Neidio i'r prif gynnwy

Beth i'w wneud os yw'r rhagolygon yn dweud bod stormydd ar y ffordd

  • Symud unrhyw ddodrefn o'r ardd a thynnu eitemau rhydd o'r tu allan i'r tŷ; gallai'r rhain achosi difrod os yw'r gwynt yn eu chwythu.
  • Cau pob drws a ffenestr, yn enwedig drysau mawr y garej.
  • Ceisio parcio cerbydau mewn garej neu yn bell o adeiladau, coed, waliau neu ffensys.
  • Cau a chlymu unrhyw orchuddion storm dros ffenestri.
  • Mae dyfeisiau amddiffyn yn erbyn ymchwydd yn gallu helpu i atal difrod i'ch offer cartref yn ystod ymchwydd pŵer.
  • Fe allwch chi ddefnyddio rhagolygon tywydd y Swyddfa Dywydd i gadw golwg ar rybuddion mellt a gweld a fydd stormydd mellt yn eich ardal.