Neidio i'r prif gynnwy

Polisi a Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Cydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant

Mae Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn datblygu, yn casglu ac yn rhannu gwybodaeth ac offer ar y ffordd orau o fuddsoddi mewn gwella iechyd, lleihau anghydraddoldebau, a meithrin cymunedau cryfach a mwy gwydn yng Nghymru, Ewrop a’r Byd.

I gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (WHO CC), ewch i'n cynllun gwaith.

Mae’r Gyfarwyddiaeth yn cynnwys dwy Is-adran sy’n cydweithio’n agos: Polisi Iechyd y Cyhoedd, ac Iechyd Rhyngwladol sy'n cynnwys nifer o dimau.

Mae Uned Atal Trais Cymru, yr Hyb Cymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) ac Uned Cydweithredu Iechyd y Cyhoedd hefyd yn cael eu lletya gan Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd.

Gan weithio gyda Chyfarwyddiaethau eraill yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, ein rhanddeiliaid yn y byd academaidd, polisi a rhanddeiliaid eraill, rydym yn helpu i sicrhau bod dysgu lleol, cenedlaethol a rhyngwladol ar gael ar draws ein partneriaid a’n rhwydweithiau. Gwneir hyn er mwyn cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu, defnyddio a throsi tystiolaeth, sgiliau a datrysiadau er mwyn gwireddu bywydau iach a llewyrchus i bawb, gan sicrhau na fyddwn yn gadael neb ar ôl.