Cewch wahoddiad i fynychu sesiwn sgrinio yn un o’r unedau sgrinio symudol neu mewn canolfan sgrinio. Bydd eich llythyr gwahodd yn nodi ble y cewch eich sgrinio. Bydd lle y cewch eich sgrinio yn dibynnu gyda pa bractis meddyg teulu rydych wedi'ch cofrestru.
Cysylltwch â ni os na allwch fynychu eich apwyntiad. Efallai y gallwn gynnig amser, dyddiad neu leoliad mwy cyfleus i chi.
Mae apwyntiadau sgrinio’r fron yn brin. Rhowch wybod i ni os ydych yn bwriadu peidio â dod i’ch apwyntiad gan y gallwn gynnig eich apwyntiad i rywun arall.
Os nad oes angen eich apwyntiad arnoch mwyach, cysylltwch â ni i drafod sut y gallwn eich cefnogi.
Os gwnaethoch fethu eich apwyntiad sgrinio'r fron, gallwch gysylltu â ni i drefnu apwyntiad newydd Mae'n bwysig nad ydych yn aros am dair blynedd nes eich bod yn cael eich gwahodd eto.
Cyn eich apwyntiad:
Mae’n syniad da gwisgo trowsus neu sgert a thop, yn hytrach na ffrog, gan y bydd gofyn i chi ddadwisgo o’r wasg i fyny.
Cyn eich apwyntiad, peidiwch â defnyddio diaroglydd chwistrell neu bowdr talc am y gall hwn ddangos i fyny ar eich pelydr-X o’r fron. Gallwch ddefnyddio diaroglydd rholio.
Cyrhaeddwch yn brydlon. Ni allwch fynd i’r uned symudol hyd amser eich apwyntiad.
Oherwydd maint yr uned symudol, gofynnwn i chi ddod i’r apwyntiad ar eich pen eich hun. Os oes angen cymorth arnoch yn ystod eich apwyntiad, cysylltwch â ni cyn mynychu.
Ni fyddwn yn gallu gwneud y prawf sgrinio os dewch â phlant gyda chi. Mae hyn am resymau iechyd a diogelwch.
Noder: nid oes cyfleusterau toiled ar yr uned symudol.
Pan fyddwch yn cyrraedd yr uned sgrinio’r fron, bydd y staff yn gwirio eich manylion ac yn gofyn i chi ynghylch unrhyw broblemau bron rydych wedi’u cael. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gofynnwch.
Cyflawnir pelydr-x bronnau gan staff benywaidd a elwir yn Radiograffwyr neu’n Ymarferwyr Cynorthwyol. Byddant yn esbonio’r hyn fydd yn digwydd. Gofynnir i chi newid yn yr ystafell pelydr-x neu mewn ciwbicl newid preifat. Bydd angen i chi dynnu eich bra ac os byddwch mewn ciwbicl newid gwisgwch eich dillad uchaf hyd nes y byddwch yn mynd i’r ystafell pelydr-x. Efallai bydd yn haws gwisgo sgert neu drowsus yn hytrach na ffrog.
Pan gewch eich galw ar gyfer eich pelydr-x o’r fron, bydd yr aelod o staff sy’n gwneud y profion yn rhoi eich bron ar y peiriant pelydr-x. Caiff plât plastig ei ostwng i wasgu’r fron. Mae hyn y bwysig iawn gan ei fod yn helpu i gadw’ch bron yn llonydd a chael delwedd pelydr-x clir. Cymerir o leiaf dau belydr-x o bob bron.
Dim ond ychydig o funudau y bydd y prawf yn ei gymryd. Mae pawb yn wahanol; gall y prawf fod yn anghysurus neu’n boenus i rai pobl . Fel rheol mae hyn yn pasio’n gyflym. Dywedwch wrth yr aelod o staff sy’n gwneud y prawf a fyddwch am roi’r gorau i’r prawf ar unrhyw adeg.
Os oes gennych fewnblaniadau bronnau neu lenwyr chwistrelladwy, byddwch yn cael taflen wybodaeth i'w darllen, oherwydd gall y rhain wneud sgrinio'n anoddach.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch ofyn i aelod o staff sgrinio.
Os na all yr aelod o staff gwblhau pelydr-x o’ch bron, mae’n bosibl y byddwch yn dal i dderbyn canlyniad ar yr mannau a gymerwyd pelydr-x ohonynt.