Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am y prawf

Bydd eich apwyntiad fel arfer yn cymryd tua 40 munud ond rydym yn gofyn i chi neilltuo hyd at awr.

Ewch i’ch apwyntiad mewn da bryd. Os byddwch yn cyrraedd yn gynnar, efallai y bydd yn rhaid i chi aros. Os ydych yn hwyr, efallai na fyddwn yn gallu eich sgrinio.

Byddwn yn gwirio eich manylion ac yn gofyn a ydych yn cytuno i gael y prawf.  Byddwn yn gofyn i chi ddarllen llythrennau neu rifau sydd ar siart. Gofynnir cwestiynau i chi am eich golwg.

Bydd diferion llygaid (a elwir yn tropicamide) yn cael eu rhoi yn eich llygaid. Bydd y diferion yn ehangu’ch canhwyllau llygaid i alluogi golwg well o gefn eich llygad.  Gall y rhain achosi teimlad ychydig yn anesmwyth, ond ni fydd hyn yn parhau'n rhy hir.  

Bydd yn rhaid i chi aros am o leiaf 20 munud i alluogi'r diferion i weithio. Bydd eich golwg yn mynd yn niwlog a gall fod yn anodd canolbwyntio ar wrthrychau sy’n agos atoch.  Efallai y byddwch hefyd yn sensitif i olau.

Byddwn yn gwirio'ch llygaid i wneud yn siŵr bod y diferion wedi gweithio.  Bydd angen i chi eistedd o flaen camera arbenigol.  Bydd yn tynnu ffotograffau o gefn pob llygad. Bydd fflach llachar pan dynnir y ffotograffau.

Mae'n bosibl y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol chi neu eich plentyn a delweddau retinol (a ddosberthir fel data biometrig) ag ymchwilwyr y tu allan i GIG Cymru sydd am wella'r rhaglen sgrinio a meysydd eraill o ofal iechyd. Byddai hyn ond yn digwydd gyda mesurau cymeradwyaeth lem megis adolygiad llywodraethu gwybodaeth annibynnol neu bwyllgor moeseg a chyda mesurau diogelu priodol ar waith. Gallwch optio allan o rannu eich data at ddiben ymchwil ar unrhyw adeg. Os byddwch yn cofrestru eich dewis i optio allan, byddwn yn sicrhau na fydd unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi na’ch plentyn yn cael ei rhannu ag ymchwilwyr y tu allan i GIG Cymru.

Nesaf »

Darganfod mwy