Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â'ch prawf Sgrinio Llygaid Diabetig y GIG am ddim

 

 

Cynnwys

Ble alla i gael mwy o wybodaeth?

 

Mae’r daflen hon yn dweud wrthych am brawf sgrinio’r llygaid y GIG am ddim sy’n edrych am retinopatheg diabetig

 

  • Bydd unigolion 12 oed a hŷn sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes yn cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio’r llygaid rheolaidd.
  • Gall prawf sgrinio’r llygaid achub eich golwg.
  • Mae prawf sgrinio’r llygaid yn edrych am retinopatheg (niwed i gefn y llygaid).
  • Mae retinopatheg diabetig yn gyflwr y gellir ei drin.
  • Mae sgrinio’r llygaid yn bwysig oherwydd ei fod yn canfod newidiadau cyn i chi sylwi arnynt.
  • Y ffordd orau i chwilio am retinopathi diabetig yw tynnu llun o gefn eich llygaid.
  • Mae profion sgrinio’r llygaid yn cael eu gwneud mewn clinigau iechyd lleol, ysbytai neu unedau symudol gan Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd..
Nid yw sgrinio’r llygaid yn disodli eich prawf llygaid arferol.
Bydd angen i chi fynd at eich optegydd o hyd.

 

Pam ddylwn i gael prawf sgrinio’r llygaid?

Mae eich meddyg wedi gofyn i ni sgrinio’ch llygaid. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim ac yn rhan o'ch gofal diabetes cyffredinol.

Mae bod â diabetes yn golygu eich bod mewn perygl o ddatblygu clefyd diabetig y llygaid (retinopathi diabetig). Gall clefyd diabetig y llygaid achosi colli golwg.

Gall sgrinio’r llygaid ganfod y cyflwr yn gynnar cyn i chi sylwi ar unrhyw newidiadau i'ch golwg.

Llygad arferol

Llygad gyda Retinopathi

 

Pam mae prawf sgrinio’r llygaid yn bwysig i mi?

Os bydd newidiadau’n cael eu darganfod yn gynnar, gellir trin clefyd diabetig y llygaid. Mae hyn yn atal colli golwg i’r rhan fwyaf o bobl. Gall mynd i'ch prawf sgrinio’r llygaid yn rheolaidd pan gewch eich gwahodd ganfod retinopathi diabetig yn gynnar, cyn i chi sylwi ar unrhyw newidiadau i'ch golwg.

 

Beth yw retinopatheg diabetig?

Mae retinopathi diabetig yn gyflwr a all effeithio ar unrhyw un sydd â diagnosis o ddiabetes. Mae'n achosi niwed i'r pibellau gwaed sy'n cyflenwi cefn y llygad (y retina). Y retina yw'r rhan o'r llygad sy'n gweld.


Dros amser, gall siwgr uchel yn y gwaed neu newidiadau mawr mewn lefelau siwgr yn y gwaed wneud i'r pibellau gwaed ollwng neu gael eu blocio. Os na fydd yn cael ei drin, gall niweidio'ch golwg. Gall retinopathi diabetig gymryd blynyddoedd lawer i ddatblygu ac yn aml, ni cheir unrhyw symptomau amlwg.

A yw prawf sgrinio’r llygaid diabetig yr un peth â mynd at optegydd?

Nid yw prawf sgrinio’r llygaid diabetig yn rhan o archwiliadau arferol a wneir gan optegwyr ac nid yw'n chwilio am gyflyrau llygaid eraill. I gadw'ch llygaid yn iach, mae'n bwysig eich bod yn mynd i’ch apwyntiadau optegydd ac apwyntiadau sgrinio’r llygaid diabetig yn rheolaidd.

 

Beth fydd yn digwydd yn fy apwyntiad sgrinio llygaid?

  • Bydd eich apwyntiad yn cymryd tua awr.
  • Pan fyddwch yn cyrraedd, byddwn yn trafod y broses sgrinio gyda chi. Gallwch
    ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych
  • Bydd diferion yn cael eu rhoi yn eich llygaid i wneud canhwyllau eich llygaid yn fwy. Bydd hyn yn ein helpu i dynnu lluniau cliriach o gefn eich llygaid.

Yr eiris arferol

Yr eiris ar ôl diferion llygaid (ymledu)

  • Mae rhai pobl yn gweld y diferion yn anghyfforddus am gyfnod byr.
  • Bydd angen i chi aros am oddeutu 20 munud i'r diferion weithio.
  • Efallai y bydd eich golwg yn mynd yn niwlog. Gall hyn barhau am sawl awr, gan ei gwneud yn anniogel i yrru neu ddefnyddio peiriannau. Fe'ch cynghorir i beidio â gyrru nes bod eich golwg yn dychwelyd i normal.
  • Byddwn yn tynnu lluniau o gefn eich llygaid gan ddefnyddio camera arbennig gyda fflach.
  • Ni fyddwch yn cael eich canlyniadau ar y diwrnod.
  • Anfonir y lluniau o'ch llygaid i gael eu harchwilio am arwyddion o retinopathi
    diabetig gan ein tîm hyfforddedig .
  • Byddwch yn cael eich llythyr canlyniadau yn y post cyn pen wyth wythnos.
  • Bydd eich canlyniadau’n cael eu hanfon at eich meddyg hefyd.

