yn gwirio i weld a oes hylif yn y glust. Ar gyfer y prawf hwn, rhoddir teclyn clust â blaen meddal yn rhan allanol clust eich babi a chofnodir canlyniad ar beiriant.

 

 

 

Mae’r prawf arall yn gwirio sut mae clustiau mewnol eich babi yn ymateb i sŵn. I wneud y prawf hwn, byddai gwneuthurwr sŵn bach yn cael ei osod y tu ôl i glust (iau) eich babi.

Gall hwn fod yn gyfnod pryderus. Bydd yr awdiolegydd yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Os oes gan eich babi golled clyw, byddwch yn cael cynnig cymorth ac yn cael rhagor o wybodaeth.

 

Rhagor o wybodaeth

0s oes gennych unrhyw gwestiynau am sgrinio clyw babanod, neu os hofech wybodaeth ar furf Hawdd ei Deall, Iaith Arwyddion Prydain (BSL), sain neu brint bras, cysylltwch â’ch swyddfa sgrinio leol neu ewch i’n gwefan:

De-ddwyrain Cymru:  029 2184 3568

De-orllewin Cymru:  01792 343364

Gogledd Cymru:   03000 848710

sgrinio-clyw-babanod@wales.nhs.uk

www.icc.gig.cymru/sgrinio-clwy-babano

Gallwch gysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd yn cymryd yr un faint o amser i’ch ateb, pa bynnag iaith rydych yn ei dewis.

I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch, ewch i’n gwefan: www.icc.gig.cymru/hysbysiad-preifatrwydd

Gallwch hefyd gysylltu â’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar. Mae gan y gymdeithas linell gymorth i rieni a theuluoedd a hofai gael gwybodaeth am brofion cly ac unrhyw fath o golled clyw yn ystod plentyndod.

Llinell gymorth rhadfon: 0808 800 8880

Gwefan: www.ndcs.org.uk