• Rheoli eich diabetes, gan gynnwys gwirio'ch glwcos yn eich gwaed a chymryd eich meddyginiaeth fel y rhagnodir. Mynd i Diabetes management | taking care of your diabetes | Diabetes UK i gael gwybodaeth bellach.
• Ewch i’ch apwyntiadau diabetes.
• Ewch i’ch apwyntiadau sgrinio llygaid diabetig pan fyddwch yn derbyn gwahoddiad – mae profion sgrinio llygaid diabetig yn rhan o reoli eich diabetes. Mae modd trin retinopathi diabetig, yn enwedig os bydd yn cael ei ddarganfod yn gynnar.
• Ewch i’ch prawf llygaid gyda'ch optegydd pan fydd yn bryd i chi wneud hynny - mae prawf sgrinio llygaid diabetig yn wahanol i'r prawf llygaid y byddwch yn ei gael gan eich optegydd.
• Siaradwch â'ch optegydd neu’ch meddyg os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i'ch golwg.
Ewch i’n tudalennau Cadw’n Iach i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud i gadw’n iach.
Gall retinopathi diabetig achosi nifer o arwyddion a symptomau.
Pethau i gadw llygad amdanynt:
• Newid sydyn neu raddol i’ch golwg.
• Colli eich golwg yn sydyn mewn un llygad neu yn y ddwy.
• Gweld siapiau (brychau) neu oleuadau'n fflachio yn eich maes golwg.
• Mae eich golwg yn mynd yn niwlog heb ddim rheswm.
• Mae gennych boen llygad neu gochni yn y llygad.
Siaradwch â'ch optegydd neu’ch meddyg os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i'ch golwg. Peidiwch ag aros am eich apwyntiad sgrinio llygaid diabetig nesaf.