Neidio i'r prif gynnwy

Beth i'w wneud yn ystod storm

  • Aros dan do, a chau ffenestri a llenni er mwyn amddiffyn yn erbyn y perygl o wydr yn torri.
  • Peidio â cheisio atgyweirio unrhyw ddifrod nes bod y gwyntoedd cryfion wedi darfod.
  • Os oes rhaid i chi fynd allan, ceisio defnyddio drysau ar ochr gysgodol y tŷ yn unig.
  • Os cewch eich dal y tu allan mewn gwyntoedd cryfion, dylech fynd yn ôl dan do cyn gynted â phosibl.
  • Cadw draw o ochr gysgodol waliau a ffensys - os ydyn nhw’n cwympo, byddan nhw’n dymchwel ar yr ochr hon.
  • Ceisio osgoi cerdded yn agos at adeiladau neu goed rhag ofn bod gwrthrychau rhydd yn disgyn neu ganghennau coed yn torri.
  • Cadw draw o ffyrdd neu draciau trên, rhag ofn bod y gwynt yn eich chwythu i lwybr cerbyd sy'n agosáu.
  • Cymryd gofal os ydych chi'n gyrru ar lwybrau agored fel pontydd, neu ffyrdd agored uchel; dylid gohirio eich taith neu ddod o hyd i lwybrau eraill lle bo hynny'n bosibl.
  • Os ydych chi'n gyrru, dylech yrru yn araf a bod yn ymwybodol o wyntoedd o'r ochr; yn enwedig os ydych chi'n tynnu cerbyd arall neu os oes gan eich cerbyd ochrau uchel.

Cynllunio eich teithiau – efallai y bydd y tywydd wedi creu llifogydd sydyn neu wedi achosi i linellau trydan/coed gwympo, gan effeithio o bosibl ar drafnidiaeth gyhoeddus.