Cynhelir sgrinio mewn ysbytai, canolfannau iechyd, practisiau meddygon teulu a rhai lleoliadau cymunedol.
Ein nod yw eich gwahodd i’r lleoliad sydd agosaf at eich cartref, o fewn 45 munud mewn car. Bydd hyn yn dibynnu ar y lleoliad a'r apwyntiadau sydd ar gael.
Mae’n bwysig bod gan eich meddyg eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn cywir, fel arall efallai na fyddwn yn gallu anfon eich llythyr apwyntiad atoch.
Gallwch ddod o hyd i gyfarwyddiadau i'r lleoliadau isod. Peidiwch ag anfon unrhyw lythyrau i'r cyfeiriadau hyn. Os hoffech gysylltu, gallwch wneud hynny drwy gysylltu â ni.
Gallwch hefyd gael eich sgrinio mewn ysbytai, clinigau symudol neu glinigau cymunedol.
Cysylltwch â ni os na allwch ddod i’ch apwyntiad. Efallai y gallwn gynnig amser, dyddiad neu leoliad mwy cyfleus i chi.
Mae apwyntiadau sgrinio llygaid diabetig yn gyfyngedig. Rhowch wybod i ni os ydych yn bwriadu peidio â dod i’ch apwyntiad; gallwn gynnig eich apwyntiad i rywun arall.
Os ydych chi, neu unigolyn rydych yn ei gynorthwyo angen cymorth ychwanegol ar gyfer sgrinio, cysylltwch â ni cyn yr apwyntiad os:
• Bydd angen cyfieithydd ar y pryd arnoch gan nad Cymraeg na Saesneg yw eich iaith gyntaf.
• Oes gennych ofynion symudedd neu anabledd, fel y gallwn wneud yn siŵr ein bod yn cynnig apwyntiad hygyrch i chi.
• Bydd angen apwyntiad hirach arnoch.
• Ydych chi’n meddwl efallai na fyddwch yn gallu eistedd yn y safle iawn wrth ein camerâu.
• Ydych chi’n gofalu am rywun na all wneud penderfyniadau.
• Oes gennych Atwrneiaeth dros iechyd a llesiant yr unigolyn a wahoddir, bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod a’r ddogfen Atwrneiaeth i’w apwyntiad.
Mae staff gofal iechyd yn dilyn canllawiau rheoli heintiau ac atal. Mae hyn yn golygu eu bod yn dilyn arferion glanhau dwylo llym ac yn glanhau pob ardal ac offer clinig yn rheolaidd. Mae glanweithydd dwylo ar gael. Cofiwch, er mwyn atal lledaeniad yr haint, cysylltwch â DESW os ydych chi'n profi unrhyw symptomau haint neu salwch.
Cyn eich apwyntiad: