Nid oes unrhyw le yn ddiogel yn yr awyr agored yn ystod storm fellt.
Mae mellt yn gallu taro milltiroedd i ffwrdd o unrhyw law neu gwmwl, felly mae angen dod o hyd i gysgod ar unwaith.
Mae cerbyd caeedig neu loches gyda phedair wal a tho yn darparu cysgod diogel.
Pan fyddwch chi'n clywed taranau, rydych chi'n ddigon agos i gael ergyd mellten.
Dylech gadw draw o ffensys gwifren bigog, llinellau trydan, neu felinau gwynt.
Dylech adael unrhyw byllau dŵr, llynnoedd, a chrynofeydd dŵr eraill ar unwaith a chadw draw ohonyn nhw.
PEIDIWCH â gorwedd ar y llawr neu gysgodi o dan goeden. Os nad oes lloches gerllaw, neu os na allwch chi gyrraedd lloches, dylech chi gyrcydu a thynnu'ch pen i mewn i’ch corff.
Os ydych chi'n teimlo eich gwallt yn codi, dylech chi gyrcydu ar unwaith.
Yn gyffredinol, mae ceir yn ddiogel oherwydd eich bod dan do mewn ffrâm a tho metel. Os ydych chi eisoes yn eich car, caewch y ffenestri a'r drysau.
Mae ceir sydd â thoeau ffabrig a cheir â thoeau sy’n agor yn llai diogel oherwydd bod y to yn gallu mynd ar dân os yw'n cael ei daro gan fellt.
Nid yw beiciau modur na beiciau yn ddiogel yn ystod mellt.
Dan do
Peidiwch â defnyddio ffôn â chortyn. Ni ddylech ddefnyddio ffonau symudol na ffonau heb gortyn heblaw os nad ydyn nhw wedi'u cysylltu â phlwg gan wefrydd.
PEIDIWCH â defnyddio unrhyw beth sydd wedi'i gysylltu ag allfa drydanol, fel cyfrifiadur neu gyfarpar electronig arall.
Dylech gadw draw o'r gawod ac o ddŵr, gan gynnwys golchi llestri.
Cadwch draw o ffenestri a drysau.
PEIDIWCH â gorwedd ar loriau concrid neu bwyso yn erbyn waliau concrid.
Os oes rhywun wedi cael ei daro gan fellten, fe allwch ei gyffwrdd a rhoi cymorth cyntaf iddo ar unwaith. Ni fyddwch yn cael eich trydanu.