Neidio i'r prif gynnwy

Prawf sgrinio clyw eich babi - unedau gofal dwys i'r newydd-anedig ac unedau gofal arbennig i fabanod

 

 

Cynnwys

― Prawf sgrinio clyw eich babi
Pam mae angen sgrinio clyw fy mabi?
― Pryd a ble bydd y prawf yn cael ei wneud?
― Sut rydym yn gwneud y prawf?
― Canlyniad y prawf
― Beth yw ystyr y canlyniad
― Defnyddio eich gwybodaeth
 

Mae’r daflen yma i rieni babanod sydd angen gofal arbennig am gyfnod hirach na dau ddiwrnod. Mae’n esbonio:
  • pam rydyn ni wedi cynnig prawf sgrinio clyw;
  • pryd a ble bydd y prawf yn cael ei wneud;
  • sut mae’r prawf yn cael ei wneud;
  • beth yw ystyr y canlyniadau.

 

Prawf sgrinio clyw eich babi

Mae pob babi’n cael cynnig profion iechyd yn ystod wythnosau cyntaf ei oes. Un o’r profion yma yw prawf sgrinio clyw. Prawf cyflym a syml yw hwn ac ni fydd gwneud niwed i’ch babi. Ar ôl y prawf, bydd angen i rai babanod gael prawf arall mewn clinig mewn ysbyty. Gallwch ddewis a ydych eisiau i’ch babi gael y prawf sgrinio clyw neu beidio.

 

Pam mae angen sgrinio clyw fy mabi?

Mae un neu ddau o bob 1000 o fabanod yn cael eu geni gyda cholled clyw. Bydd y rhan fwyaf o’r babanod yma’n cael eu geni i deuluoedd lle nad oes gan neb arall golled clyw. Efallai fod babi sydd angen gofal arbennig yn fwy tebygol o fod â cholled clyw. Nid yw’n hawdd i rieni wybod a oes colled clyw ar fabi ifanc. Mae cael gwybod am hyn yn gynnar yn bwysig i ddatblygiad eich babi. Mae hefyd yn golygu y gallwn gynnig cymorth a gwybodaeth i chi o’r dechrau.

Nid yw sgrinio yn darganfod pob achos o golled clyw nac yn atal problemau gyda’r clyw rhag codi yn y dyfodol.

 

Pryd a ble bydd y prawf yn cael ei wneud?

Os bydd eich babi’n cael ei eni’n gynnar iawn, fel arfer bydd y prawf yn cael ei wneud ar ôl wythnos 35 (pum wythnos cyn y dyddiad yr oedd eich babi i fod i gael ei eni). Bydd y rhan fwyaf o fabanod yn cael y prawf cyn iddyn nhw adael yr ysbyty. Efallai na fydd nifer bach yn cael y prawf cyn mynd adref. Gall babanod eraill gael eu geni mewn ysbyty sydd ddim yn cynnig y prawf. Os na fydd y prawf yn cael ei wneud yn yr ysbyty, byddwn yn anfon apwyntiad i gael prawf yn y gymuned, yn y clinig lleol fel arfer.

 

Sut rydym yn gwneud y prawf?

Mae’r prawf sgrinio’n cael ei wneud pan fydd eich babi’n llonydd neu’n cysgu. Ni fydd y prawf yn brifo/gwneud dolur nac yn achosi niwed i’ch babi. Gallwch aros gyda’ch babi tra bydd y prawf yn cael ei wneud. Bydd sgriniwr sydd wedi’i hyfforddi’n rhoi tri o badiau bach gludiog ar ben a gwddf eich babi. Bydd yn rhoi clustffonau (headphones) bach dros glustiau eich babi a fydd yn gwneud sŵn clicio. Mae’r offer yn dangos i’r sgriniwr sut mae clustiau’ch babi’n ymateb i’r sŵn.

 

Gall y sgriniwr a nyrsys yn yr uned gofal arbennig i fabanod roi mwy o wybodaeth i chi am y prawf sgrinio.

 

Canlyniad y prawf

Bydd y sgriniwr neu’r nyrs gofal arbennig yn dweud wrthych beth yw canlyniad y prawf ac yn esbonio a fydd angen prawf arall.
 

Beth yw ystyr y canlyniad

Os oes ymateb clir o’r ddwy glust, mae’n debyg nad oes colled clyw ar eich babi. Bydd y sgriniwr neu’r nyrs gofal arbennig yn rhoi gwybodaeth i chi am y ffordd mae babanod yn ymateb i sŵn wrth iddyn nhw dyfu. Byddan nhw’n dweud wrthych beth i’w wneud os ydych yn poeni o gwbl am glyw eich babi.

Os nad oedd ymateb clir o’r naill glust na’r llall, neu os mai dim ond o un glust y mae’r ymateb yn glir, nid yw o anghenraid yn golygu bod colled clyw ar eich babi. Efallai na fydd modd gweld ymatebion clir:

  • os yw’r babi’n aflonydd;

  • os oes hylif yn y glust (ar ôl geni);

  • os oedd gormod o sŵn o gwmpas y babi pan oedd y prawf yn cael ei wneud.

Byddwn yn cynnig prawf clyw gydag awdiolegydd (arbenigwr ar y clyw) i’ch babi. Mae angen y profion yma ar tua 1 neu 2 o bob 100 o fabanod. Bydd y sgriniwr yn rhoi mwy o wybodaeth i chi.

Mae angen gwneud y profion yma pan fydd babi’n dal i gysgu llawer yn ystod y dydd. Bydd yr awdiolegydd yn anfon apwyntiad ar gyfer y prawf atoch chi o fewn wyth wythnos. Bydd hyn yn rhoi amser i lwybr clywed eich babi ddatblygu.

 

Defnyddio eich gwybodaeth

Er mwyn i ni gysylltu â chi fel rhan o’r rhaglen, bydd angen i ni drin a thrafod gwybodaeth bersonol amdanoch chi a’ch babi. Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch chi am hyn, gallwch:

Rydym hefyd yn cadw manylion personol eich babi i wneud yn siwr bod safon ein gwasanaeth mor uchel a phosibl. Mae hyn yn cynnwys edrych ar gofnodion eich babi os canfyddir bod colled clyw ar eich babi ar ol iddo gael canlyniad normal mewn prawf sgrinio.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein gwefan Sgrinio Clyw Babanod Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu os hoffech wneud sylwadau neu awgrymiadau am raglen Sgrinio Clyw Babanod Cymru, anfonwch e-bost drwy ein gwefan neu ffoniwch ni ar un o’r rhifau ffôn sy’n dilyn.

Gogledd Cymru: 03000 848710

De-orllewin Cymru: 01792 343364

De-ddwyrain Cymru: 029 2184 3568

Os oes gennych unrhyw bryderon, ysgrifennwch at:

Y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Sgrinio 4ydd Llawr, 2 Capital Quarter

Stryd Tyndall Caerdydd, CF10 4BZ

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg. Byddwn yn ateb yn Gymraeg heb oedi.