 

Beth fydd angen i mi feddwl amdano ar ddiwrnod fy apwyntiad?

  • Dewch â'r holl sbectolau rydych chi'n eu gwisgo gyda chi.
  • Os ydych fel arfer yn gwisgo lensys cyffwrdd, bydd angen i chi dynnu'r rhain, felly dewch â'ch cas lensys a'ch hylif glanhau gyda chi.
  • Dewch â sbectol haul gan fod eich llygaid yn gallu teimlo'n sensitif i olau ar ôl rhoi’r diferion yn eich llygaid. Mae hwn yn syniad da hyd yn oed os yw'n dywyll y tu allan.
  • Dewch â rhywbeth i’w fwyta oherwydd efallai na fydd gan rai lleoliadau gyfleusterau bwyd; yn enwedig os oes gennych chi anghenion dietegol.
  • Ystyriwch sut y byddwch yn cyrraedd ac yn gadael eich apwyntiad. Ni fyddwch yn gallu gyrru am beth amser ar ôl eich apwyntiad sgrinio.
  • Gall diferion llygaid wneud eich golwg yn aneglur. Gallai hyn ei gwneud hi'n anodd monitro eich lefelau glwcos a'ch dos o inswlin. Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnoch yn ystod yr amser hwn, gan nad yw ein staff yn gallu cynorthwyo gyda dyfeisiau personol.

Beth os bydd angen cymorth arnaf yn ystod fy apwyntiad?

Os oes angen help arnoch gyda’ch apwyntiad sgrinio rhowch wybod i ni. Dylech ein ffonio ar 0300 003 0500:

Os bydd angen cymorth arnoch yn ystod eich apwyntiad sgrinio, rhowch wybod i ni.
Dylech ein ffonio ar 0300 003 0500 os:

  • Ydych angen yr wybodaeth hon mewn fformat arall e.e. hawdd ei ddarllen.
  • Ydych angen cyfieithydd yn ystod eich apwyntiad, os nad Cymraeg na Saesneg yw eich iaith gyntaf ac os nad oes gennych aelod o'r teulu all gyfieithu i chi.
  • Oes gennych anghenion iaith eraill (e.e. BSL)
  • Oes gennych anabledd, er mwyn i ni sicrhau bod y lleoliad lle cynhelir y profion sgrinio yn addas.
  • Ydych chi’n meddwl efallai na fyddwchyn gallu eistedd yn yr iawn oflaen ein camerâu.

Lleoliad eistedd y camera

  • Oes gennych aelod o'r teulu neuofalwr a allai fod angen eich helpuyn ystod eich apwyntiad.
  • Ydych yn bwriadu defnyddiocludiant ysbyty i ddod i'r clinig (er naallwn drefnu hyn i chi).

 

Os ydych chi'n ofalwr sy'n helpu rhywun na fydd efallai'n gallu cydsynio i gael prawf sgrinio, cysylltwch â ni cyn yr apwyntiad.
Os ydych yn ofalwr gydag Atwrneiaeth dros Iechyd a Llesiant ar gyfer yr unigolyn a wahoddwyd, dewch â dull adnabod a'r ddogfen Atwrneiaeth i'r clinig.

Ateb eich cwestiynau

 

Pa mor effeithiol yw prawf sgrinio’r llygaid?

Mae profion sgrinio’r llygaid yn rhan allweddol o'ch gofal diabetes. Retinopathi diabetig heb ei drin yw un o achosion mwyaf cyffredin colli golwg. Gall sgrinio ddarganfod newidiadau yn y retina yn gynnar, cyn i chi fod yn ymwybodol ohonynt.

Bydd profion sgrinio’r llygaid diabetig yn nodi newidiadau llygaid mewn mwy na 19 o bob 20 o bobl. Os ddarganfyddir y newidiadau hyn mewn pryd, bydd triniaeth yn effeithiol iawn o ran atal colli golwg yn y mwyafrif o bobl.

Bydd tua 1 o bob 50 o bobl sy'n cael y prawf yn cael eu hatgyfeirio at arbenigwr llygaid ar gyfer archwiliad neu i gael trin eu retinopathi.

A all sgrinio’r llygaid fy atal rhag cael retinopathi?

Na all. Gall prawf sgrinio’r llygaid diabetig ddod o hyd i retinopathi yn gynnar ond nid yw'n ei atal rhag datblygu.

A oes angen prawf sgrinio ar bawb sydd â diabetes?

Os ydych wedi cael diagnosis o ddiabetes a'ch bod yn 12 oed neu'n hŷn, byddwch yn cael eich gwahodd i gael prawf sgrinio.

Ni waeth sut mae eich diabetes yn cael ei reoli, p'un a ydych chi'n mynd i bractis meddygon teulu neu’n gweld ymgynghorydd yn yr ysbyty, mae angen i chi fynd i gael prawf sgrinio.

