Neidio i'r prif gynnwy

Mae colled clyw ar eich babi

Mae’r daflen yma i rieni a theulu sydd wedi cael gwybod bod colled clyw ar eu babi. Mae’r daflen yn ateb rhai cwestiynau cyffredin. Mae’n dweud wrthych chi pa gymorth sydd ar gael i chi ac i’ch babi, a ble i gael mwy o wybodaeth.


Cyhoeddedig Hydref 2020. Rhifyn 5.
 

Cynnwys 

― Beth yw colled clyw?
Diagram o’r glust
― Beth sy’n achosi nam ar y clyw?
― Cymorth i chi a’ch babi
― Teclynnau clyw
― Cyfathrebu
― Addysg
― Cymorth ariannol
― Mwy o gymorth

 

 

 

Beth yw colled clyw?

Mae yna wahanol fathau o golled clyw. Mae'r math o golled clyw sydd gan eich babi yn dibynnu ar ble mae'r broblem yn y glust.

Diagram o’r glust

Mae colled clyw synwyrnerfol (sensorineural hearing loss) yn nam parhaol. Mae hyn fel arfer yn golygu bod problem yn y glust fewnol (cochlea) neu gyda nerf y clyw.

Mae colled clyw dargludol (conductive hearing loss) yn golygu nad yw synau’n gallu teithi’n hawdd drwy’r glust allanol a’r glust ganol i’r glust fewnol. Fel arfer, mae’n golygu colli’r clyw dros dro, ond gallai fod yn barhaol yn achos nifer bach o fabanod.

Gall plant sydd â cholled clyw synwyrnerfol hefyd â cholled clyw dargludol dros dro.

Mae yna wahanol lefelau o golled clyw. Mae’r rhain yn cael eu disgrifio fel ysgfan, cymedrol, difrifol neu ddwys. Bydd eich awdiolegydd yn gallu egluro pa synau y bydd eich babi’n gall eu clywed a pha synau y mae’n cael trafferth eu clywed. Mae’n annhebygol iawn na fydd eich babi’n gallu clywed unrhyw synau o gwbl.

Beth sy’n achosi nam ar y clyw?

Mae’r rhan fwyaf o fabanod sydd â cholled clyw synwyrnerfol yn cael eu geni i deuluoedd lle nad oes gan neb arall golled clyw, ond mewn rhai teuluoedd mae’n bosib i golled clyw gael ei etifeddu. Mae colled clyw synwyrnerfol hefyd yn gallu cael ei achosi gan heintiau yn ystod beichiogrwydd, geni’n gynnar a chymhlethdodau yn ystod beichiogrwydd. Gall fod yn rhan o gyflwr arall neu gall fod yn gysylltiedig ag anawsterau eraill. Gall colled clyw hefyd ddatblygu drwy afiechydon plentyndod, fel clwy’r pennau (mumps), y frech goch neu lid yr ymennydd (meningitis).

Yn aml, mae colled clyw dargludol yn cael ei achosi gan hylif yn y glust ganol (clust ludiog neu glue ear yw’r enw arall ar yr anhwylder yma). Gall hefyd gael ei achosi gan broblemau wrth i’r glust allanol a’r glust fewnol ddatblygu.

Gall colled clyw hefyd ddatblygu drwy afiechydon plentyndod, fel clwy’r pennau (mumps), y frech goch (measles) neu lid yr ymennydd (meningitis).

Cymorth i chi a’ch babi

Mae pob rhiant yn ymateb yn wahanol pan fydd yn cael gwybod bod colled clyw ar eu babi.

Sut bynnag rydych chi’n teimlo, mae digonedd o gymorth ar gael. Bydd eich Tîm Cefnogi’r Blynyddoedd Cynnar yn gallu’ch helpu chi, eich babi a’ch teulu. Mae’r tîm yma yn cynnwys eich awdiolegydd, athro arbenigol a meddyg arbenigol. Efallai y bydd therapydd lleferydd ac iaith a gweithiwr cymdeithasol yn rhan o’r tîm hefyd.

Bydd y tîm yn cwrdd â chi’n rheolaidd ac yn gweithio gyda chi drwy gynnig cymorth mewn nifer o wahanol ffyrdd.

Teclynnau clyw

Efallai y bydd eich awdiolegydd yn dweud wrthych y bydd teclynnau clyw yn helpu’ch babi i glywed yn well. Os byddwch chi’n dewis cael teclynnau clyw i’ch babi, bydd yn rhaid gwneud mowld arbennig o’r glust a byddwch yn cael apwyntiad arall er mwyn ffitio’r teclynnau clust. Bydd yr awdiolegydd yn rhoi cyngor i chi ar y ffordd orau o ddefnyddio teclynnau clyw eich babi. Fyddan nhw ddim yn boenus nac yn anghyfforddus i’ch babi eu gwisgo. Bydd staff y Clinig Clyw yn cynnig apwyntiadau i wirio clyw a theclynnau clyw eich babi’n rheolaidd.

Cyfathrebu

Mae plant sydd â cholled clyw a’u teuluoedd yn cyfathrebu â’i gilydd mewn nifer o wahanol ffyrdd. Bydd rhai plant yn dysgu siarad, bydd eraill yn dysgu sut i ddefnyddio iaith arwyddion, a bydd rhai yn defnyddio cymysgedd o’r ddau. Bydd yr athro arbenigol ac aelodau eraill o’r Tîm Cefnogi’r

Blynyddoedd Cynnar yn eich helpu i ddewis y ffordd orau i chi a’ch babi gyfathrebu. Ar ôl i chi benderfynu ar hyn, mae’n bwysig iawn eich bod yn cyfathrebu cymaint â phosib gyda’ch babi.

 

Addysg

Mae’r rhan fwyaf o blant sydd â cholled clyw yn mynd i ysgolion prif ffrwd lleol lle y bydd angen help arbenigol ar rai plant. Bydd rhai yn mynd i ysgolion gydag unedau ar gyfer plant â cholled clyw. Bydd yr athro arbenigol yn eich helpu i ddewis yr ysgol sy’n bodloni anghenion eich plentyn.

 

Cymorth ariannol

Efallai y bydd yn bosib i chi gael budd-daliadau i’ch helpu chi i ofalu am eich babi. Bydd y Tîm Cefnogi’r Blynyddoedd Cynnar, y Gymdeithas Genedlaethol Plant Byddar (NDCS), yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu Cyngor ar Bopeth yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi.

 

Mwy o gymorth

Mae’r Gymdeithas Genedlaethol Plant Byddar (NDCS) yn gallu rhoi gwybodaeth a chymorth i chi ac mae ganddi linell ffôn arbennig i rieni, plant sydd â nam ar eu clyw. Bydd eu cynghorwyr profiadol yn gallu helpu i ateb unrhyw gwestiynau.

E-bost: ndcs@ndcs.org.uk
Gwefan: www.ndcs.org.uk
Dehonglydd Nawr: https://interpreternow.co.uk/ndcs

Llinell gymorth rhadffôn: 0808 800 8880 (v/t)
(dulliau eraill o gysylltu hefyd ar gael, gweler -

https://www.ndcs.org.uk/our-services/services-for-families/helpline/