Yr unig eithriadau yw pobl nad oes ganddynt olwg o gwbl yn y ddwy lygad, neu os yw eich meddyg wedi dweud wrthym nad yw sgrinio’r llygaid yn addas i chi.

Beth fydd yn digwydd os oes gennyf retinopathi diabetig?

Yn dibynnu ar lefel y retinopathi diabetig ac unrhyw golled golwg, efallai y cewch eich atgyfeirio at glinig llygaid arbenigol i gael asesiad a thriniaeth bellach.

Gall profion sgrinio’r llygaid nodi retinopathi na fydd efallai angen triniaeth. Mae'r rhan fwyaf o bobl â retinopathi (9 o bob 10) yn cael eu monitro trwy brofion sgrinio blynyddol ac nid oes angen eu hatgyfeirio.

 

Pa driniaeth sydd ar gael ar gyfer retinopathi diabetig?

Mae triniaeth laser a phigiadau llygaid yn effeithiol iawn o ran atal colli golwg yn y rhan fwyaf o bobl os cânt eu gwneud ar yr adeg gywir. Bydd yr arbenigwr yn yr ysbyty yn esbonio hyn i chi.

P'un a oes gennych retinopathi diabetig ai peidio, mae’n bwysig bob amser ceisio cadw eich glwcos gwaed, pwysedd gwaed a cholesterol ar eich lefelau targed. Gall hyn arafu neu wrthdroi niwed cynnar i'r llygaid a achosir gan retinopathi.

Sut alla i leihau fy risg o ddatblygu retinopathi diabetig?

  • Rheoli eich diabetes yn ofalus, gan gynnwys gwirio'r glwcos yn eich gwaed.
  • Ewch i'ch apwyntiadau diabetes a chael gwirio eich pwysedd gwaed a'ch colesterol yn rheolaidd.
  • Cymerwch eich meddyginiaeth fel y'i rhagnodir
  • Peidiwch ag ysmygu. I gael cyngor a chymorth neu i ddod o hyd i’ch gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu lleol, ewch i: www.helpafiistopio.cymru
  • Siaradwch â'ch meddyg neu'ch optegydd os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau i'ch golwg.
  • Ewch i’ch apwyntiadau sgrinio’r llygaid diabetig pan gewch chi wahoddiad.
  •  Bwyta’n dda.
  • Symud mwy.
  • Cyfyngu ar faint o alcohol rydych chi’n ei yfed.

COFIWCH: Dim ond rhan o reoli eich diabetes ydi sgrinio'r llygaid ac mae'n bosibl trin retionpatheg diabetig, yn enwedig os caiff ei ganfod yn gynnar.

 

Sut rydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch chi

Mae angen i ni gadw eich gwybodaeth bersonol, fel ein bod yn gwybod os a phryd, rydych wedi cael apwyntiad; neu a ydych wedi penderfynu peidio â chael apwyntiad

Mae eich cofnodion sgrinio, gan gynnwys ffotograffau a chofnodion o’r camau a gymerwyd, yn cael eu cadw gan y rhaglen sgrinio.
I gael rhagor o wybodaeth, mae ein datganiad preifatrwydd ar gael ar Wefan y rhaglen: Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru.

Os hoffech gopi caled, cysylltwch â’n canolfan sgrinio ar 0300 003 0500.

 

O ble gawsoch chi fy manylion personol?

Mae’r rhaglen sgrinio yn cael manylion amdanoch chi, a gwybodaeth am eich diabetes, gan eich practis meddygon teulu. Mae hyn yn cynnwys eich enw, eich dyddiad geni a’ch cyfeiriad. Efallai y byddwn hefyd yn storio gwybodaeth a fydd yn effeithio ar eich apwyntiadau sgrinio (e.e. anghenion iaith).

Ni fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei throsglwyddo y tu allan i'r GIG.

Os nad ydych am i'ch gwybodaeth gael ei throsglwyddo i'r rhaglen sgrinio, dylech drafod hynny gyda'ch meddyg gan na fyddwn yn gallu eich sgrinio.

Ble alla i gael rhagor o wybodaeth??

Chi sy’n dewis a ydych yn mynd i gael prawf sgrinio ai peidio. Os byddwch yn penderfynu nad ydych am gael rhagor o wahoddiadau, gallwch optio allan drwy gysylltu â ni. Am ragor owybodaeth ewch i'n gwefan: Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru.
Ffoniwch ni ar: 0300 003 0500.
E-bost: sgrinio-llygaid-diabetig@wales.nhs.uk

Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru, 1 Llys Fairway, Glan-Bad, Trefforest CF37 5UA,

Gallwch gysylltu â ni yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd yn cymryd yr un faint o amser i ni eich ateb, pa bynnag iaith a ddewiswch. Gallwch ddarllen mwy am brofion sgrinio’r llygaid a retinopathi diabetig yn: Diabetes.ORG: Retinopathy (Saesneg yn unig)